Dod â'ch anifail anwes i Gymru
Os ydych chi'n dod â chi, cath neu ffured anwes i Gymru, rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer dod i Brydain Fawr.
Rhaid i unrhyw anifail anwes sy'n teithio i Brydain Fawr fodloni gofynion iechyd llym. Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydynt yn dod â chlefydau difrifol gyda nhw nad ydynt yn bresennol yma.
Ar y dudalen hon
Gwledydd rhestredig a gwledydd heb eu rhestru
Mae'r gofynion teithio ar gyfer anifeiliaid anwes yn wahanol yn dibynnu ar ble y mae'r anifail anwes yn teithio ohono.
Os ydych chi'n teithio o wlad yn yr UE
Os ydych chi'n teithio o wlad yn yr UE (ar GOV.UK), rhaid i'ch anifail anwes fod ag un o'r dogfennau canlynol:
- Pasbort anifail anwes a roddwyd mewn gwlad yn yr UE neu rai gwledydd eraill gan filfeddyg awdurdodedig;
- Tystysgrif Iechyd Anifeiliaid (AHC) a roddwyd ym Mhrydain Fawr gan filfeddyg awdurdodedig yn ystod y 6 mis diwethaf; a
- Thystysgrif iechyd anifeiliaid anwes Prydain Fawr a roddwyd gan filfeddyg awdurdodedig o unrhyw wlad.
Os ydych chi'n teithio o Ogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
Ni fydd angen pasbort anifail anwes na thystysgrif iechyd ar eich ci, cath neu ffured anwes i fynd i mewn i Brydain Fawr.
Cliciwch yma am wybodaeth am deithio i Ogledd Iwerddon ac oddi yno gyda'ch anifail anwes.
Os ydych chi'n teithio o weddill y byd (gwledydd rhestredig a gwledydd heb eu rhestru)
Mae gwledydd yng ngweddill y byd naill ai'n ‘rhestredig’ neu ‘heb eu rhestru’
Gwledydd rhestredig
Gwledydd heb eu rhestru
Rhaid i anifeiliaid anwes sy'n teithio o wledydd heb eu rhestru (ar GOV.UK) fodloni gofynion llymach cyn dod i mewn i Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- wedi cael microsglodyn
- wedi cael brechiad rhag y gynddaredd ac wedi cael prawf gwaed 30 diwrnod yn ddiweddarach i gadarnhau bod y brechlyn wedi gweithio, ac wedi aros tri mis ar ôl y prawf gwaed cyn teithio i'r DU
- wedi cael tystysgrif iechyd anifeiliaid anwes Prydain Fawr (ar GOV.UK) gan filfeddyg awdurdodedig
- wedi cael triniaeth llyngyr (cŵn yn unig) rhwng 24 awr (un diwrnod) a 120 awr (5 diwrnod) cyn teithio
Os nad yw'r gofynion hyn yn cael eu bodloni, mae'n bosibl y gwrthodir mynediad i'ch anifail anwes i Brydain Fawr, neu bydd angen iddo fynd i gwarantin mewn cyfleuster awdurdodedig ar ôl cyrraedd.
Gall cwarantin bara hyd at bedwar mis mewn rhai achosion a byddwch yn gyfrifol am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chwarantin neu drin eich anifail anwes, oni bai bod trefniadau penodol yn berthnasol.
Cŵn tywys a chŵn cymorth
Os oes gennych ‘gi cymorth cydnabyddedig’, gallwch wneud y canlynol:
- teithio ar fwy o lwybrau (ar GOV.UK) na phobl ag anifeiliaid anwes
- defnyddio dulliau teithio lle na chaniateir anifeiliaid eraill, er enghraifft gallwch ddod â'ch ci i gaban yr awyren
Rhaid i gŵn tywys a chŵn cymorth hefyd fodloni'r rheolau arferol (ar GOV.UK) ar gyfer teithio gyda chŵn.
Y Cynllun Cartrefi i Wcráin
Os ydych chi'n dod o Wcráin ac yn ceisio lloches ym Mhrydain Fawr, gweler y dudalen we ‘Dod â'ch anifail anwes i Gymru o Wcráin’
I gael rhagor o wybodaeth am ddod â'ch anifail anwes i Gymru o wledydd rhestredig neu wledydd heb eu rhestru, cysylltwch ag APHA yn uniongyrchol ar:
APHA
+44 3000 200 301 (opsiwn 2)
E-bost: imports@apha.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
