Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru
Cadw Cymru'n ddiogel yw un o gyfrifoldebau cyntaf y llywodraeth. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn glir: rhaid inni baratoi ar gyfer pob sefyllfa bosibl, sicrhau y gellir dibynnu ar wasanaethau hanfodol mewn argyfwng ac yn ystod heriau sy'n tarfu, a gweithio gyda'n partneriaid i ddiogelu ein heconomi, ein seilwaith a'n cymunedau ledled Cymru.
Mae'r byd yn mynd yn fwy ansicr a chymhleth, ac mae'r risgiau sy'n ein hwynebu yn newid ac yn mynd yn fwy rhyng-gysylltiedig. Mae'r newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r tebygolrwydd o lifogydd, gwres eithafol a thanau gwyllt, ynghyd â'u difrifoldeb. Rhaid i Gymru hefyd fod yn barod ar gyfer seiber-ymosodiadau, pandemigau, argyfyngau diwydiannol a tharfu ar wasanaethau hanfodol, gan gynnwys ynni, dŵr a chyfathrebu.
Ni all yr un sefydliad na chymuned ddelio â'r heriau hyn ar eu pen eu hun. Mae Fframwaith Gwydnwch Cymru, felly, yn tynnu ynghyd y llywodraeth, ymatebwyr brys, y sector cyhoeddus ehangach, busnesau, y sector gwirfoddol a chymunedau i gynnwys pob rhan o gymdeithas. Byddwn yn gweithredu â ffocws a chysondeb cenedlaethol lle mae hynny'n ychwanegu gwerth, gan gydnabod anghenion gwahanol ein cymunedau ar yr un pryd.
Gwelwyd cryfder gweithredu felly yr haf hwn. Yn ystod cyfnodau o wres eithafol a thanau gwyllt sylweddol, gwelwyd partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn cymunedau ac ymateb yn gyflym. Rwyf am dalu teyrnged i'n hymatebwyr brys, ein swyddogion cyhoeddus, ein gwirfoddolwyr a'n cymunedau lleol am eu hymroddiad, a wnaeth helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Wrth i'r gaeaf agosáu, rydym yn paratoi ar gyfer risgiau tywydd garw, llifogydd, pwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, tarfu ar drafnidiaeth ac effeithiau o ran seilwaith critigol. Gall y rhain daro ar yr un pryd a gallant gael yr effaith fwyaf difrifol ar y rhai sydd eisoes yn agored i niwed neu'n wynebu caledi.
Dyna pam ein bod yn parhau i gryfhau ein dealltwriaeth o'r risgiau, profi ein cynlluniau a gwella'r ffordd y mae sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd. A heddiw, gallaf gyhoeddi fy mod yn sefydlu Panel Annibynnol o Gynghorwyr Arbenigol ar Wydnwch i ddarparu cyngor a her annibynnol a thrylwyr o ran trefniadau Cymru ar gyfer argyfyngau sifil posibl. Bydd ei waith yn helpu i sicrhau bod ein parodrwydd a'n gallu i ymateb yn gymesur â'r risgiau a'r bygythiadau sy'n dod i'r amlwg. Bydd hyn yn ategu gwaith goruchwylio ac arwain Fforwm Gwydnwch Cymru a Phartneriaeth Gwydnwch Cymru yn ogystal â gwaith pedwar Fforwm Gwydnwch Lleol Cymru.
Gyda'i gilydd, mae'r trefniadau hyn yn helpu i gryfhau'r arweinyddiaeth strategol, gwella'r cydlynu, a'i gwneud yn bosibl gweithredu mewn ffordd fwy cyson i sicrhau gwydnwch ledled Cymru.
Yn ein paratoadau, rhaid rhoi'r lle canolog i amddiffyn y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i wella'r broses gynllunio, a gofalu bod gwybodaeth yn cael ei defnyddio a'i rhannu'n gyfrifol, er mwyn i bobl a allai fod angen cymorth ychwanegol ddod i'n sylw a chael eu cefnogi'n gyflymach cyn, yn ystod ac ar ôl argyfwng.
Mae parodrwydd hefyd yn dibynnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd a gwybodaeth glir. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth, sydd i fod ar gael i bawb, am y risgiau sydd fwyaf perthnasol i Gymru, a’r hyn y mae'r llywodraeth a'i phartneriaid yn ei wneud i'w rheoli.
Nid gwneud i bobl bryderu yw'r nod wrth ddarparu gwybodaeth am risg. Mae'n ymwneud, yn hytrach, â sicrhau bod gan bobl wybodaeth awdurdodol, ddibynadwy, a hyder bod Cymru yn cynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol.
Ochr yn ochr â’r gwaith yng Nghymru i gynyddu gwydnwch a’r parodrwydd ar gyfer argyfyngau, mae Llywodraeth y DU wrthi’n ystyried cynlluniau pellach i rannu gwybodaeth a chyngor â’r cyhoedd ar risgiau ac argyfyngau, gan adeiladu ar adnoddau presennol fel Cofrestr Risgiau Genedlaethol y DU. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, y gwasanaethau argyfwng, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod gwybodaeth glir ac ymarferol ar gael i unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru, i’w helpu i baratoi ar gyfer ystod o risgiau ac ymateb iddynt.
Mae digwyddiadau diweddar, fel Storm Darragh ddiwedd 2024, wedi dangos pa mor gyflym y gall y pethau hyn darfu ar fywyd bob dydd. Fodd bynnag, nid yw paratoi ar gyfer argyfyngau yn golygu mynd ati i brynu niferoedd mawr o gyflenwadau neu ddisgwyl i bobl wynebu heriau ar eu pen eu hunain. Bydd ein cyngor, felly, yn parhau i fod yn ymarferol, yn gymesur ac yn hawdd cael gafael arno. Ein ffocws yw sicrhau bod cymunedau ac aelwydydd yn teimlo'n hyderus ac yn wybodus. Gall mesurau syml fel cadw manylion cyswllt pwysig wrth law, deall lle mae cael gwybodaeth yn ystod toriad pŵer, holi a ydych yn gymwys i fanteisio ar gynlluniau cymorth fel y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, neu feddwl drwy gynllun argyfwng cartref sylfaenol, i gyd helpu i leihau ar y tarfu pan fydd rhywbeth yn digwydd. Gallwch hefyd ddechrau creu cyflenwad bach o eitemau hanfodol yn raddol, fel rhan o’ch siopa arferol.
Mae'r un mor bwysig bod yn deg ac yn gynhwysol wrth ymbaratoi. Nid oes gan bawb y modd i roi adnoddau ychwanegol i'r neilltu, ac ni ellir disgwyl i unigolion ysgwyddo'r cyfrifoldeb wrth ystyried diogelwch y cyhoedd. Mae ein hymrwymiad i drechu tlodi a chefnogi teuluoedd yn dal i fod yn ganolog i'r gwaith hwn. Byddwn yn parhau i sicrhau bod cyngor cyhoeddus ar ymbaratoi yn ymarferol, yn gymesur ac yn hawdd cael gafael arno, gan weithio ar yr un pryd gyda llywodraeth leol, gwasanaethau cyhoeddus a'r sector gwirfoddol i gefnogi'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol.
Mae sylfeini cadarn yng Nghymru eisoes: ymatebwyr ymroddedig, gwasanaethau cyhoeddus galluog a chymunedau cryf sy'n gofalu am ei gilydd. Byddwn yn adeiladu ar y cryfderau hynny, yn dysgu o bob argyfwng, ac yn parhau i wella ein trefniadau drwy weithio gyda'n gilydd.
Mae gwydnwch yn golygu ymrwymiad parhaus i ddysgu, gwella a pharatoi ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Drwy bartneriaeth, bod yn agored a gweithredu ar y cyd, byddwn yn parhau i adeiladu Cymru sy'n fwy diogel, yn gryfach ac yn fwy parod ar gyfer beth bynnag a ddaw.
Dyna sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu: cadw Cymru'n ddiogel, cynyddu ein gwydnwch, a sicrhau bod ein cenedl yn barod i ymateb pan fo hynny bwysicaf.
