Neidio i'r prif gynnwys

Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yw pan fydd bacteria, firysau a ffyngau yn peidio ag ymateb i feddyginiaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn digwydd pan fydd microbau fel bacteria, firysau a ffyngau yn newid. Maen nhw hefyd yn peidio ag ymateb mor dda i feddyginiaethau a ddefnyddir i drin heintiau. Mae hyn yn golygu y gall rhai heintiau ddod yn anoddach eu trin mewn pobl ac anifeiliaid.

Mae gwrthficrobyddion yn feddyginiaethau hanfodol a all fod yn angenrheidiol ar gyfer trin heintiau (ee gwrthfiotigau i drin rhai heintiau bacteriol.) Yn aml bydd pobl ac anifeiliaid yn gwella heb fod angen gwrthficrobyddion. Er mwyn helpu i leihau'r risg o ddatblygu ymwrthedd, dim ond ar yr adegau canlynol y dylech ddefnyddio gwrthficrobyddion: 

  • pan fydd eu hangen, ac 
  • yn dilyn cyngor gan weithwyr iechyd neu filfeddygol proffesiynol

Pam mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn bwysig

Mae AMR yn fater iechyd cyhoeddus pwysig oherwydd: 

  • gall wneud heintiau cyffredin yn anoddach i'w trin
  • gall heintiau: 
    • bara'n hirach
    • fod angen gofal ychwanegol 
  • gall fod angen gwahanol feddyginiaethau ar gyfer triniaeth effeithiol, gyda sgîl-effeithiau mwy difrifol
  • gall effeithio ar bobl, anifeiliaid a'r amgylchedd ehangach

Mae'r dull "Iechyd Cyfunol" yn cydnabod y cysylltiad rhwng:

  • iechyd pobl
  • iechyd anifeiliaid, a'r 
  • amgylchedd

Mae defnyddio gwrthficrobyddion yn ddoeth yn helpu i'w diogelu, fel eu bod nhw'n gweithio pan fydd eu hangen arnom.

Rhagor o wybodaeth