Statws TB buchesi a chyfyngiadau symud
Rhaid i fuchesi fodloni gofynion gorfodol o ran cael profion croen clir er mwyn cael statws Heb TB Swyddogol.
Ar y dudalen hon
Cyfyngiadau
Yng Nghymru, rydyn ni'n cynnal profion ar wartheg mewn buchesi sydd â Statws heb TB Swyddogol (OTF) o leiaf unwaith y flwyddyn. Rydyn ni'n defnyddio'r Prawf Croen Sengl Cymharol (y SICCT neu'r "prawf croen"). Mae hyn yn rhan allweddol o’n gwaith i gadw golwg ar TB. Ei nod yw rhoi cadarnhad pendant bod buchesi yn ddi-glefyd ac yn gallu cael eu gwerthu.
Bydd buches yn colli ei statws OTF pan osodir cyfyngiadau symud arni. Gallai hyn fod oherwydd unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol:
- pan fydd anifail yn cael adwaith neu adwaith amhendant (IR) i'r prawf croen pan fo lle i gredu bod TB ar yr anifail, naill ai:
- fel achos clinigol ar fferm, neu
- mewn archwiliad cig arferol mewn lladd-dy pan sylwir ar friwiau sy'n debyg i TB mewn post-mortem
- prawf croen hwyr
Pan gyflwynir cyfyngiadau symud ar y fuches:
- ni chewch symud anifail i’r fuches nac allan ohoni heb drwydded gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
- gallwch symud gwartheg o'r fuches o dan drwydded:
- i'w lladd yn syth
- i Ganolfan Gasglu Gymeradwy
- i Uned Besgi Gymeradwy (AFU)
- i AFUE yn Lloegr
- i arwerthiant arbennig TB ("Marchnad Oren")
- i Uned Ynysu TB, neu i ddaliad arall sydd o dan gyfyngiadau TB
Dim ond ar ôl cael asesiad risg ffafriol y caiff trwyddedau i ganiatáu'r symudiadau hyn eu cymeradwyo.
- ni chewch ddod â stoc newydd i’r fuches nes bod eich holl wartheg wedi cael prawf croen ychwanegol. Mewn rhai amgylchiadau e.e. mewn achosion lladd-dy:
- efallai y bydd angen cynnal prawf gwirio (CT) ar y fuches gyfan yn syth, a phrawf croen pellach ar y fuches gyfan
- bydd APHA yn cyflwyno hysbysiad sy'n gofyn i'r holl anifeiliaid canlynol gael eu hynysu:
- anifeiliaid y credir eu bod yn achosion clinigol
- anifeiliaid sydd wedi cael adwaith neu IRs i'r prawf croen
- anifeiliaid sydd wedi cael canlyniad positif i brawf gama a/neu IDEXX*, neu
- anifeiliaid y nodwyd eu bod yn Gysylltiadau Uniongyrchol (anifeiliaid risg uwch) i'w difa
*Profion gwaed sy'n ategu'r prawf croen yw'r prawf Interfferon-gama (y "prawf gama") a'r prawf IDEXX. Gallant adnabod anifeiliaid ychwanegol sydd wedi'u heintio â TB a fethwyd gan y prawf croen.
Mae cyfyngiadau symud yn lleihau’r risg o ledaenu TB o fewn y fuches a rhwng buchesi. Pan fydd cyfyngiadau symud ar fuches, cynhelir mwy o brofion hyd nes:
- y bydd y drefn brofi ofynnol wedi'i chwblhau, ac
- y bydd y canlyniadau'n negyddol, neu'n glir
Yn achos prawf hwyr, mae angen profi'r holl anifeiliaid cymwys cyn codi'r cyfyngiadau symud.
Statws
Gellir rhoi un o dri statws TB i fuchesi Cymru:
- Statws heb TB Swyddogol (OTF)
- Statws heb TB Swyddogol wedi’i Atal (OTFS)
- Statws heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW)
Statws heb TB Swyddogol
Mae buchesi’n cael y Statws heb TB Swyddogol os ydy’r profion TB i gyd yn glir. Mae'r buchesi hyn wedi bodloni'r gofynion profi sydd eu hangen i allu gwerthu'r gwartheg ar y farchnad agored.
Statws heb TB Swyddogol wedi’i Atal (OTFS)
Bydd achosion newydd o TB ledled Cymru yn cael Statws Heb TB Swyddogol wedi'i Ddiddymu (OTFW). Mae dau eithriad i hyn, a bydd gan y rhain statws OTFS o hyd:
- buchesi OTF lle datgelwyd bod amheuaeth o un neu fwy o achosion TB yn y lladd-dy a'u bod yn disgwyl canlyniadau prawf labordy. Efallai y bydd angen Prawf Gwirio croen ar y fuches gyfan. Os bydd y prawf hwn yn glir a bod canlyniad prawf labordy neu PCR yn negyddol, caiff y cyfyngiadau symud eu codi (gweler OTFW isod)
- ystyrir bod buchesi sydd o dan gyfyngiadau symud yn sgil prawf croen hwyr hefyd yn OTFS, hyd nes bod y profion gofynnol wedi'u cwblhau'n foddhaol
Statws heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu
Bydd pob achos newydd o TB ledled Cymru, a ddaw i'r amlwg yn sgil adwaith i brawf croen neu ddau IR, yn cael Statws Heb TB Swyddogol wedi'i Ddiddymu (OTFW).
Bydd yr achosion hynny sydd â statws OTFS o hyd (fel yr amlinellir uchod) yn troi yn OTFW yn yr achosion canlynol:
- datgelir bod un neu fwy o wartheg wedi cael adwaith i brawf croen (neu IRs safonol ddwywaith) mewn unrhyw brawf croen dilynol
- mae achos lladd-dy yn cael canlyniad positif mewn prawf labordy
- gall Milfeddyg Arweiniol Cymru roi statws OTFW i fuches OTFS mewn amgylchiadau eithriadol
Cymerir camau ychwanegol mewn achos OTFW i leihau'r risg o anifeiliaid heintiedig yn lledaenu'r clefyd:
- mae anifeiliaid sy'n cael eu symud o'r fuches sydd wedi'i heintio â TB yn cael eu holrhain a'u profi os yw hynny'n briodol
- mae buchesi cyfagos yn cael eu harchwilio a'u profi os yw hynny'n briodol
- gellir ystyried lladd anifeiliaid ychwanegol sydd mewn perygl o gael eu heintio fel Cysylltiadau Uniongyrchol (DCs)
- gellir ystyried lladd yr anifeiliaid sy'n weddill yn y grŵp neu'r fuches os yw'r haint yn ddifrifol ac yn eang
Pan roddir statws OTFW i fuches, cynhelir profion dilynol arni nes ein bod yn hollol sicr nad yw’r clefyd yn bresennol mwyach. Mae angen i fuchesi sydd â statws OTFW gael dau brawf TB clir yn olynol i adennill statws OTF. Rhaid bod bwlch o 60 diwrnod o leiaf rhwng y profion, a rhaid i'r prawf cyntaf o leiaf gael ei ddarllen o dan amodau llym. Unwaith y bydd y fuches yn adennill statws OTF, gellir codi'r cyfyngiadau symud.
