Sut y dylai ceiswyr ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses cydsyniad seilwaith.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymgynghorai statudol ar gyfer pob cais am brosiectau seilwaith arwyddocaol.
Mae gan CNC rôl bwysig i'w chwarae wrth roi cyngor ar ystyriaethau amgylcheddol a gofynion asesu yn ystod:
- y cam cyn gwneud cais
- y cam gwneud cais
- y camau archwilio
Efallai y bydd gan CNC rôl i'w chwarae hefyd ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, os bydd gorchymyn cydsyniad seilwaith wedi'i roi ar gyfer prosiect seilwaith arwyddocaol.
Er enghraifft:
- efallai mai CNC fydd yr awdurdod cyflawni ar gyfer gofynion penodol
- efallai y bydd CNC yn ymgynghorai ar gyfer y cais i gyflawni gofyniad
Os bydd cydsyniad wedi'i dybio drwy'r gorchymyn cydsyniad seilwaith, efallai y bydd gan CNC rôl i'w chwarae hefyd os mai CNC fyddai'r corff cydsynio ar gyfer y cydsyniad hwnnw.
Dylai ceiswyr gysylltu â CNC cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn helpu ceiswyr i wneud y canlynol:
- nodi ystyriaethau amgylcheddol perthnasol a chadarnhau cwmpas yr asesiadau amgylcheddol sy'n ofynnol i gefnogi cais am brosiect seilwaith arwyddocaol
- deall gofynion ar gyfer cydsyniadau tybiedig a chydsyniadau a ddiddymwyd drwy'r gorchymyn cydsyniad seilwaith neu gydsyniadau ar wahân y mae CNC yn awdurdod penderfynu ar eu cyfer
- gwneud trefniadau ar gyfer pa gyngor y gofynnir amdano gan CNC
Mae gwybodaeth i ddarpar geiswyr am wasanaethau cyngor cyn gwneud cais statudol ac anstatudol (dewisol) CNC ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol ar gael ar ei wefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyngor i ddatblygwyr sy'n cynnig prosiectau seilwaith arwyddocaol
Codir tâl am wasanaethau CNC hyd at adennill y gost lawn.
Mae gwybodaeth am ffioedd penodol sy'n daladwy i CNC am wasanaethau ar gael ar ei wefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Ffioedd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol
Bydd CNC yn cyhoeddi cyngor pellach yn fuan ar sut i ymgysylltu â nhw ar bob cam o broses prosiect seilwaith arwyddocaol. Dylai ceiswyr fynd i wefan CNC i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
