Neidio i'r prif gynnwys

Esbonio rôl Tîm Tir Comin Llywodraeth Cymru yn y broses cydsyniad seilwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Tir comin a chydsyniad seilwaith

Mae Tîm Tir Comin Llywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu tir comin ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. 

Mae'r tîm yn gweithio i ddiogelu'r canlynol:

  • arwynebedd tir comin a meysydd tref a phentref
  • ansawdd tir comin
  • natur agored tir comin
  • nodweddion arbennig tir comin a meysydd tref a phentref

Mae'r broses gydsynio a chymeradwyo yn helpu i sicrhau:

  • nad yw arwynebedd cyffredinol tir comin a meysydd tref a phentref yn lleihau
  • bod unrhyw dir cofrestredig sy'n cael ei ddatgofrestru yn cael ei gydbwyso drwy gofrestru tir arall sydd o fudd cyfartal o leiaf
  • mai dim ond gwaith sy'n cynnal neu'n gwella cyflwr tir sy'n cael ei gynnal ar dir comin
  • mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y cynhelir gwaith, pan fo'r gwaith hwnnw yn creu budd cyhoeddus ehangach a'i fod yn waith dros dro neu nad yw'n cael unrhyw effaith barhaol
  • bod unrhyw ddefnydd a wneir o dir comin neu feysydd tref neu bentref yn gyson â statws y tir hwnnw

Ymgysylltu â'r Tîm Tir Comin

Gall prosiectau seilwaith arwyddocaol effeithio ar dir comin oherwydd eu lleoliad neu eu maint. 

Dylai ceiswyr ymgysylltu â'r Tîm Tir Comin yn gynnar os gallai eu cynnig effeithio ar dir comin neu faes tref neu bentref.

Os bydd y gwaith yn barhaol ac yn anghyson â defnydd y tir fel tir comin, efallai y bydd angen i geiswyr ddatgofrestru'r darn perthnasol o dir comin. Byddai hyn yn dileu ei statws fel tir comin.

Yn yr achosion hyn, dylai ceiswyr ddarparu tir addas yn gyfnewid am hynny.

Rhaid i geiswyr gynnig tir yn gyfnewid os bydd arwynebedd y tir i'w ryddhau yn fwy na 200 metr sgwâr.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn disgwyl i geiswyr gynnig tir yn gyfnewid os bydd yr arwynebedd i'w ryddhau yn llai na 200 metr sgwâr. Y rheswm am hyn yw mai polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi lleihau arwynebedd cyffredinol y tir comin a'r meysydd tref a phentref sydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf cydsynio a'r disgwyliadau ar gyfer darpar geisiadau tir comin a wneir o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024, gweler: Caniatâd tir comin: canllaw | LLYW.CYMRU

I wneud ymholiadau am dir comin, e-bostiwch: commonsact2006@gov.wales