Neidio i'r prif gynnwys
Straeon pobl go iawn am Nyth: Mrs Edwards o Gasnewydd

O chwiliad ar-lein i arbedion solar: Nyth yn haneru bil un cartref.

Cyn cysylltu â Nyth, roedd Mrs Edwards yn byw mewn eiddo nad oedd wedi’i gysylltu â’r prif rwydwaith nwy. Am flynyddoedd, roedd hi’n dibynnu ar wresogyddion trydan, oedd yn ddrud i’w rhedeg ac yn ei gwneud hi’n anodd cadw’r tŷ cyfan yn gynnes.

Yn ystod misoedd y gaeaf, yn aml byddai’n rhaid i’r teulu ganolbwyntio ar wresogi un ystafell tra bod gweddill y tŷ yn aros yn oer. 

“Yn y gaeaf, byddai un stafell yn gynnes a gweddill y tŷ yn anodd ei gynhesu. Roedden ni’n dibynnu ar lawer o flancedi ac roedd hi’n anodd cadw’r tŷ’n gynnes.”

Dod o hyd i ateb cynaliadwy

A hithau’n poeni am gostau cynyddol ynni ac eisiau ffordd fwy cynaliadwy o wresogi ei chartref, dechreuodd Mrs Edwards chwilio am gymorth ar-lein, cyn dod o hyd i gynllun Nyth.

Ar ôl iddi siarad gyda’n cynghorwyr cyfeillgar, cafodd yr eiddo ei asesu a’i gymeradwyo i gael pwmp gwres a phaneli solar newydd. 

Unwaith y dechreuodd y gwaith, roedd Mrs Edwards yn fodlon iawn gyda phroffesiynoldeb ac effeithlonrwydd y contractwyr oedd yn cyflawni’r gwaith.

“Roedden nhw’n wych pan ddaethon nhw. Roedd y cyfan fel y disgwyl. Roedden nhw’n gwrtais, yn barchus, ac yn broffesiynol drwy’r cyfan.”

Creu cartref mwy ynni effeithlon

Mae’r gwelliannau yma wedi trawsnewid sut mae Mrs Edwards yn defnyddio ac yn ymdrin ag ynni.

Gan ddefnyddio ap Solarman, gall Mrs Edwards fonitro faint o drydan mae ei phaneli solar yn ei gynhyrchu ac addasu gweithgareddau dyddiol i wneud y mwyaf o’r ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu.

“Dw i wrth fy modd gyda’r ap Solarman! Rydyn ni nawr yn defnyddio’r peiriant golchi ac offer arall sy’n defnyddio llawer o drydan pan fyddwn ni’n cynhyrchu’r mwyaf o ynni solar.”

Mae’r ap hefyd wedi helpu Mrs Edwards i weld effaith amgylcheddol y system.

“Galla i nawr weld faint o goed rydyn ni wedi’u plannu, i bob pwrpas, drwy ein harbedion carbon. Rydyn ni ar 99 o goed yn barod.”

Costau is a thawelwch meddwl

Roedd Mrs Edwards yn gallu teimlo effaith y gwelliannau fwy neu lai yn syth. Ar ôl cofrestru gyda’i darparwr trydan, roedd modd iddi fonitro’r trydan oedd yn cael ei gynhyrchu a faint ohono oedd yn cael ei allforio yn ôl i’r grid.

“O fewn ychydig ddyddiau gallen ni weld ein bod ni’n allforio mwy o drydan i’r grid nag roedden ni’n ei ddefnyddio.”

Mae taliadau debyd uniongyrchol y cartref wedi lleihau tua 50%, tra bod y costau trydan wythnosol bellach yn llai na £10. Mae’r teulu hefyd yn gwneud arian drwy allforio trydan dros ben yn ôl i’r grid.

“Dydy ein biliau ddim hyd yn oed yn £10 yr wythnos erbyn hyn. Erbyn y gaeaf, bydd digon dros ben yn ein cyfrif, ac alla i ddim aros i’r tŷ fod yn gynnes braf.”

“Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr, mawr i ni. Diolch i bawb oedd yn rhan o’r gwaith, a diolch yn arbennig i Sian, am rannu gwybodaeth gyda fi ac am gadw pethau i fynd.”

Allech chi elwa o gymorth Nyth?

I weld a ydych chi'n gymwys i gael gwelliannau ynni cartref am ddim, ffoniwch Nyth am ddim ar 0808 808 2244, neu ewch i wefan Nyth am ragor o wybodaeth.