Gall gyrwyr sy'n gadael i'w hinjan redeg wrth fod wedi parcio wynebu dirwy gryn dipyn yn uwch o heddiw ymlaen, wrth i Lywodraeth Cymru gynyddu ymdrechion i fynd i'r afael â llygredd aer a diogelu iechyd y cyhoedd.
- Bydd y ddirwy am adael i injan cerbyd redeg wrth fod wedi parcio yn codi o £20 i rhwng £75 a £150 o 30 Medi 2026.
- Nod y newid yw diogelu iechyd y cyhoedd drwy leihau llygredd aer, sy'n cyfrannu at glefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint ac yn effeithio'n anghymesur ar blant a phobl agored i niwed.
- Nododd y Gweinidog Cabinet, Llyr Gruffydd, y newid wrth ymweliad ag Ysgol Gynradd Maerun yng Nghasnewydd, lle mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i atal pobl rhag gadael eu hinjans i redeg.
O 30 Medi ymlaen, bydd y gosb benodedig y gall awdurdodau lleol ei gorfodi am adael i injan redeg yn codi o £20 i rhwng £75 a £150, gan adlewyrchu'r niwed difrifol y mae allyriadau cerbydau yn ei achosi i ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd.
O dan Reol 123 o Reolau'r Ffordd Fawr, ni ddylai gyrwyr adael i injan cerbyd redeg ar ôl parcio, wedi iddyn nhw adael y cerbyd neu wrth eistedd ynddo fe, neu adael i injan cerbyd redeg yn ddiangen pan nad yw'r cerbyd hwnnw'n symud ar ffordd gyhoeddus. Er gwaethaf hyn, nid yw llawer o yrwyr yn ymwybodol o'r drosedd hon.
Mae gadael i injan redeg yn creu llygredd aer a sŵn sy'n cyfrannu at amrediad o broblemau iechyd, gan gynnwys clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint. Mae plant, pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd yn arbennig o agored i'r effeithiau.
I nodi'r newid, ymwelodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ag Ysgol Gynradd Maerun yng Nghasnewydd, gan ymuno â disgyblion sydd wedi cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael ei redeg gyda Chyngor Casnewydd, i atal pobl rhag gadael i'w hinjans redeg. Dyluniodd y plant faner yn annog gyrwyr i ddiffodd eu hinjans, sydd bellach yn cael ei harddangos y tu allan i'r ysgol.
Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:
"Rydyn ni'n cymryd camau breision i lanhau ein haer a lleihau llygredd, diogelu iechyd a gwella'r lleoedd lle rydyn ni'n byw. Dyna pam rydyn ni'n cynyddu ystod y ddirwyon y gellir eu rhoi i unrhyw un sy'n gadael i'w injan redeg pan fydd wedi parcio.
"Mae injans yn pwmpio llygredd i'r aer y mae pobl yn ei anadlu, gan gynnwys plant y tu allan i ysgolion a phobl agored i niwed y tu allan i leoliadau gofal iechyd. Mae diffodd mor syml, ac rydyn ni eisiau annog pawb i fynd i'r arfer â gwneud hynny – p'un a ydych chi y tu allan i ysgol, meddygfa, y siopau, gorsaf drenau neu unrhyw le arall.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver:
"Mae llygredd aer yn broblem iechyd cyhoeddus ddifrifol, sy'n cyfrannu at amrediad o gyflyrau gan gynnwys clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint. Mae plant, pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd yn arbennig o agored i'r effeithiau.
"Efallai y bydd gadael i injan redeg i'w weld yn rhywbeth bach, dibwys, ond mae'r effeithiau'n cronni. Bob tro mae injan yn cael ei ddiffodd yn hytrach na'i adael i redeg, rydyn ni'n lleihau faint o lygredd niweidiol rydyn ni i gyd yn ei anadlu, yn enwedig o amgylch ysgolion, ysbytai a mannau eraill lle mae pobl agored i niwed yn debygol o fod.
Byddwn yn annog pawb i ddiffodd eu hinjan bob tro ar ôl parcio, er mwyn gwella iechyd ac osgoi cosb.
