Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yw pan fydd bacteria, firysau a ffyngau yn peidio ag ymateb i feddyginiaethau.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn digwydd pan fydd microbau fel bacteria, firysau a ffyngau yn newid. Maen nhw hefyd yn peidio ag ymateb mor dda i feddyginiaethau a ddefnyddir i drin heintiau. Mae hyn yn golygu y gall rhai heintiau ddod yn anoddach eu trin mewn pobl ac anifeiliaid.
Mae gwrthficrobyddion yn feddyginiaethau hanfodol a all fod yn angenrheidiol ar gyfer trin heintiau (ee gwrthfiotigau i drin rhai heintiau bacteriol.) Yn aml bydd pobl ac anifeiliaid yn gwella heb fod angen gwrthficrobyddion. Er mwyn helpu i leihau'r risg o ddatblygu ymwrthedd, dim ond ar yr adegau canlynol y dylech ddefnyddio gwrthficrobyddion:
- pan fydd eu hangen, ac
- yn dilyn cyngor gan weithwyr iechyd neu filfeddygol proffesiynol
Pam mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn bwysig
Mae AMR yn fater iechyd cyhoeddus pwysig oherwydd:
- gall wneud heintiau cyffredin yn anoddach i'w trin
- gall heintiau:
- bara'n hirach
- fod angen gofal ychwanegol
- gall fod angen gwahanol feddyginiaethau ar gyfer triniaeth effeithiol, gyda sgîl-effeithiau mwy difrifol
- gall effeithio ar bobl, anifeiliaid a'r amgylchedd ehangach
Mae'r dull "Iechyd Cyfunol" yn cydnabod y cysylltiad rhwng:
- iechyd pobl
- iechyd anifeiliaid, a'r
- amgylchedd
Mae defnyddio gwrthficrobyddion yn ddoeth yn helpu i'w diogelu, fel eu bod nhw'n gweithio pan fydd eu hangen arnom.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth gweler y tudalennau gwe isod:
