Y risgiau sy'n wynebu Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb.
Cynnwys
Cyflwyniad
Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd a heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.
Gall argyfyngau ddigwydd yn unrhyw le, unrhyw bryd. Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn deall y risgiau sy’n ein hwynebu ac yn teimlo’n barod ac yn hyderus i weithredu pan fo angen.
Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o baratoi ar gyfer argyfyngau yng Nghymru.
Mae Is-adran Diogelwch Gwladol a Gwydnwch Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith i:
- Ddeall a pharatoi ar gyfer risgiau drwy asesu’r risgiau presennol i Gymru yn ogystal â risgiau sy’n dod i’r amlwg
- Cryfhau parodrwydd cenedlaethol gan bartneriaid gweithio a chymunedau i feithrin gallu, darparu hyfforddiant ac ymarferion, a gwella parodrwydd ar gyfer digwyddiadau mawr a digwyddiadau sy’n tarfu
- Cefnogi ymateb, adferiad a dysgu drwy helpu i gydlynu’r gweithredu strategol yn ystod argyfyngau a sicrhau bod gwersi o ddigwyddiadau yn cael eu defnyddio i gryfhau gwydnwch Cymru ar gyfer y dyfodol
I gefnogi’r gwaith hwn o gynllunio ar gyfer argyfyngau, mae gennym strwythurau llywodraethu mewnol ac allanol cadarn ar waith.
Ar lefel genedlaethol, mae’r Prif Weinidog yn cadeirio Fforwm Gwydnwch Cymru (FfGC), sy’n dod ag uwch gynrychiolwyr o bob rhan o’r gymuned ymatebwyr at ei gilydd. Mae’r FfGC yn darparu llwyfan i Weinidogion Cymru a Phrif Swyddogion drafod materion cynllunio strategol ar gyfer argyfyngau.
Mae’r FffGC yn cael ei gefnogi gan Bartneriaeth Gwydnwch Cymru (PGC), sef grŵp amlasiantaethol sy’n cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru. Mae’r PGC yn arwain gwaith i feithrin parodrwydd ar gyfer argyfyngau ar draws pob asiantaeth ar lefel genedlaethol.
Ar lefel leol, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r pedwar Fforwm Gwydnwch Lleol (FfGLl) rhanbarthol sydd gennym. Mae pob FfGLl yn dwyn ynghyd bob sefydliad ymatebwyr sydd â dyletswydd i asesu risgiau a chynllunio ar gyfer argyfyngau o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.
Mae rhagor o wybodaeth am drefniadau cenedlaethol a lleol i'w cael yn Rhaglen gwydnwch Cymru.
Gan nad yw argyfyngau yn parchu ffiniau, rydym yn cydweithio â’n cymheiriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, pan fo hynny’n briodol. Mae rhannu gwybodaeth ac arferion da ledled y DU yn golygu y gallwn i gyd ymateb yn fwy effeithiol i ddigwyddiadau.
Mae'r rhan fwyaf o argyfyngau yng Nghymru yn cael eu trin ar lefel leol. Fodd bynnag, oherwydd maint neu gymhlethdod, efallai y bydd angen rhywfaint o gydlynu neu gefnogaeth gan y llywodraeth ar gyfer rhai argyfyngau. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru yn amrywio, yn dibynnu ar y digwyddiad penodol. Pan fydd digwyddiad yn un sydd ledled y DU, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig eraill.
Pan fydd argyfyngau’n digwydd, mae rhan gan bawb. Mae’r gwasanaethau brys yn barod i ymateb i unrhyw ddigwyddiad, ond gallwn i gyd wneud ein rhan drwy baratoi’n well ar gyfer argyfyngau, er mwyn i’n hymatebwyr allu canolbwyntio ar y rhai sydd angen cymorth fwyaf.
Pwrpas y dudalen hon yw:
- nodi’r prif risgiau sy’n wynebu Cymru
- amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r risgiau allweddol hyn.
Ein gweledigaeth strategol: Fframwaith Gwydnwch Cymru
Mae Fframwaith Gwydnwch Cymru yn nodi cyfeiriad strategol gwydnwch yng Nghymru. Cafodd ei ddatblygu fel cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a’r gymuned ymatebwyr.
Mae’r fframwaith yn nodi ein gweledigaeth, ein disgwyliadau ohonom ni ein hunain a’n partneriaid, a sut byddwn yn parhau i weithio gyda’r gymuned ymatebwyr brys i gryfhau gwydnwch.
Mae’r fframwaith yn cynnwys Cynllun Cyflawni sy’n amlinellu’r camau allweddol y bydd Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn eu cymryd dros y tymor byr, canolig a hir.
Deall risgiau
Mae deall risgiau’n darparu’r sylfaen ar gyfer cynllunio at argyfyngau. Mae’n helpu i flaenoriaethu gwaith a dyrannu adnoddau’n effeithiol.
Yng Nghymru, rydym yn dilyn yr un fethodoleg asesu risg â Llywodraeth y DU. Mae hyn wedi'i nodi yn y Gofrestr Risgiau Genedlaethol. Mae hyn yn golygu ein bod ni i gyd yn deall risg yn yr un ffordd ac y gallwn fod yn gyson wrth ymateb i argyfyngau pan fyddant yn digwydd.
Mae’r Gofrestr Risgiau Genedlaethol yn berthnasol i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith ychwanegol i adlewyrchu’r amgylchiadau penodol yng Nghymru. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn Cofrestr Risgiau gyfrinachol ar gyfer Cymru. Rydym yn dibynnu ar arbenigedd yr FfGLlau a’u Cofrestrau Risgiau Cymunedol i gefnogi'r gwaith hwn.
Mae gwell dealltwriaeth o’r risgiau sy’n wynebu Cymru yn golygu y gallwn gymryd camau targedol i fynd i’r afael â nhw. Mae’r risgiau allweddol wedi’u nodi isod.
Y risgiau allweddol sy’n wynebu Cymru: sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â nhw
Clefydau Anifeiliaid
Mae amaethyddiaeth yn gwneud cyfraniad mawr at economi Cymru. Gall lledaeniad clefydau anifeiliaid fel clwy’r traed a’r genau a ffliw adar ddinistrio cymunedau ffermio. Gall yr achosion hyn hefyd gael effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach, yn enwedig ar ardaloedd gwledig.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’n asiantaethau partneriaethol drwy Gynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Egsotig Hysbysadwy mewn Anifeiliaid 2018 i fynd i'r afael â’r risgiau a gyflwynir gan glefydau anifeiliaid. Mae’r Cynllun yn nodi’r prosesau a’r strwythurau sydd eu hangen i ymateb i achosion o glefydau anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys rolau a chyfrifoldebau’r llywodraeth, rhanddeiliaid a phartneriaid gweithredol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu cyngor ar fioddiogelwch ynglŷn â sut i leihau lledaeniad clefydau anifeiliaid.
Pwysig hefyd yw’r adferiad yn dilyn unrhyw achosion. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu canllawiau ar sut i waredu dŵr a diheintydd yn ddiogel ar ôl achos o glefyd anifeiliaid.
Achosion seiber
Mae dyfeisiau clyfar fel ffonau a chyfrifiaduron yn rhan hanfodol o fywyd modern ac mae’r rhan fwyaf o sefydliadau’n dibynnu ar dechnoleg ddigidol i weithredu. Yn yr oes ddigidol sydd ohoni heddiw, gallai digwyddiad seiber amharu’n sylweddol ar ein bywydau bob dydd. Gallai hefyd arwain at ganlyniadau sylweddol os yw’n effeithio ar seilwaith hanfodol fel cyfleustodau neu rwydweithiau trafnidiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi asesu seiberwydnwch seilwaith allweddol yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn wedi nodi mesurau a fydd yn eu gwneud yn fwy gwydn. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i sefydlu CymruSOC, ein Canolfan Gweithrediadau Diogelwch. Mae hyn yn helpu sefydliadau allweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol yn ystod digwyddiadau seiber.
Rydym hefyd yn cyflawni ein Strategaeth Seiberymarfer. Mae hyn yn cynnig profi ac ymarfer Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau Seiber (CIMP) i awdurdodau lleol, Gwasanaethau Tân ac Achub a chyrff sector cyhoeddus ehangach ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu sawl fideo sy’n eich helpu i ddiogelu eich dyfais/dyfeisiau rhag bygythiadau seiber:
- Adeiladu Cydnerthedd Seiber ar YouTube
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am seiberddiogelwch yn:
Colli trydan
Mae bron popeth a wnawn yn ein bywydau o ddydd i ddydd yn dibynnu ar drydan i weithredu. Gallai colli trydan yn eang ac am gyfnod hir arwain at ganlyniadau trychinebus. Byddai’n arwain at darfu eang ar gyflenwad dŵr, nwy a thelathrebu a gallai hefyd arwain at golli bywyd. Byddai hefyd yn cael effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach o lawer.
Nid ydym erioed wedi cael digwyddiad o’r fath yng Nghymru nac yn wir yn y DU. Mae ein rhwydwaith trydan ni gyda’r rhai mwyaf diogel a dibynadwy yn y byd. Fodd bynnag, rhaid i ni sicrhau bod gennym gynlluniau cadarn ar waith petai’r system yn methu am unrhyw reswm.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chwmnïau nwy a thrydan i gynnal cynlluniau ymateb ar gyfer achosion o darfu’n sylweddol ar gyflenwadau.
Pe bai digwyddiad ar y rhwydwaith nwy, sy’n annhebygol, gall cwmnïau ddilyn gweithdrefnau brys i gydbwyso a chynnal pwysedd drwy roi’r gorau i gyflenwi i ddefnyddwyr diwydiannol mawr. Byddai safleoedd hanfodol yn parhau i gael eu diogelu, tra byddai datgysylltiadau eraill yn cael eu dosbarthu’n gyfartal.
Pe bai trydan yn cael ei golli’n sydyn, sef rhywbeth sy’n annhebygol o ddigwydd, byddai gweithredwr y rhwydwaith yn gallu ad-drefnu ei rwydwaith yn y rhan fwyaf o achosion er mwyn sefydlogi’r grid ac ailgysylltu’r rhan fwyaf o gwsmeriaid.
Mae gan sectorau allweddol eraill hefyd gynlluniau i ddelio â cholli trydan yn lleol. Er enghraifft, mae gan y sector dŵr gynlluniau ar gyfer digwyddiadau’n ymwneud â’r cyflenwad dŵr. Mae hyn yn cynnwys cyd-gymorth rhwng cwmnïau, a chyflenwadau amgen sy’n blaenoriaethu cymunedau agored i niwed. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ‘Colli cyflenwad dŵr’.
Colli cyflenwad dŵr
Gall amrywiaeth o resymau darfu ar gyflenwadau dŵr. Mae hyn yn cynnwys prif bibelli dŵr yn byrstio, colli trydan, a digwyddiadau tywydd eithafol. Gall cyfnodau segur hirach darfu ar bobl a sectorau, a chael effaith sylweddol arnynt.
Mae cwmnïau dŵr yn cynnal cynlluniau ar gyfer digwyddiadau cyflenwi dŵr ac yn ymarfer ac yn profi’r cynlluniau hynny’n rheolaidd. Mae cynlluniau’n ymdrin â chyflenwadau dŵr amgen, a blaenoriaethu cwsmeriaid agored i niwed. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefannau pob cwmni dŵr yng Nghymru:
- Cymorth a chyngor ar Dŵr Cymru
- Digwyddiadau ar Hafren Dyfrdwy Cymru
Pandemig
Pandemigau yw un o’r risgiau mwyaf sylweddol i’r DU. Mae angen dull llywodraeth gyfan, yn ymwneud â phob perygl, i gynllunio ar gyfer effeithiau pandemig.
Yn y dyfodl, gallai pandemig ddod o unrhyw ffynhonnell. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dull gweithredu ‘Un Iechyd’ wrth gynllunio ar gyfer pandemigau. Mae hyn yn golygu ein bod yn ystyried y cysylltiadau rhwng iechyd anifeiliaid, iechyd pobl ac iechyd yr amgylchedd.
Byddai pandemig yn arwain at ganlyniadau sylweddol ledled y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig eraill i wella ein gallu i ymateb i bandemigau yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio dull ‘cymdeithas gyfan’, gan flaenoriaethu anghenion y bobl fwyaf agored i niwed.
Rydym yn dilyn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer gwydnwch argyfyngau iechyd. Rydym yn defnyddio hyn i lywio ein blaenoriaethau buddsoddi yn ymwneud â pharodrwydd am bandemig.
Mae ein gwaith cynllunio ar gyfer pandemigau yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o bandemig COVID-19, canfyddiadau Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19, a digwyddiadau ac ymarferion eraill. Adlewyrchir hyn yn ein Hegwyddorion ar lefel y DU gyfan ar gyfer parodrwydd am bandemig.
Methiant cronfa ddŵr neu argae
Byddai methiant cyforgronfa ddŵr fawr yn cael ei ystyried yn risg uchel pe bai nid yn unig yn achosi difrod i eiddo ond hefyd yn peryglu bywydau pobl. Yng Nghymru, mae tua 270 o gronfeydd dŵr sy’n perthyn i’r categori risg hwn, ac mae tua 290,000 o bobl yn byw mewn ardaloedd a allai gael eu heffeithio pe bai cyforgronfa ddŵr fawr yn methu. Gallwch ddarllen mwy am ddosbarthiadau cronfeydd dŵr ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Byddai methiant argae neu wal gynnal yn achosi i lawer iawn o ddŵr symud yn gyflym iawn, a gallai arwain at ddinistr sylweddol. Gallai hyn arwain at farwolaethau ac anafiadau pe na bai amser i ffoi. Byddai hefyd yn achosi difrod i eiddo, seilwaith a gwasanaethau hanfodol. Mae’n debygol y bydd digwyddiad o’r fath yn arwain at oblygiadau economaidd, amgylcheddol a dyngarol mawr a fydd yn para am gyfnod hir.
Mae’r risg hon wedi hen ennill ei phlwyf, ac ar hyn o bryd deddfir ar ddiogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru a Lloegr drwy Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Yng Nghymru, mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i oddeutu 400 o gronfeydd mawr uchel (a ddyluniwyd neu a ddefnyddiwyd i gasglu 10,000m³ neu fwy o ddŵr uwchlaw lefel naturiol y tir cyfagos).
Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r rhaglen diwygio diogelwch cronfeydd dŵr ar y cyd â Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Roedd Defra wedi sefydlu’r rhaglen diwygio diogelwch cronfeydd yn dilyn digwyddiad yng Nghronfa Toddbrook yn Swydd Derby yn 2019, pan oedd argae rhannol wedi dychwelyd ac wedi arwain at orfodi mwy na 1,500 o bobl i adael yr ardal.
Dyma’r prif ddiwygiadau diogelwch arfaethedig:
- moderneiddio’r dull o ddosbarthu peryglon a gofynion rheoli diogelwch
- gwella cyflenwad a chapasiti peirianwyr diogelwch cronfeydd dŵr
- diweddaru’r dull o reoleiddio a gorfodi.
Tywydd difrifol: sychder/ton wres
Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod Cymru’n wynebu cyfnodau amlach o dywydd poethach a sychach. Mae i hyn nifer o oblygiadau i sawl sector ledled Cymru:
- gall sychder roi pwysau ar gyflenwadau dŵr yfed ac ar yr amgylchedd, a’r sector amaethyddiaeth.
- mae i dywydd poeth iawn oblygiadau i iechyd y cyhoedd, ac mae’n rhoi pwysau ar wasanaethau iechyd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’n cwmnïau dŵr (Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy) yn creu cynlluniau sychder. Mae’r cynlluniau’n amlinellu sut byddant yn rheoli cyflenwadau dŵr yn ystod cyfnodau o dywydd sych. Maent ar gael ar-lein yn:
Mae Grŵp Cyswllt Sychder Cymru yn dod â phartneriaid allweddol at ei gilydd, gan gynnwys y Swyddfa Dywydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmnïau dŵr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Grŵp yn monitro amgylchiadau’r tywydd ac yn cynllunio ar gyfer effeithiau posibl.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu cyngor ar sut i leihau risgiau i iechyd yn ystod tonnau gwres.
Ar lefel y DU, mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu’r Gwasanaeth Rhybudd Tywydd Garw Cenedlaethol sy’n darparu rhybuddion hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw. Mae hyn yn berthnasol i bob math o beryglon tywydd, gan gynnwys y rhai sy’n gallu arwain at amgylchiadau ton wres.
Tywydd difrifol: Llifogydd
Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod Cymru’n wynebu glaw mwy eithafol yn rheolaidd, ac felly digwyddiadau llifogydd amlach. Mae tri phrif fath o lifogydd, sef dŵr wyneb (a chyrsiau dŵr bach), afonydd ac arfordirol.
Llifogydd dŵr wyneb
Gall cyfnodau o law trwm lethu capasiti ein systemau draenio. Gall hyn arwain at lawer iawn o ddŵr yn llifo drwy strydoedd a thros dir. Efallai y bydd difrod sylweddol i eiddo a tharfu’n eang ar wasanaethau hanfodol. Gall fod yn anodd rhagweld y digwyddiadau hyn yn gywir, a gallant ddigwydd heb fawr o rybudd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod y canlynol mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb yng Nghymru:
- 127,000 eiddo preswyl
- 13,600 eiddo amhreswyl
- 3,540 o wasanaethau allweddol
Gall daeareg yr ardal dan sylw hefyd gynyddu’r tebygolrwydd o lyncdyllau neu dirlithriadau. Gallai hyn gael effaith sylweddol ar yr ymateb lleol a’r seilwaith ehangach.
Llifogydd afonydd
gallai cyfnod parhaus o law olygu bod lefelau afonydd yn gorlifo dros amddiffynfeydd llifogydd. Gall glaw hefyd gael ei waethygu gan eira’n toddi a llifogydd dŵr wyneb. Gall afonydd ac amddiffynfeydd caled dorri hefyd os cânt eu rhoi dan bwysau. Byddai hyn yn arwain at lifogydd mewn cartrefi a busnesau a’r risg cysylltiedig i fywyd.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r canlynol mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb yng Nghymru:
- dros 91,100 eiddo preswyl
- 12,600 eiddo amhreswyl
- 2,740 o wasanaethau allweddol
Gallai cartrefi a busnesau golli gwasanaethau hanfodol am sawl wythnos. Byddai posibilrwydd o darfu ar gyflenwadau dŵr hefyd.
Llifogydd arfordirol
gall llifogydd o’r môr ddigwydd pan fydd llanw uchel a gwyntoedd cryfion yn chwythu tonnau mawr tuag at y lan. Gall hyn achosi difrod sylweddol i seilwaith arfordirol a pherygl i fywyd.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r canlynol mewn perygl o lifogydd arfordirol yng Nghymru:
- dros 80,200 eiddo preswyl
- 9,400 eiddo amhreswyl
- bron i 2000 o wasanaethau allweddol
Gall llifogydd arfordirol amharu hefyd ar wasanaethau hanfodol a chael goblygiadau mawr i’r economi leol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r risg o lifogydd, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Rhaglen flaenllaw Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol. Mae’r rhaglen yn ariannu Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd i ddatblygu cynlluniau llifogydd yn eu hardaloedd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu gwaith ehangach i reoli perygl llifogydd, gan gynnwys:
- cynnal a chadw asedau
- mesurau rheoli llifogydd naturiol fel plannu coed
- mapio a modelu llifogydd
- gwasanaethau rhybuddio a hysbysu llifogydd.
Ar lefel y DU, mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu’r Gwasanaeth Rhybudd Tywydd Garw Cenedlaethol sy’n darparu rhybuddion hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw. Mae hyn yn berthnasol i bob math o beryglon tywydd, gan gynnwys y rhai sy’n gallu arwain at lifogydd.
Tywydd difrifol: Stormydd
Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod Cymru’n profi tywydd eithafol yn fwy rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau stormydd sy’n cael enw ac sy’n digwydd yn amlach. Mae stormydd yn dod â gwyntoedd cryfion ac, yn aml, mwy o law.
Fel arfer, bydd y Swyddfa Dywydd yn enwi storm pan fydd ganddi’r potensial i darfu neu achosi difrod ac sy’n gofyn am rybudd tywydd oren neu goch. Mae hyn yn seiliedig ar eu Gwasanaeth Rhybudd Tywydd Garw Cenedlaethol sy’n darparu rhybuddion hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw.
Gall stormydd gael effaith sylweddol ar y cymunedau dan sylw. Mae hyn yn cynnwys eiddo sydd wedi dioddef llifogydd, seilwaith sydd wedi’i ddifrodi a tharfu ar drafnidiaeth. Gall stormydd mwy pwerus arwain hefyd at golli pŵer a tharfu ar wasanaethau hanfodol fel y cyflenwad dŵr.
Mae gan Lywodraeth Cymru rwydweithiau cadarn i gefnogi’r ymateb i unrhyw storm sy’n cael enw, ac sy'n effeithio ar Gymru. Rydym yn gweithio gydag ymatebwyr brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr trafnidiaeth a darparwyr cyfleustodau i reoli a chydlynu’r ymateb.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhoi cyngor ar sut i aros yn ddiogel mewn storm.
Tirlithriad tomenni
Mae mwy na 2,500 o domenni glo segur domenni glo segur wedi’u cofnodi yng Nghymru, sy’n gofnod o’n gorffennol diwydiannol. Gallai tomen yn llithro neu’n methu arwain at lawer iawn o rwbel yn symud yn gyflym, gan achosi dinistr difrifol mewn cymunedau cyfagos.
Ers 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu rhaglen genedlaethol o ddiogelwch tomenni glo yng Nghymru. Rydym yn ariannu’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu rhaglen o archwiliadau a gwaith cynnal a chadw. Mae’r archwiliadau’n sicrhau bod cyflwr a sefydlogrwydd tomenni yn cael eu monitro, a bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud lle bo angen. Mae’r holl domenni glo segur â risg uwch yn cael eu harchwilio o leiaf ddwywaith y flwyddyn, gydag arolygiadau ychwanegol yn cael eu cynnal gan bartneriaid yn y sector cyhoeddus ac yn dilyn cyfnodau o law trwm.
Ers sefydlu’r rhaglen, mae dros £230 miliwn wedi’i ymrwymo i ddiogelu safleoedd a chymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi moderneiddio’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelwch tomenni glo. Ym mis Gorffennaf 2025, roedd Senedd Cymru wedi pasio Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 ac oedd wedi sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru. Bydd y corff hyd braich newydd hwn yn gyfrifol am asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni segur. Bydd yr Awdurdod yn cael ei sefydlu ym mis Ebrill 2027. Bydd y drefn archwilio a chynnal a chadw bresennol yn parhau yn y cyfamser.
Terfysgaeth
Mae bygythiad terfysgaeth yn datblygu’n gyson ledled y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos â Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru, ac asiantaethau eraill ar sstrategaeth gwrthderfysgaeth y DU (CONTEST) yng Nghymru, sydd wedi'i dylunio i leihau'r risg o derfysgaeth.
Uned Cuddwybodaeth ac Ymchwilio yw CTPW, a sefydlwyd drwy gydweithrediad rhwng pedwar heddlu Cymru. Mae’n gysylltiedig â’r Rhwydwaith Gwrthderfysgaeth Cenedlaethol. Mae’r uned yn defnyddio ystod eang o arbenigedd, pob un yn gweithio mewn partneriaeth i gadw Cymru’n ddiogel rhag terfysgaeth.
Tarfu ar drafnidiaeth
Gall tarfu ar drafnidiaeth ddigwydd am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys
- tywydd garw
- seilwaith yn methu
- gweithredu diwydiannol (streiciau)
- damweiniau
- digwyddiadau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd
- digwyddiadau diogelwch
- digwyddiadau mawr wedi’u cynllunio.
Gall tarfu effeithio ar allu’r cyhoedd i deithio, cael gafael ar wasanaethau, a derbyn nwyddau.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda gweithredwyr ar draws y sectorau ffyrdd, rheilffyrdd, hedfan a morwrol. Rydym yn cadw golwg gyffredinol ar rwydwaith trafnidiaeth Cymru, ac os bydd tarfu difrifol, rydym yn cefnogi negeseuon clir i’r cyhoedd.
Tanau gwyllt
Llystyfiant yn mynd ar dân heb gael ei reoli ac sydd angen penderfyniad neu weithred i’w hatal yw tanau gwyllt. Mae tanau gwyllt yn aml yn llosgi ardaloedd agored o dir fel glaswellt, grug, coetir, cnydau a phrysgdir. Fodd bynnag, gallant ddigwydd mewn ardaloedd trefol hefyd.
Mae’r rhan fwyaf o danau gwyllt yn cael eu hachosi gan bobl, naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol.
Gall tanau gwyllt ledaenu’n gyflym ac achosi difrod sylweddol i seilwaith hanfodol, rhwydweithiau trafnidiaeth, cyfleustodau a’r amgylchedd. Efallai y bydd angen gwacáu eiddo hefyd, a gallai anadlu mwg gael effaith andwyol ar iechyd.
Mae tanau gwyllt yn risg ddifrifol mewn sawl rhan o Gymru. Fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod y perygl o danau gwyllt yn cynyddu. Mae tymor y tanau gwyllt yn mynd yn hirach, ac mae mwy o danau gwyllt yn digwydd ar yr un pryd. Mae hyn yn arbennig o gyffredin yn ystod amgylchiadau tywydd poeth yr haf. Mae’n rhoi pwysau aruthrol ar y Gwasanaethau Tân ac Achub ac ymatebwyr brys ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru yn aelod o Fwrdd Tanau Gwyllt amlasiantaethol Cymru. Mae’r Bwrdd yn gweithio i fod yn well am ddeall a rheoli’r risg o danau gwyllt ar yr amgylchedd ac ar gymunedau yng Nghymru.
Risgiau ledled y DU
Mae gwybodaeth fanylach am risgiau ledled y DU ar gael yng Nghofrestr Risg Genedlaethol Llywodraeth y DU.
Bod yn ymwybodol: System Rhybuddion Argyfwng y DU
Os oes risg bosibl i fywyd, gellir defnyddio System Rhybuddion Argyfwng Llywodraeth y DU i’ch rhybuddio drwy eich ffôn symudol os oes argyfwng yn peryglu bywyd gerllaw.
Mae system Rhybuddion Argyfwng y DU yn adnodd pwysig ar gyfer cyrraedd y cyhoedd mewn sefyllfaoedd brys. Fodd bynnag, i'r rhai sydd angen optio allan am resymau personol, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gov.uk/alerts.
Gallwch gael cyngor pellach gan y llywodraeth ar y risgiau sy’n ein hwynebu a sut i baratoi ar eu cyfer ar wefan Llywodraeth y DU.
