Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru o dan adran 145 i ddyroddi a diwygio codau ymarfer.

Mae'r pwerau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol â'r gofynion a nodir mewn cod ymarfer wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Rhaid i awdurdodau lleol hefyd roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cynnwys yn y cod ymarfer.

Mae adran 169 o Ddeddf 2014 ac adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Deddf 2006) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG.

Bydd byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cael cyfarwyddyd i arfer eu swyddogaethau perthnasol yn unol â'r gofynion a gynhwysir yn y cod ymarfer.

Cefndir

Am y Cod

Dyroddwyd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: Cod Ymarfer ("y Cod") o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("Deddf 2014") ar 24 Gorffennaf 2024 a daeth i rym ar 1 Medi 2024. Mae'n berthnasol i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG (Partneriaid Statudol) yng Nghymru.

Mae'r Cod yn nodi egwyddorion a safonau ar gyfer arferion comisiynu er mwyn cefnogi mwy o gysondeb, tryloywder, cydweithredu, atebolrwydd a gwelliant parhaus wrth gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth ledled Cymru.

Mae'n hyrwyddo dull comisiynu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, sy'n canolbwyntio ar lesiant a dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i bobl sydd angen gofal a chymorth, ac i ofalwyr di-dâl sydd angen cymorth, gan gefnogi cynaliadwyedd y gweithlu a sefydlogrwydd y farchnad.

Adolygu'r Cod

Ymrwymodd Gweinidogion Cymru i adolygu'r Cod bob dwy flynedd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n gyfredol ac yn gyson â dyheadau arferion comisiynu.

Mae'r Cod diwygiedig arfaethedig hwn yn dileu'r ymrwymiad i gynnal adolygiadau bob dwy flynedd ac yn ei ddisodli â threfn o adolygu'r Cod o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n gyfredol ac yn gyson â'r polisi a'r arferion comisiynu presennol.

Ers cyflwyno'r Cod gwreiddiol, mae Llywodraeth Cymru a Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth wedi parhau i ymgysylltu â chomisiynwyr, darparwyr gwasanaethau, sefydliadau cynrychioliadol, pobl â phrofiad bywyd, gofalwyr di-dâl, gweithwyr gofal cymdeithasol ac eraill er mwyn deall sut mae'r Cod yn gweithredu yn ymarferol.

Mae'r ymgysylltiad hwn, ynghyd â'r hyn a ddysgwyd wrth weithredu'r Cod, wedi nodi meysydd lle gallai egluro a chryfhau'r Cod diwygiedig gefnogi arferion comisiynu gwell a sicrhau canlyniadau gwell i bobl sydd angen gofal a chymorth.

Mae'r adolygiad hefyd wedi ystyried datblygiadau polisi a deddfwriaethol ehangach ers mis Gorffennaf 2024 ac mae wedi arwain at newidiadau arfaethedig i'r Cod diwygiedig.

Newidiadau arfaethedig

Nod y diwygiad arfaethedig yw adeiladu ar y fframwaith presennol drwy nodi'r gofynion yn gliriach a chryfhau disgwyliadau ar gyfer arferion comisiynu.

Ei nod hefyd yw cryfhau mesurau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, hawliau dynol ac egwyddorion gwaith teg, gan sicrhau bod yr ystyriaethau hyn wedi'u hymgorffori drwy'r holl weithgarwch comisiynu, wrth gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.

Rydym wedi cynnwys geirfa yn Atodiad 2 (tudalen 14) i helpu i egluro'r termau a ddefnyddir yn y Cod diwygiedig.

Pam ydym yn adolygu'r Cod?

Nod yr adolygiad yw sicrhau bod y Cod diwygiedig yn parhau'n gyfredol, yn effeithiol ac yn gyson â datblygiadau mewn arferion comisiynu, deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru.

Mae adborth o weithredu'r Cod wedi nodi meysydd lle gallai eglurder ychwanegol, disgwyliadau cryfach neu ganllawiau wedi'u diweddaru helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl sydd angen gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl a chymunedau lleol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar newidiadau arfaethedig i'r Cod diwygiedig ac a ydynt yn cryfhau ei allu i gefnogi arferion comisiynu cyson, tryloyw ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ledled Cymru.

Amserlen ymgynghori

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos.

Rydym yn croesawu ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru.

Bydd eich safbwyntiau yn helpu i lywio'r fersiwn derfynol o'r Cod diwygiedig. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion maes o law yn dilyn yr ymgynghoriad.

Yr hyn sydd ei angen arnom gennych

Rydym yn gofyn am eich barn ar y fersiwn ddiwygiedig ddrafft o'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: Cod Ymarfer.

Bwriad y cwestiynau ymgynghori isod yw helpu i lywio ymatebion, ond croesewir sylwadau ar unrhyw agwedd ar y Cod diwygiedig drafft.

Bydd eich adborth yn helpu i lywio'r fersiwn derfynol o'r Cod diwygiedig.

Crynodeb o'r newidiadau arfaethedig

Bwriad y newidiadau arfaethedig yw cefnogi arferion comisiynu cyson, tryloyw, integredig, cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.

Mae'r prif ddiwygiadau arfaethedig yn ymwneud â'r canlynol:

Gweithredu a goruchwylio

  • diwygiadau i'r adran sy'n nodi rôl y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth wrth gefnogi'r gwaith o weithredu'r Cod diwygiedig, sicrhau gwelliant parhaus a hyrwyddo cysondeb cenedlaethol mewn arferion comisiynu (Paragraff 1.19, tudalen 5)
  • gofyniad i bartneriaid statudol gyflwyno hunanasesiad blynyddol a chynllun gwelliannau â blaenoriaeth i'r Swyddfa Genedlaethol erbyn 30 Ebrill bob blwyddyn

Cydweithio ac arferion comisiynu

  • gofynion cryfach o ran cydweithio, gweithio mewn partneriaeth a chydgomisiynu rhwng partneriaid statudol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, alinio adnoddau a defnyddio trefniadau cyllidebau cyfun i gefnogi hyn (Safon 2)
  • gofynion cryfach o ran defnyddio data, tystiolaeth, profiad bywyd a phrofiad byw i gefnogi sefydlogrwydd a digonolrwydd y farchnad wrth wneud penderfyniadau comisiynu (Safon 3)

Newidiadau deddfwriaethol a pholisi

  • diweddariadau i adlewyrchu'r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023, Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025
  • darpariaethau sy'n ymwneud â'r newid tuag at ddarpariaeth nid-er-elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (Safon 4)

Gwaith teg a chomisiynu cynaliadwy

  • darpariaethau cryfach yn ymwneud â budd a gwerth cyhoeddus, egwyddorion ac arferion gwaith teg, y Cyflog Byw Gwirioneddol, deall costau gofal, a threfniadau tryloyw a chynaliadwy ar gyfer pennu ffioedd (Safonau 5, 6, 7 ac 8)

Cydraddoldeb, hawliau a chynhwysiant

  • gofynion cryfach yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys arferion gwrth-hiliol, anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, cyfathrebu hygyrch ac addasiadau rhesymol (Safon 10)
  • adran newydd ar gomisiynu niwrogynhwysol, dulliau cynllunio cyffredinol ac addasiadau rhesymol
  • gofynion cryfach yn ymwneud â darparu gwasanaethau Cymraeg a rhoi'r Cynnig Gweithredol ar waith
  • cydnabyddiaeth gryfach o ofalwyr di-dâl fel partneriaid yn y gwaith o gomisiynu ac adolygu gwasanaethau a gwella eu hansawdd

Cynaliadwyedd a gwytnwch

  • adran newydd ar ddatgarboneiddio, addasu i'r hinsawdd, gwytnwch a chynllunio ymatebion

Mae rhagor o fanylion am bob un o'r diwygiadau arfaethedig wedi'u cynnwys yn y Cod diwygiedig drafft a gyhoeddir ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn.

Beth mae'r newidiadau arfaethedig i'r Cod diwygiedig yn ei olygu yn ymarferol

Mae'r diwygiadau arfaethedig wedi'u bwriadu i gryfhau arferion comisiynu ledled Cymru. Mae'r adrannau canlynol yn egluro beth yw'r prif newidiadau a beth y disgwylir iddynt ei olygu yn ymarferol.

Mwy o bwyslais ar gydgysylltu iechyd a gofal cymdeithasol

Mae'r Cod diwygiedig yn rhoi mwy o bwyslais ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a phartneriaid eraill yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio a darparu gofal a chymorth, yn ogystal â chefnogi gwasanaethau gofal cymunedol integredig.

Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau integreiddio cryfach a gwasanaethau di-dor rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mwy o gynllunio cydgysylltiedig wrth weithio tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.

Y bwriad yw cefnogi cynllunio a darpariaeth gydgysylltiedig ar draws ffiniau sefydliadol, gan gynnwys llwybrau integredig, modelau gofal cymunedol a, lle bo hynny'n briodol, hyrwyddo defnydd cyson o adnoddau neu ddefnyddio cyllidebau cyfun.

Arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a mwy o gysondeb

Mae'r Cod diwygiedig yn cynyddu rôl y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth o ran helpu i weithredu'r Cod a gwella prosesau comisiynu ledled Cymru.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn goruchwylio ac yn cefnogi'r broses o weithredu'r Cod diwygiedig, yn monitro cydymffurfiaeth â'i ofynion ac yn cynnal adnoddau comisiynu, canllawiau, templedi ac enghreifftiau o arfer da er mwyn hyrwyddo mwy o gysondeb a gwelliant parhaus ledled Cymru.

Mwy o atebolrwydd

Mae'r Cod diwygiedig yn cyflwyno disgwyliadau cryfach fel y gall sefydliadau ddangos sut maent yn bodloni'r safonau comisiynu.

Bydd yn ofynnol i bartneriaid statudol ddangos cydymffurfiaeth â'r Cod diwygiedig a chyflwyno hunanasesiad a chynllun gwelliannau â blaenoriaeth blynyddol i'r Swyddfa Genedlaethol.

Bwriad hyn yw cefnogi'r broses o ddarparu tystiolaeth gliriach o gynnydd, canlyniadau a gwelliant parhaus.

Caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, cyllid teg a gwasanaethau cynaliadwy

Mae'r Cod diwygiedig yn canolbwyntio mwy ar yr hyn y mae comisiynu ar gyfer gwerth cyhoeddus yn ei olygu a sut y gall deddfwriaeth a pholisi caffael gynorthwyo comisiynwyr i ddadlau o blaid gwerth yn ogystal â chost.

Mae hefyd yn rhoi mwy o sylw i ddeall cost wirioneddol gofal a sicrhau bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn ariannol.

Bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar:

  • ddeall cost wirioneddol gofal
  • cytuno ar ffioedd teg a chynaliadwy
  • cefnogi egwyddorion ac arferion gwaith teg, gan gynnwys y Cyflog Byw Gwirioneddol
  • sicrhau ystyriaeth briodol o fanteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ehangach ochr yn ochr â chost, sefydlogrwydd y farchnad a chynaliadwyedd hirdymor

Comisiynu perthynol, cyd-gynhyrchu a chydweithredu

Mae'r Cod diwygiedig yn cryfhau'r pwyslais ar gomisiynu perthynol a phwysigrwydd cyd-gynhyrchu a chydweithio.

Mae'r dull diwygiedig yn rhoi mwy o bwyslais ar gomisiynwyr, darparwyr gwasanaethau, pobl a chymunedau yn gweithio fel partneriaid i lunio gwasanaethau a chefnogi'r canlyniadau sy'n bwysig i bobl.

Cymorth gwell i'r gweithlu

Mae'r Cod diwygiedig yn rhoi pwyslais cryfach ar werthfawrogi a chefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Bydd cynllunio'r gweithlu, partneriaeth gymdeithasol a llesiant y gweithlu yn dod yn ystyriaethau mwy amlwg mewn gweithgareddau comisiynu, ynghyd â recriwtio, cadw staff, sgiliau, amrywiaeth y gweithlu a'r gallu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Pwyslais cryfach ar gydraddoldeb, hawliau dynol a chynhwysiant

Mae'r Cod diwygiedig yn cryfhau disgwyliadau yn ymwneud â chyd-gynhyrchu, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a dileu rhwystrau i fynediad a chynhwysiant.

Mae'n atgyfnerthu pwysigrwydd deall anghenion a phrofiadau'r boblogaeth wrth gomisiynu gwasanaethau.

Disgwylir i gomisiynwyr:

  • nodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau
  • ystyried croestoriadedd
  • hyrwyddo hawliau dynol
  • ymwreiddio cydraddoldeb ac arferion gwrth-hiliol yn eu holl waith cynllunio, caffael a gwerthuso gwasanaethau

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch a bod addasiadau rhesymol priodol yn cael eu hystyried ym mhob agwedd ar arferion comisiynu a darparu gwasanaethau.

Pwyslais cryfach ar gomisiynu niwrogynhwysol

Mae'r Cod diwygiedig yn cyflwyno mwy o bwyslais ar ddulliau niwrogynhwysol.

Mae'r dull diwygiedig yn hyrwyddo cynllunio cyffredinol, addasiadau rhesymol sy'n seiliedig ar angen yn hytrach na diagnosis, a'r broses ragweithiol o ddileu rhwystrau drwy gydol y cylch comisiynu.

Ymrwymiad cryfach i'r Gymraeg

Mae'r Cod diwygiedig yn atgyfnerthu hawl unigolion i dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cyfeirio at adnoddau ategol.

Rhaid ystyried anghenion y Gymraeg o ddechrau'r broses gynllunio, gan gynnwys drwy asesiadau o anghenion y boblogaeth, adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad, cynllunio'r gweithlu a threfniadau contractiol sy'n cefnogi hyrwyddo a darparu'r Cynnig Gweithredol.

Eglurder ar newidiadau wrth gomisiynu gwasanaethau plant yng Nghymru

Mae'r Cod diwygiedig yn cryfhau disgwyliadau yn ymwneud â chynllunio a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn dilyn gweithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025.

Bydd angen i drefniadau comisiynu gefnogi cynlluniau digonolrwydd blynyddol awdurdodau lleol, datblygu darpariaeth leol, a'r newid i ddarpariaeth nid-er-elw ddigonol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Disgwyliadau wedi'u diweddaru ar gyfer yr hinsawdd a chynaliadwyedd

Mae'r Cod diwygiedig yn cyflwyno pwyslais cryfach ar gynaliadwyedd amgylcheddol, datgarboneiddio ac addasu i'r hinsawdd.

Bydd angen i bartneriaid statudol ystyried allyriadau carbon a risgiau'r hinsawdd wrth gomisiynu gwasanaethau, gweithio gyda darparwyr ar Gynlluniau Ymateb i'r Hinsawdd a sicrhau bod trefniadau addasu a pharhad busnes cymesur ar waith.

Defnydd gwell o ddata, tystiolaeth a phrofiad bywyd

Mae'r Cod diwygiedig yn rhoi mwy o bwyslais ar ddata, tystiolaeth a phrofiad bywyd wrth wneud penderfyniadau.

Bydd angen i benderfyniadau comisiynu ddefnyddio data meintiol, tystiolaeth ansoddol a phrofiad bywyd a byw er mwyn deall anghenion presennol ac anghenion y dyfodol, asesu sefydlogrwydd a digonolrwydd y farchnad, monitro ansawdd a gwella canlyniadau.

Cydnabyddiaeth gryfach o ofalwyr di-dâl

Mae'r Cod diwygiedig yn atgyfnerthu pwysigrwydd cydnabod gofalwyr di-dâl fel partneriaid wrth gomisiynu gwasanaethau, ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt ac ar gyfer y gofalwyr di-dâl eu hunain, yn ogystal ag ar gyfer gweithgareddau adolygu gwasanaethau a gwella ansawdd.

Dylai gwybodaeth am anghenion a phrofiadau gofalwyr di-dâl lywio penderfyniadau cynllunio, comisiynu, datblygu gwasanaethau a buddsoddi, gan helpu i sicrhau bod cymorth ar gael i gynnal eu rolau gofalu a hyrwyddo llesiant gofalwyr.

Yr hyn y bwriedir i’r newidiadau arfaethedig ei gefnogi

I grynhoi, mae'r Cod diwygiedig yn cefnogi gweledigaeth ar gyfer comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar:

  • cynllunio ar gyfer y dyfodol
  • atal ac ymyrryd yn gynnar
  • gwneud defnydd gwell o dystiolaeth a phrofiad bywyd
  • darparu gwerth cyhoeddus
  • gweithio ar y cyd ar draws sefydliadau
  • gwella canlyniadau a helpu pobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt
  • hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol
  • cefnogi llesiant y gweithlu ac egwyddorion ac arferion gwaith teg
  • cryfhau cymorth i ofalwyr di-dâl
  • datblygu gwasanaethau gofal a chymorth cynaliadwy

Mae'r newidiadau arfaethedig i'r Cod diwygiedig yn sicrhau bod pobl, cymunedau a chanlyniadau wrth wraidd pob penderfyniad comisiynu.

Asesiadau effaith

Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant, Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ac asesiadau effaith perthnasol eraill er mwyn ystyried effeithiau posibl y newidiadau arfaethedig i'r Cod diwygiedig.

Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant a'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd wedi'u cyhoeddi ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori hon.

Rydym yn croesawu safbwyntiau ar yr effeithiau a nodwyd, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth a allai awgrymu effeithiau ychwanegol nad ydynt eisoes wedi'u hystyried.

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn llywio'r asesiadau effaith terfynol a'r gwaith o ddatblygu Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r Cod diwygiedig pan gaiff ei osod gerbron Senedd Cymru.

Mae'r asesiadau effaith cysylltiedig yn dod i'r casgliad y disgwylir i'r Cod diwygiedig gael effaith gadarnhaol gyffredinol ledled Cymru.

Mae'r asesiadau yn dangos y bydd y Cod diwygiedig yn:

  • cryfhau trefniadau comisiynu strategol, ataliol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
  • helpu i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth teg a hygyrch
  • atgyfnerthu ymrwymiadau i gydraddoldeb, cynhwysiant, llesiant a hawliau plant
  • hyrwyddo mwy o gysondeb mewn arferion comisiynu
  • gwella cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad a chyd-gynhyrchu
  • gwella canlyniadau i unigolion, teuluoedd a chymunedau, yn enwedig y rhai sy'n wynebu anfantais neu rwystrau i gael mynediad at wasanaethau

Ni nodwyd unrhyw effeithiau andwyol sylweddol.

Bydd prosesau ymgysylltu, monitro a gwerthuso parhaus yn helpu i sicrhau bod y Cod diwygiedig yn cael ei weithredu'n effeithiol a'i wella'n barhaus.

Y Camau Nesaf

Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 1 Chwefror 2027.

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr â chanfyddiadau'r asesiadau effaith cysylltiedig.

Cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, ar ôl ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Nod yr adolygiad o God Ymarfer 2024 yw sicrhau ei fod yn parhau'n gyfredol yn unol â pholisi a deddfwriaeth y llywodraeth, a'i fod yn cyd-fynd â dyheadau arferion comisiynu, gan gynnwys cefnogi'r newid i ddarpariaeth nid-er-elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Yn eich barn chi, i ba raddau mae'r diwygiadau arfaethedig i'r Cod yn bodloni'r amcan hwn?

Cwestiwn 2

Yn ogystal â'r enghreifftiau o gymorth a amlinellir ar dudalen 6 o'r Cod diwygiedig, gan gynnwys cynnal pecyn cymorth ar-lein cynhwysfawr i gynorthwyo partneriaid statudol, a oes unrhyw beth arall y gallai'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth ei wneud i helpu i gyflwyno'r Cod diwygiedig hwn?

Cwestiwn 3

Ydych chi'n rhagweld y bydd unrhyw oblygiadau o safbwynt ariannol, adnoddau, buddion, risgiau neu oblygiadau eraill yn deillio o gyflwyno'r Cod diwygiedig?

Nodwch y manylion isod, gan gynnwys pwy y gallai'r Cod diwygiedig effeithio arnynt ac a yw'r effeithiau yn debygol o ddigwydd unwaith yn unig, yn y tymor byr neu'n barhaus.

Cwestiwn 4

Byddai paragraff 1.45 o'r Cod diwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i bartneriaid statudol ddarparu cynllun hunanasesu a gwelliannau â blaenoriaeth blynyddol, mewn fformat rhagnodedig, i'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth erbyn 30 Ebrill bob blwyddyn.

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r gofyniad arfaethedig hwn?

Cwestiwn 5a

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd cyflwyno'r gofynion a'r canllawiau yn y Cod diwygiedig yn cyfrannu at farchnad gofal sy'n darparu mwy o fudd i'r cyhoedd?

Cwestiwn 5b

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd cyflwyno'r gofynion a'r canllawiau yn y Cod diwygiedig yn cyfrannu at farchnad gofal sy'n darparu gwerth am arian?

Cwestiwn 6

Pa effaith, os o gwbl, ydych chi'n meddwl y byddai'r diwygiadau arfaethedig yn ei chael ar ganlyniadau i bobl sydd angen gofal a chymorth, i ofalwyr di-dâl ac i gymunedau?

Cwestiwn 7

Rydym wedi gofyn cwestiynau penodol am ddiwygiadau arfaethedig i'r Cod. Os oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar unrhyw agwedd ar y Cod diwygiedig drafft, nodwch nhw isod.

Cwestiwn 8a

Pa effeithiau cadarnhaol, negyddol neu niwtral y gallai cyflwyno'r Cod diwygiedig eu cael ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 8b

Sut y gellid diwygio geiriad y Cod diwygiedig er mwyn gwella ei effeithiau ar y Gymraeg?

Awgrymwch unrhyw newidiadau a allai:

  • gynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg
  • sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • osgoi neu leihau unrhyw effeithiau negyddol sy'n deillio o gyflwyno'r Cod diwygiedig

Cwestiwn 9

Ydych chi'n credu y bydd y diwygiadau arfaethedig i'r Cod yn cael unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol penodol ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

Cwestiwn 10

Ydych chi'n credu y bydd y diwygiadau arfaethedig i'r Cod yn cael unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol penodol ar:

  • bobl sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol
  • pobl sydd angen gofal a chymorth
  • gofalwyr di-dâl
  • grwpiau eraill nad ydynt wedi'u nodi eisoes?

Atodiad 1: Ymgysylltiad i lunio'r fersiwn ddiwygiedig o'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: Cod Ymarfer

Cymerodd y rhanddeiliaid canlynol ran mewn gweithgarwch ymgysylltu a lywiodd ddatblygiad y Cod diwygiedig:

  • Comisiynwyr Awdurdodau Lleol
  • Comisiynwyr Byrddau Iechyd Lleol
  • Comisiynwyr Rhanbarthol
  • Cynrychiolwyr timau cyllid
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion
  • Penaethiaid Gwasanaethau Plant
  • Penaethiaid Gwasanaethau Gofal Cymhleth
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant
  • Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol Cymru
  • Cyrff sy'n cynrychioli darparwyr
  • Undebau llafur
  • Darparwyr
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Arweinwyr caffael
  • Llais
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Cydweithwyr polisi Llywodraeth Cymru

Atodiad 2: Geirfa

Cynnig Gweithredol

Sicrhau y gall pobl dderbyn gwasanaethau yn eu dewis iaith, megis y Gymraeg neu'r Saesneg, heb orfod gofyn amdanynt.

Addasu i'r hinsawdd

Gwneud newidiadau er mwyn helpu pobl, gwasanaethau a chymunedau i ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd, megis tywydd mwy poeth, llifogydd neu stormydd.

Cyd-gynhyrchu

Cydweithio gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd, gofalwyr a chymunedau er mwyn cynllunio a gwella gwasanaethau.

Comisiynu

Darganfod pa wasanaethau sydd eu hangen ar bobl, cynllunio sut i'w darparu, a sicrhau eu bod yn gweithio'n dda.

Cydymffurfio

Dilyn y rheolau, y deddfau, y polisïau a'r safonau sy'n berthnasol i wasanaeth neu sefydliad.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Gofalu am yr amgylchedd drwy leihau gwastraff, arbed ynni, a sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n gyfrifol.

Gweithredu

Rhoi cynllun, polisi neu ffordd newydd o weithio ar waith.

Gwasanaethau gofal cymunedol integredig

Gwasanaethau gwahanol, megis gofal iechyd, gofal cymdeithasol, tai a chymorth cymunedol, yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn helpu pobl yn eu hardal leol.

Niwrowahaniaeth

Term a ddefnyddir pan fydd ymennydd rhywun yn gweithio'n wahanol i'r hyn sy'n cael ei ystyried yn nodweddiadol. Mae enghreifftiau'n cynnwys awtistiaeth, ADHD, dyslecsia a dyspracsia.

Dulliau niwrogynhwysol

Dulliau gweithio sy'n croesawu ac yn cefnogi pobl sy'n meddwl, yn dysgu neu'n cyfathrebu'n wahanol.

Canlyniadau

Y newidiadau neu'r gwelliannau cadarnhaol ym mywyd person sy'n deillio o'r cymorth neu'r gwasanaethau y mae'n eu derbyn.

Caffael

Y broses o brynu nwyddau, gwasanaethau neu gyfarpar sydd eu hangen ar sefydliad.

Gwerth cyhoeddus

Y manteision ehangach y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu creu i bobl, cymunedau, yr economi a'r amgylchedd.

Comisiynu perthynol

Ffordd o gynllunio a gwella gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu perthnasoedd cryf, ymddiriedaeth a gwaith tîm rhwng sefydliadau, cymunedau a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

Gwytnwch

Y gallu i ymdopi â heriau, dod dros anawsterau ac addasu i newid.

Partneriaeth gymdeithasol

Grwpiau gwahanol, megis cyflogwyr, gweithwyr, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau, yn gweithio gyda'i gilydd i ddatrys problemau a gwella canlyniadau.

Digonolrwydd gwasanaethau lleol

Sicrhau bod digon o wasanaethau lleol ar gael i ddiwallu anghenion pobl yn y gymuned.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 1 Chwefror 2027, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth
Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni. 

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG54969

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.