Esbonio rôl Tîm Tir Comin Llywodraeth Cymru yn y broses cydsyniad seilwaith.
Cynnwys
Tir comin a chydsyniad seilwaith
Mae Tîm Tir Comin Llywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu tir comin ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae'r tîm yn gweithio i ddiogelu'r canlynol:
- arwynebedd tir comin a meysydd tref a phentref
- ansawdd tir comin
- natur agored tir comin
- nodweddion arbennig tir comin a meysydd tref a phentref
Mae'r broses gydsynio a chymeradwyo yn helpu i sicrhau:
- nad yw arwynebedd cyffredinol tir comin a meysydd tref a phentref yn lleihau
- bod unrhyw dir cofrestredig sy'n cael ei ddatgofrestru yn cael ei gydbwyso drwy gofrestru tir arall sydd o fudd cyfartal o leiaf
- mai dim ond gwaith sy'n cynnal neu'n gwella cyflwr tir sy'n cael ei gynnal ar dir comin
- mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y cynhelir gwaith, pan fo'r gwaith hwnnw yn creu budd cyhoeddus ehangach a'i fod yn waith dros dro neu nad yw'n cael unrhyw effaith barhaol
- bod unrhyw ddefnydd a wneir o dir comin neu feysydd tref neu bentref yn gyson â statws y tir hwnnw
Ymgysylltu â'r Tîm Tir Comin
Gall prosiectau seilwaith arwyddocaol effeithio ar dir comin oherwydd eu lleoliad neu eu maint.
Os bydd y gwaith yn barhaol ac yn anghyson â defnydd y tir fel tir comin, efallai y bydd angen i geiswyr ddatgofrestru'r darn perthnasol o dir comin. Byddai hyn yn dileu ei statws fel tir comin.
Yn yr achosion hyn, dylai ceiswyr ddarparu tir addas yn gyfnewid am hynny.
Rhaid i geiswyr gynnig tir yn gyfnewid os bydd arwynebedd y tir i'w ryddhau yn fwy na 200 metr sgwâr.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn disgwyl i geiswyr gynnig tir yn gyfnewid os bydd yr arwynebedd i'w ryddhau yn llai na 200 metr sgwâr. Y rheswm am hyn yw mai polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi lleihau arwynebedd cyffredinol y tir comin a'r meysydd tref a phentref sydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf cydsynio a'r disgwyliadau ar gyfer darpar geisiadau tir comin a wneir o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024, gweler: Caniatâd tir comin: canllaw | LLYW.CYMRU
I wneud ymholiadau am dir comin, e-bostiwch: commonsact2006@gov.wales
