Neidio i'r prif gynnwys

Rydyn ni’n ymgynghori ar gynnig i roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio nwy carbon deuocsid (CO2) i stynio moch yn y DU.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
21 Rhagfyr 2026
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydyn ni’n gofyn am farn ar gynigion i: 

  • roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio nwy carbon deuocsid (CO2) i stynio moch mewn lladd-dai ac iardiau celanedd yn y DU
  • cytuno ar hyd cyfnod pontio cyn i waharddiad ddod i rym

Dyma rai o’r opsiynau sy’n cael eu cynnig:

  • gwneud dim 
  • gwahardd carbon deuocsid (CO2) i stynio moch 
  • gyda’r cyfnodau pontio sy’n cael eu hystyried: 
  • cyfnod pontio o 2 flynedd 
  • cyfnod pontio o 3 blynedd  

Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn rhwng llywodraethau Cymru, y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy’n arwain. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK