Arolwg Dinasyddion: hysbysiad preifatrwydd
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut y caiff eich data ei brosesu a pha mor hir y byddwn yn ei gadw.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Beaufort Research i gynnal Arolwg Dinasyddion o bobl sy'n byw yn Ne Cymru a'r Cymoedd.
Nod yr ymchwil hon yw deall profiadau dinasyddion o fyw a gweithio yn yr ardal a chael synnwyr o ba mor ymwybodol y mae pobl am waith Tasglu'r Cymoedd. Mae'r arolwg yn ceisio deall amryw o feysydd pwnc allweddol sy'n ymwneud â swyddi, sgiliau a theimladau pobl tuag at eu gwasanaethau cyhoeddus a'u cymuned leol. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac mewn cyhoeddiadau eraill o bosibl gan Beaufourt Research a Llywodraeth Cymru.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Beaufort yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r cyfweliadau a'r arolygon, ac yn tynnu enwau o'r data amrwd, cyn eu rhannu â Llywodraeth Cymru.
Mae'n gwbl wirfoddol i gymryd rhan. Fodd bynnag, mae eich safbwyntiau a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Chris Timmins yw'r enw cyswllt yn Beaufort ar gyfer yr arolwg hwn. Ffôn: 029 2037 0606 E-bost: chris@beaufortresearch.co.uk.
Pa ddata personol sydd gennym, ac o ble ddaeth eich manylion?
Caiff data personol eu diffinio dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.
Cafodd eich manylion cyswllt eu darparu i Beaufort gan Lywodraeth Cymru. Darparwyd y manylion hyn yn wreiddiol pan gymeroch ran yn Arolwg Cenedlaethol Cymru a chytuno hefyd y gellid cysylltu â chi eto maes o law at ddibenion ymchwil bellach.
Nid oes angen casglu rhagor o ddata personol ar gyfer yr arolwg hwn. Fodd bynnag, os darperir data personol mewn cwestiynau penagored, nid ydym yn ceisio eich adnabod neu gysylltu eich hunaniaeth â'ch ymatebion.
Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn a byddwch yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais cyn ei ddileu o'r data ymchwil.
Ar ôl derbyn data amrwd yr arolwg, bydd unrhyw wybodaeth a fydd yn golygu bod modd adnabod person yn cael ei dileu a'r enwau yn cael eu tynnu o'r canlyniadau.
Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu eich data?
Ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn.
Mae'n gwbl wirfoddol i gymryd rhan. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu i:
- benderfynu sut i reoli'r ffordd y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ynglŷn â gwaith Tasglu'r Cymoedd
- deall faint o lwyddiant y mae Tasglu'r Cymoedd wedi'i gael
- deall profiad y bobl sy'n byw yn y Cymoedd
Pa mor ddiogel ydy'r data personol a gyflwynir?
Mae'r wybodaeth bersonol a ddarperir i Beaufort Research gan Lywodraeth Cymru yn cael eu trosglwyddo ar unwaith bob amser i rwydwaith diogel Beaufort, yn benodol i fan lle dim ond unigolion awdurdodedig all eu gweld. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar yr ymchwil sy’n gallu defnyddio'r data. At ddibenion ymchwil yn unig y bydd ymchwilwyr cymdeithasol Beaufort yn defnyddio manylion cyswllt cyfranogwyr i gysylltu.
Mae Beaufort wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i fynd i'r afael ag achosion lle ceir amheuaeth o dorri rheolau diogelu data. Os ceir amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Beaufort yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle y bo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Mae gan Beaufort nod ardystio Cyber Essentials.
Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r arolwg hwn yn cael eu dal yn ddi-enw. Ni fyddant yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod person yn cael eu dileu.
Bydd Beaufort yn defnyddio'r data i lunio adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw gyfranogwr.
Am ba hyd ydych chi'n cadw'r data personol?
Bydd Beaufort Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi cael eu tynnu o'r atebion i'r arolwg yn cael eu dileu dri mis wedi i'r contract ddirwyn i ben.
Eich hawliau
Dan y GDPR mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r gwerthusiad hwn:
- hawl i gael mynediad i gopi o'ch data eich hun
- hawl i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
- hawl i wrthwynebu neu gyfyngu unrhyw brosesu (mewn amgylchiadau penodol)
- hawl i'ch data gael eu 'dileu' (mewn amgylchiadau penodol)
- hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Launa Anderson (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru) Ffôn: 0300 025 9274 E-bost: Launa.Anderson@llyw.cymru.
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy'r manylion isod: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.
