Neidio i'r prif gynnwys

Mae stori Cymru yn aml yn cael ei hadrodd drwy ein tirweddau, ein trefluniau ac yn yr adeiladau hanesyddol di-ri a'r henebion o'n hamgylch. Yn ôl ymchwil newydd bwysig wedi'i chyhoeddi heddiw [dydd Gwener 9 Hydref], mae'r mannau hanesyddol hyn, a elwir yn 'amgylchedd hanesyddol', yn cefnogi bron i 18,000 o swyddi ac yn cyfrannu mwy na £738 miliwn i economi'r wlad bob blwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd yn annibynnol gan AMION ar gyfer Cadw (gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy'n gofalu am fannau hanesyddol anwylaf ein gwlad), yn archwilio'r gwerth economaidd a chymdeithasol a'r gwerth ehangach a gynhyrchir gan safleoedd hanesyddol, amgueddfeydd, parciau, tirweddau a sefydliadau treftadaeth ledled Cymru.

Amcangyfrifodd yr astudiaeth fod yr amgylchedd hanesyddol nid yn unig yn cefnogi swyddi i ddegau o filoedd i bobl ac yn cyfrannu bron i dri chwarter £1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ond hefyd mae mwy na 13 miliwn o ymweliadau yn cael eu gwneud bob blwyddyn â safleoedd hanesyddol ac amgueddfeydd achrededig.

Y tu hwnt i'r effeithiau economaidd, canfu'r astudiaeth fod y sector yn cynhyrchu mwy na £107 miliwn o werth cymdeithasol bob blwyddyn drwy wirfoddoli, ymweliadau, addysg ac ymgysylltu â'r gymuned.

Ledled Cymru mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu mwy na 902,000 o oriau at dreftadaeth bob blwyddyn, gan arwain at les gwerth £9.8 miliwn.

Mae'r ymchwil hefyd yn archwilio'r gwerth mae pobl yn ei roi i dreftadaeth hyd yn oed pan nad ydyn nhw eu hunain yn ymweld â safleoedd, gyda llawer yn dweud bod gwybod bod lleoedd hanesyddol yn parhau i ffynnu yn ddigon o destun balchder iddyn nhw.

Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at symud ehangach ar draws y sector tuag at gyn, hwysiant a hygyrchedd, gyda menter tocyn £1 Cadw ar gyfer pobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol yn enghraifft dda o hyn, ac wedi caniatáu i nifer sylweddol o bobl ymweld â mannau am y tro cyntaf.

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:

Mae'r ymchwil yn cadarnhau'r hyn mae nifer ohonom wedi credu ers amser: allwn ni ddim fforddio diystyrru pwysigrwydd ein hamgylchedd hanesyddol. Mae'n rhan hanfodol o'n hunaniaeth a'r hyn sy'n ein gwneud yn unigryw fel cenedl. Mae'r dystiolaeth yma yn cadarnhau y dylid trin treftadaeth a diwylliant fel rhan o seilwaith cenedlaethol Cymru, ochr yn ochr â rhwydweithiau hanfodol eraill.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y manteision hyn yn dibynnu ar fuddsoddi a chyfranogi parhaus, gyda phwysau hinsawdd, prinder sgiliau a heriau cynnal a chadw i gyd yn peri risgiau i'r amgylchedd hanesyddol.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:

Mae'r astudiaeth hon yn rhoi darlun clir a chymhellol inni o wir cyfraniad treftadaeth i Gymru. Mae gofalu am ein treftadaeth yn golygu cymaint mwy na gwarchod cestyll a henebion. Rydyn ni'n cefnogi swyddi, mae gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser, ac mae hanes lleol yn destun balchder o fewn cymunedau.

Yr hydref hwn, mae Llywodraeth Cymru yn galw am dystiolaeth i helpu i lunio ei Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd i Gymru a fydd yn nodi gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae pob person, cymuned a sefydliad yn cael ei annog i rannu ei farn ar gyflwr presennol diwylliant a chwaraeon, er mwyn llunio gweledigaeth genedlaethol a rennir a nodi'r camau ymarferol sydd eu hangen i wireddu uchelgais Cymru i ddod yn bwerdy diwylliannol a chwaraeon.

I gyflwyno eich barn, ewch i llyw.cymru a chwiliwch am 'Gweledigaeth ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru'.