Neidio i'r prif gynnwys

Sut y dylai ceiswyr ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses cydsyniad seilwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymgynghorai statudol ar gyfer pob cais am brosiectau seilwaith arwyddocaol.

Mae gan CNC rôl bwysig i'w chwarae wrth roi cyngor ar ystyriaethau amgylcheddol a gofynion asesu yn ystod: 

  • y cam cyn gwneud cais
  • y cam gwneud cais
  • y camau archwilio

Efallai y bydd gan CNC rôl i'w chwarae hefyd ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, os bydd gorchymyn cydsyniad seilwaith wedi'i roi ar gyfer prosiect seilwaith arwyddocaol.

Er enghraifft: 

  • efallai mai CNC fydd yr awdurdod cyflawni ar gyfer gofynion penodol
  • efallai y bydd CNC yn ymgynghorai ar gyfer y cais i gyflawni gofyniad

Os bydd cydsyniad wedi'i dybio drwy'r gorchymyn cydsyniad seilwaith, efallai y bydd gan CNC rôl i'w chwarae hefyd os mai CNC fyddai'r corff cydsynio ar gyfer y cydsyniad hwnnw.

Dylai ceiswyr gysylltu â CNC cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn helpu ceiswyr i wneud y canlynol:

  • nodi ystyriaethau amgylcheddol perthnasol a chadarnhau cwmpas yr asesiadau amgylcheddol sy'n ofynnol i gefnogi cais am brosiect seilwaith arwyddocaol
  • deall gofynion ar gyfer cydsyniadau tybiedig a chydsyniadau a ddiddymwyd drwy'r gorchymyn cydsyniad seilwaith neu gydsyniadau ar wahân y mae CNC yn awdurdod penderfynu ar eu cyfer
  • gwneud trefniadau ar gyfer pa gyngor y gofynnir amdano gan CNC

Mae gwybodaeth i ddarpar geiswyr am wasanaethau cyngor cyn gwneud cais statudol ac anstatudol (dewisol) CNC ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol ar gael ar ei wefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyngor i ddatblygwyr sy'n cynnig prosiectau seilwaith arwyddocaol

Codir tâl am wasanaethau CNC hyd at adennill y gost lawn.

Mae gwybodaeth am ffioedd penodol sy'n daladwy i CNC am wasanaethau ar gael ar ei wefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Ffioedd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol

Bydd CNC yn cyhoeddi cyngor pellach yn fuan ar sut i ymgysylltu â nhw ar bob cam o broses prosiect seilwaith arwyddocaol. Dylai ceiswyr fynd i wefan CNC i gael y wybodaeth ddiweddaraf.