Neidio i'r prif gynnwys

Cyfyngiadau

Yng Nghymru, rydyn ni'n cynnal profion ar wartheg mewn buchesi sydd â Statws heb TB Swyddogol (OTF) o leiaf unwaith y flwyddyn. Rydyn ni'n defnyddio'r Prawf Croen Sengl Cymharol (y SICCT neu'r "prawf croen"). Mae hyn yn rhan allweddol o’n gwaith i gadw golwg ar TB. Ei nod yw rhoi cadarnhad pendant bod buchesi yn ddi-glefyd ac yn gallu cael eu gwerthu. 

Bydd buches yn colli ei statws OTF pan osodir cyfyngiadau symud arni. Gallai hyn fod oherwydd unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol: 

  • pan fydd anifail yn cael adwaith neu adwaith amhendant (IR) i'r prawf croen pan fo lle i gredu bod TB ar yr anifail, naill ai: 
    • fel achos clinigol ar fferm, neu
    • mewn archwiliad cig arferol mewn lladd-dy pan sylwir ar friwiau sy'n debyg i TB mewn post-mortem 
  • prawf croen hwyr

Pan gyflwynir cyfyngiadau symud ar y fuches: 

  • ni chewch symud anifail i’r fuches nac allan ohoni heb drwydded gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
  • gallwch symud gwartheg o'r fuches o dan drwydded:
    • i'w lladd yn syth
    • i Ganolfan Gasglu Gymeradwy
    • i Uned Besgi Gymeradwy (AFU)
    • i AFUE yn Lloegr
    • i arwerthiant arbennig TB ("Marchnad Oren")
    • i Uned Ynysu TB, neu i ddaliad arall sydd o dan gyfyngiadau TB

Dim ond ar ôl cael asesiad risg ffafriol y caiff trwyddedau i ganiatáu'r symudiadau hyn eu cymeradwyo. 

  • ni chewch ddod â stoc newydd i’r fuches nes bod eich holl wartheg wedi cael prawf croen ychwanegol. Mewn rhai amgylchiadau e.e. mewn achosion lladd-dy: 
  • efallai y bydd angen cynnal prawf gwirio (CT) ar y fuches gyfan yn syth, a phrawf croen pellach ar y fuches gyfan
  • bydd APHA yn cyflwyno hysbysiad sy'n gofyn i'r holl anifeiliaid canlynol gael eu hynysu: 
    • anifeiliaid y credir eu bod yn achosion clinigol
    • anifeiliaid sydd wedi cael adwaith neu IRs i'r prawf croen
    • anifeiliaid sydd wedi cael canlyniad positif i brawf gama a/neu IDEXX*, neu 
    • anifeiliaid y nodwyd eu bod yn Gysylltiadau Uniongyrchol (anifeiliaid risg uwch) i'w difa

*Profion gwaed sy'n ategu'r prawf croen yw'r prawf Interfferon-gama (y "prawf gama") a'r prawf IDEXX. Gallant adnabod anifeiliaid ychwanegol sydd wedi'u heintio â TB a fethwyd gan y prawf croen.

Mae cyfyngiadau symud yn lleihau’r risg o ledaenu TB o fewn y fuches a rhwng buchesi. Pan fydd cyfyngiadau symud ar fuches, cynhelir mwy o brofion hyd nes: 

  • y bydd y drefn brofi ofynnol wedi'i chwblhau, ac
  • y bydd y canlyniadau'n negyddol, neu'n glir

Yn achos prawf hwyr, mae angen profi'r holl anifeiliaid cymwys cyn codi'r cyfyngiadau symud. 

Statws

Gellir rhoi un o dri statws TB i fuchesi Cymru: 

  • Statws heb TB Swyddogol (OTF) 
  • Statws heb TB Swyddogol wedi’i Atal (OTFS) 
  • Statws heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW)

Statws heb TB Swyddogol 

Mae buchesi’n cael y Statws heb TB Swyddogol os ydy’r profion TB i gyd yn glir. Mae'r buchesi hyn wedi bodloni'r gofynion profi sydd eu hangen i allu gwerthu'r gwartheg ar y farchnad agored.

Statws heb TB Swyddogol wedi’i Atal (OTFS) 

Bydd achosion newydd o TB ledled Cymru yn cael Statws Heb TB Swyddogol wedi'i Ddiddymu (OTFW). Mae dau eithriad i hyn, a bydd gan y rhain statws OTFS o hyd:

  • buchesi OTF lle datgelwyd bod amheuaeth o un neu fwy o achosion TB yn y lladd-dy a'u bod yn disgwyl canlyniadau prawf labordy. Efallai y bydd angen Prawf Gwirio croen ar y fuches gyfan. Os bydd y prawf hwn yn glir a bod canlyniad prawf labordy neu PCR yn negyddol, caiff y cyfyngiadau symud eu codi (gweler OTFW isod)
  • ystyrir bod buchesi sydd o dan gyfyngiadau symud yn sgil prawf croen hwyr hefyd yn OTFS, hyd nes bod y profion gofynnol wedi'u cwblhau'n foddhaol

Statws heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu

Bydd pob achos newydd o TB ledled Cymru, a ddaw i'r amlwg yn sgil adwaith i brawf croen neu ddau IR, yn cael Statws Heb TB Swyddogol wedi'i Ddiddymu (OTFW).

Bydd yr achosion hynny sydd â statws OTFS o hyd (fel yr amlinellir uchod) yn troi yn OTFW yn yr achosion canlynol:

  • datgelir bod un neu fwy o wartheg wedi cael adwaith i brawf croen (neu IRs safonol ddwywaith) mewn unrhyw brawf croen dilynol 
  • mae achos lladd-dy yn cael canlyniad positif mewn prawf labordy 
  • gall Milfeddyg Arweiniol Cymru roi statws OTFW i fuches OTFS mewn amgylchiadau eithriadol

Cymerir camau ychwanegol mewn achos OTFW i leihau'r risg o anifeiliaid heintiedig yn lledaenu'r clefyd:

  • mae anifeiliaid sy'n cael eu symud o'r fuches sydd wedi'i heintio â TB yn cael eu holrhain a'u profi os yw hynny'n briodol 
  • mae buchesi cyfagos yn cael eu harchwilio a'u profi os yw hynny'n briodol 
  • gellir ystyried lladd anifeiliaid ychwanegol sydd mewn perygl o gael eu heintio fel Cysylltiadau Uniongyrchol (DCs) 
  • gellir ystyried lladd yr anifeiliaid sy'n weddill yn y grŵp neu'r fuches os yw'r haint yn ddifrifol ac yn eang

Pan roddir statws OTFW i fuches, cynhelir profion dilynol arni nes ein bod yn hollol sicr nad yw’r clefyd yn bresennol mwyach. Mae angen i fuchesi sydd â statws OTFW gael dau brawf TB clir yn olynol i adennill statws OTF. Rhaid bod bwlch o 60 diwrnod o leiaf rhwng y profion, a rhaid i'r prawf cyntaf o leiaf gael ei ddarllen o dan amodau llym. Unwaith y bydd y fuches yn adennill statws OTF, gellir codi'r cyfyngiadau symud.

Rhagor o wybodaeth