Fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi’u cyhoeddi (WGC 008/2026)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar ei gwefan fersiynau wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y cylchlythyr: WGC 008/2026
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2026
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi’u cyhoeddi
Cyhoeddwyd gan: Tim Spencer, Rheolwr Polisi Rheoliadau Adeiladu
Wedi'i gyfeirio at:
Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Building Safety Competence Foundation
Chartered Association of Building Engineers
Total Training Provisions
I'w anfon ymlaen at:
Swyddogion Rheolaeth Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau'r Senedd
Crynodeb:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar ei gwefan fersiynau wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu. Mae'r Cylchlythyr hwn yn manylu ar y newidiadau sylweddol a wnaed.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il Lawr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Llinell Uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Cylchlythyr
Hysbysiad cymeradwyo: codau, safonau a rheolau diwygiedig ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu
1. Mae Gweinidogion Cymru wedi'm cyfarwyddo i roi gwybod i chi bod fersiynau diwygiedig o'r safonau, y codau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi'u cyhoeddi, sef:
- Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru)
- Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru)
- Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru)
- Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru)
- Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru)
Cwmpas y Cylchlythyr hwn
2. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru.
Notice of revised standards, codes and rules for the building control profession
Hysbysiad am safonau, codau a rheolau diwygiedig ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu
3. Gellir gweld fersiynau diwygiedig o'r dogfennau safonau, codau a rheolau ar gyfer Cymru yn yr adran Adeiladu a Chynllunio ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/safonau-codau-rheolau-ar-gyfer-y-proffesiwn-rheoli-adeiladu
4. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar yr un wefan a chyhoeddir hysbysiad.
5. Mae mwyafrif y diweddariadau a wneir i'r fersiynau drafft yn fân newidiadau i eiriad er mwyn eglurder a chysondeb. Ceir manylion am newidiadau sylweddol isod, ac mae dogfennau sy'n cynnwys yr holl newidiadau wedi'u tracio yn Gymraeg a Saesneg ar gael ar gais.
6. Yn achos Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru), mae'r newidiadau fel a ganlyn:
- Ychwanegu deiliaid dyletswydd at nifer o baragraffau, gan gynnwys at ddisgrifiadau atebolrwydd a chymhwysedd, i sicrhau bod y testun presennol yn cyd-fynd â'r rheoliadau adeiladu a ddaeth i rym ar 1 Gorffennaf 2026. Gwnaed diwygiadau i baragraffau 2.7, 2.27, 2.36, 2.41, 5.45, 5.46, 5.49, 5.57, 5.58, 5.70, 5.88 a 5.91.
- Amnewid cyfeiriadau at adrannau 11 a 30 o Ddeddf Adeiladu 1984 ym mharagraff 2.43. Mae'r pwynt blaenorol wedi'i ddisodli gan "rheoli prosesau a gweithdrefnau ar gyfer ceisiadau llacio, apeliadau ac anghydfodau".
- Mewnosod diffiniad o adeiladau risg uwch (HRBs) ym mharagraff 2.34.
- Ychwanegu dealltwriaeth o sut y mae rheoli diogelwch adeiladau yn cefnogi'r broses o sicrhau cydymffurfedd â'r rheoliadau adeiladu ar gyfer pob math o adeiladau i feini prawf cymhwysedd Lefel D ar gyfer rheoli diogelwch ym mharagraff 5.83.
7. Yn achos y Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru), mae'r newidiadau fel a ganlyn:
- Dim ond mân newidiadau gramadegol a fformatio sydd wedi'u gwneud yn y gwelliant hwn.
8. Yn achos y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru) mae'r newidiadau fel a ganlyn:
- Mae Rheol 4.5 wedi’i diwygio i egluro bwriad ynghylch dylanwad amhriodol.
- Mae nifer o fân newidiadau gramadegol a fformatio wedi’u gwneud i wella eglurder a chysondeb.
9. Yn achos y Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru), mae'r newidiadau fel a ganlyn:
- Mae'r diffiniad o ddeiliad dyletswydd wedi'i ddiwygio i gyd-fynd â rheoliadau adeiladu a ddaeth i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
- Mae nifer o fân newidiadau gramadegol a fformatio wedi'u gwneud i wella eglurder a chysondeb.
10. Yn achos Rheolau Safonau Gweithredol Trefniadau Monitro (Cymru), mae'r newidiadau fel a ganlyn:
- Mae canllawiau ychwanegol wedi'u hychwanegu at lawer o'r dangosyddion perfformiad allweddol.
- Mae rhai o'r cyfeiriadau at ddeddfwriaeth wedi'u diweddaru i gyd-fynd â'r rheoliadau cyfredol.
Ymholiadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylid eu hanfon at:
Rheoliadau Adeiladu, 2il Lawr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir,
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu
