Rydyn ni’n ymgynghori ar gynnig i roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio nwy carbon deuocsid (CO2) i stynio moch yn y DU.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydyn ni’n gofyn am farn ar gynigion i:
- roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio nwy carbon deuocsid (CO2) i stynio moch mewn lladd-dai ac iardiau celanedd yn y DU
- cytuno ar hyd cyfnod pontio cyn i waharddiad ddod i rym
Dyma rai o’r opsiynau sy’n cael eu cynnig:
- gwneud dim
- gwahardd carbon deuocsid (CO2) i stynio moch
- gyda’r cyfnodau pontio sy’n cael eu hystyried:
- cyfnod pontio o 2 flynedd
- cyfnod pontio o 3 blynedd
Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn rhwng llywodraethau Cymru, y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy’n arwain.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK
