Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel, sef rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon i ddiwygio'r maes diogelu ar gyfer pob oedran ac ar draws y system gyfan. Mae'r rhaglen hon yn dwyn ein hymrwymiadau diogelu ynghyd o dan un fframwaith gwella, gan ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer cryfhau'r gyfundrefn ddiogelu ledled Cymru a chefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu.
Mae pob plentyn, person ifanc, ac oedolyn sy'n wynebu risg yn haeddu bod yn ddiogel, ac i gael eu clywed a'u hamddiffyn. Er bod llawer o enghreifftiau o arferion diogelu effeithiol ledled Cymru, rhaid inni barhau i gryfhau ein trefniadau er mwyn sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi'n gynharach, bod gwersi'n cael eu gweithredu'n fwy cyson, a bod pobl yn cael eu hamddiffyn a'u cefnogi yn unol â'u hanghenion.
Trwy arweinyddiaeth gryfach, atebolrwydd a goruchwyliaeth genedlaethol, bydd y rhaglen yn gwella'r ffordd y mae gwybodaeth a gwersi yn cael eu dwyn ynghyd a'u defnyddio. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc, oedolion sy'n wynebu risg, dioddefwyr a goroeswyr yn llywio'r gwasanaethau sydd â'r nod o'u hamddiffyn.
Mae Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel yn ymateb i gasgliadau'r Adolygiad Atgyfnerthu Trefniadau Llywodraethiant Diogelu, o dan arweiniad Jan Pickles OBE. Nododd yr Adolygiad fod angen goruchwyliaeth genedlaethol gadarnach, atebolrwydd cliriach, a threfniadau mwy cyson ar gyfer casglu, rhannu, a gweithredu ar wybodaeth a dysgu sy'n gysylltiedig â diogelu. Mae'r rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel yn darparu ein hymateb i'r casgliadau hynny, a bydd yn cryfhau trefniadau diogelu ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a minnau wedi derbyn holl argymhellion Cam 1 yr Adolygiad. Ochr yn ochr â'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, rydym wedi cytuno i fwrw ymlaen ag argymhellion Cam 2, gan gynnwys adolygiadau pellach o drefniadau diogelu mewn addysg, chwaraeon, a lleoliadau ffydd a chred. Rydym yn falch bod Jan Pickles OBE wedi cytuno i gadeirio'r cam nesaf hwn o'r gwaith. Bydd ei harweinyddiaeth barhaus yn rhoi dilyniant o'r adolygiad cychwynnol ac yn galluogi'r gwaith pwysig hwn i symud yn ei flaen yn gyflym.
Bydd y Rhaglen yn bwrw ymlaen â'i gwaith yn seiliedig ar bedair uchelgais, sef arweinyddiaeth ac atebolrwydd cryfach; trefniadau diogelu clir a chyson ledled Cymru; system sy’n dysgu ac yn gwella; a gwrando ar blant ac oedolion a gweithredu’n gynt er mwyn lleihau niwed. Bydd yr uchelgeisiau hyn yn cael eu cyflawni drwy raglen o weithgarwch fesul cam yn ystod tymor y Senedd hon, gan gryfhau arweinyddiaeth, gwella atebolrwydd, cefnogi dysgu a gwelliant parhaus, a chreu'r sylfeini i wella'r system yn y tymor hir.
Un o nodweddion craidd y rhaglen yw ei hymrwymiad i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant, pobl ifanc, oedolion sy'n wynebu risg, dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu clywed a bod camau gweithredu'n cael eu cymryd ar sail hynny. Mae eu profiadau yn rhoi dealltwriaeth hanfodol o'r ffordd y mae trefniadau diogelu yn gweithredu yn ymarferol, a byddant yn helpu i lywio gwelliannau, gwersi ac atebolrwydd yn y dyfodol.
Mae'r rhaglen hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu system ddiogelu sy'n dysgu ac yn gwella. Trwy gryfhau'r ffordd y mae gwybodaeth, tystiolaeth a dysgu yn cael eu rhannu a'u defnyddio, byddwn yn helpu i nodi risgiau yn gynharach, gwneud penderfyniadau gwell, a sicrhau bod gwella parhaus yn digwydd ar draws y gwasanaethau diogelu.
Mae elfennau allweddol y rhaglen yn cynnwys sefydlu Bwrdd Goruchwyliaeth a Sicrwydd Gweinidogol ar gyfer Diogelu, creu swyddogaeth ddiogelu bwrpasol o fewn Hwb Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol, a datblygu Cynllun Diogelu Cenedlaethol a Chofrestr Risg Diogelu Genedlaethol. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn cryfhau goruchwyliaeth genedlaethol, yn gwella'r dull o nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg, ac yn hybu'r broses o wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ar draws y system ddiogelu.
Bydd y rhaglen hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol ar gynigion ar gyfer Awdurdod Diogelu Oedolion a Phlant i Gymru, ac adrodd gorfodol am achosion o gamdriniaeth ac esgeulustod.
Drwy'r rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel, byddwn yn adeiladu system ddiogelu fwy cydgysylltiedig ac atebol a arweinir gan wybodaeth - system sy'n ymateb i anghenion a phrofiadau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Byddwn yn cryfhau ein gallu i nodi risgiau ac ymateb iddynt, yn gwella hyder y cyhoedd mewn trefniadau diogelu, ac yn darparu gwell amddiffyniad a chanlyniadau i blant, pobl ifanc, ac oedolion sy'n wynebu risg ledled Cymru.
