Neidio i'r prif gynnwys

Mae Erasmus+ yn rhaglen gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n ariannu lleoliadau rhyngwladol a phartneriaethau ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio ym maes addysg, hyfforddiant, gwaith ieuenctid a chwaraeon.

Mae'n helpu pobl yng Nghymru i gael gwybodaeth, profiad gwaith a sgiliau newydd trwy astudio, dysgu a gweithio mewn gwledydd eraill.

Ar gyfer pwy

  • Ysgolion ac addysg oedolion.
  • Addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
  • Addysg bellach.
  • Addysg uwch.
  • Pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid.
  • Staff a gwirfoddolwyr mewn sefydliadau chwaraeon.

I gael rhagor o fanylion am ba sefydliadau all wneud cais, gweler canllawiau rhaglen Erasmus+. Mae hon yn ddogfen dechnegol sydd wedi'i hanelu at sefydliadau sy'n paratoi ceisiadau am gyllid.

Help i ddarpar ymgeiswyr

Mae'r Cyngor Prydeinig yn rheoli Erasmus+ yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ceisiadau a chefnogaeth ar gyfer rhedeg y rhaglen o ddydd i ddydd. Ewch i wefan Erasmus+ y British Council i ddarganfod sut y gallech chi, eich dysgwyr neu'ch cydweithwyr elwa ar hyn, ac i gael manylion llawn am fod yn gymwys a sut i wneud cais am gyllid.