Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ac yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw diben yr arolwg?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal yr arolwg er mwyn deall sut mae ail-alluogi yn cael ei gyflawni ledled Cymru ar hyn o bryd.

Beth yw ail-alluogi?

Mae'r diffiniad Cymru gyfan o ail-alluogi a gytunwyd yn cyfeirio at ddull galluogi lle mae gwasanaethau'n darparu adsefydlu i bobl sydd ag anableddau corfforol neu feddyliol.

Mae'n helpu pobl i ymaddasu i'w cyflwr drwy ddysgu neu ailddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i weithredu ym mywyd bob dydd.

Mae'r ffocws ar hyrwyddo ac optimeiddio annibyniaeth weithredol drwy ymarfer gweithgareddau, yn hytrach nag ymyriadau sydd â'r nod o wella amhariadau sylfaenol (Fframwaith Adsefydlu Cymru Gyfan, 2022).

Ceir diffiniad o adsefydlu a'i gwmpas yn y Fframwaith Adsefydlu.

Sut bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio?

Bydd yr arolwg yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu polisïau, gwneud penderfyniadau, ac ysgogi gwelliant ac arferion da mewn perthynas â gwasanaethau ail-alluogi yng Nghymru.

Ein nod yw deall sut mae darpariaethau ail-alluogi yn cael eu strwythuro, sut mae gwahanol fodelau darpariaeth yn cael eu gweithredu, ac i gasglu adborth ar ddatblygiadau arfaethedig, cyfleoedd neu faterion yr hoffech eu nodi.

Bydd yn darparu gwybodaeth am uchelgeisiau polisi a rhwystrau ar draws awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn helpu i lunio cam nesaf y prosiect ymchwil.

Unwaith y bydd yr holl ymatebion wedi’u dadansoddi, byddwn yn rhannu canfyddiadau'r arolwg gyda chi.

Pa ddata personol sy’n cael eu cadw gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth honno?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei ddefnyddio i’w adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.

Gofynnir i chi yn yr arolwg ddarparu data personol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad e-bost yn y gwaith
  • eich awdurdod lleol

Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol categori arbennig (er enghraifft gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd, ethnigrwydd, credoau crefyddol, neu aelodaeth o undebau llafur) fel y’u diffinnir o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu?

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei chyfer.

Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei phrosesu mewn modd diogel ac yn unol â gofynion GDPR y DU.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr arolwg hwn. Ar ran Llywodraeth Cymru, defnyddir SmartSurvey fel prosesydd data sy’n cydymffurfio â gofynion GDPR y DU, ardystiad ISO 27001 ac achrediad Cyber Essentials Plus.

Caiff data SmartSurvey ei letya yn y DU neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Ni fydd unrhyw ddata personol a gesglir drwy’r arolwg hwn yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU.

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio’ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus. Hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Er bod Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar ei thasg gyhoeddus fel y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu, mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn gwbl wirfoddol.

Gallwch ddewis peidio ag ateb cwestiynau unigol neu dynnu'n ôl o'r arolwg ar unrhyw adeg cyn cyflwyno'ch ymateb.

Unwaith y bydd ymatebion yr arolwg wedi'u gwneud yn ddienw, efallai na fydd yn bosibl adnabod na dileu cyfraniadau unigol.

Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ein gallu i gyflawni ein blaenoriaethau.

Gall yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwil hon gael ei defnyddio i:

  • deall arferion a thueddiadau cyfredol drwy nodi sut mae gwasanaethau ail-alluogi yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth drwy wahanol fodelau darpariaeth
  • llywio polisi a chanllawiau yn y dyfodol drwy ddefnyddio tystiolaeth i lunio fframweithiau cymorth cenedlaethol
  • nodi bylchau a heriau drwy dynnu sylw at rwystrau, risgiau a meysydd lle mae angen cymorth ychwanegol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae'r wybodaeth bersonol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei storio ar weinydd diogel bob amser.

Dim ond nifer cyfyngedig o swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn gallu gweld y data.

Dim ond at ddibenion ymchwil ac i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hyn.

Sut bydd data'r arolwg yn cael eu prosesu?

Bydd y data o'r arolwg yn cael eu coladu gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio SmartSurvey.

Ar ôl i'r arolwg ddod i ben, bydd y data'n cael eu trosglwyddo o SmartSurvey i weinydd diogel Llywodraeth Cymru.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r data.

Adrodd ar ganfyddiadau'r arolwg

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymchwil hwn mewn fformat dienw.

Ni fydd yr adroddiadau yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth bersonol mewn atebion penagored, neu wybodaeth a allai arwain at eich adnabod, yn cael ei dileu.

Bydd y Tîm Polisi Gofal Cartref ac Ailalluogi yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir fel rhan o adroddiad a ddefnyddir i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd yr arolwg ar agor am 3 wythnos.

Bydd y data a ddarperir pan fyddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg yn cael eu cadw ar weinyddion SmartSurvey am y tair wythnos y mae'r arolwg ar agor, yn ogystal ag wythnos ychwanegol er mwyn trosglwyddo'r data i weinyddion diogel Llywodraeth Cymru.

Ar ôl y trosglwyddiad, bydd eich data ar SmartSurvey yn cael eu dileu.

Am ba hyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r data am 12 mis ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo.

Mae hyn er mwyn dadansoddi'r data, yn ogystal â chynnal sgyrsiau dilynol gyda chi os ydych wedi cytuno i hynny.

Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd y data yn cael eu dileu. Fodd bynnag, bydd yr adroddiad yn cael ei gadw.

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r prosiect hwn:

  • yr hawl i gael gweld eich data personol
  • yr hawl i ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hynny
  • yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • yr hawl i ofyn bod eich data yn cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol)
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru  
Parc Cathays  
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno. 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a ddarperir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â:

Cyswllt ymchwil

Denise Moultrie
E-bost: DomiciliaryCarePolicy@llyw.cymru 

Swyddog Diogelu Data

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer / Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: cy.ico.org.uk