Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data: Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei mewn cysylltiad â’ch cais am rif daliad newydd.
Ar y dudalen hon
1. Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data: Hysbysiad Preifatrwydd
1.1. Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r wybodaeth a rowch yn eich cais am CRN at ddibenion gofyn am Rif Daliad (CPH) newydd. Mae’n esbonio hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Y rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth yw:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Mae manylion y Swyddog Diogelu Data wedi'u rhestru isod.
1.2. Caiff yr wybodaeth ei phrosesu a’i rheoli gan Lywodraeth Cymru yn unol â’i hymrwymiadau a’i dyletswyddau o dan y Rheoliadau Ewropeaidd a ganlyn:
- Rheoliad Cyngor 1760/2000
- Rheoliad Cyngor 21/2004
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/71
- Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UE) Rhif 679/2016
Caiff yr wybodaeth ei defnyddio’n bennaf at bwrpas prosesu a phenderfynu ceisiadau am rif CPH neu newidiadau i’r tir sy’n cael ei gynnwys mewn CPH. Fodd bynnag, caiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r wybodaeth hefyd at ddibenion olrhain anifeiliaid er mwyn rheoli clefydau.
1.3. Sail gyfreithiol y gwaith prosesu yw bod ei angen er mwyn cyflawni tasg a wneir wrth arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd i Lywodraeth Cymru.
1.4. Mae Llywodraeth Cymru’n casglu data personol er mwyn adnabod busnes eich fferm a gwybod ei leoliad. Nid yw Llywodraeth Cymru’n casglu data categori arbennig.
1.5. Caiff y data eu prosesu drwy broses awtomataidd o reolau busnes sy’n defnyddio Cyfeirnod y Cwsmer (CRN) fel prif allwedd ar gyfer mwyafrif yr adroddiadau.
1.6. Bydd Lywodraeth Cymru yn cadw’ch gwybodaeth cyhyd â bod eich CPH yn weithredol. Os caiff eich CPH ei gau, byddwn yn dal eich gwybodaeth am o leiaf 7 mlynedd at ddibenion olrhain anifeiliaid a rheoli clefydau. Efallai y byddwn yn ymestyn hyn os bydd angen cyflawni tasg sydd o fudd i’r cyhoedd neu sy’n ofynnol gan y rheolwr data.
Gall enghreifftiau gynnwys:
- apelio
- gofynion archwilio
- cwyn
- afreoleidd-dra
- gwerth hanesyddol, yn unol â Deddf Cofnodion Cyhoeddus
- camau cyfreithiol
- cais swyddogol am wybodaeth
- os yw’n gosod cynsail
Lle bo hynny’n bosibl caiff data personol eu cuddio, neu bydd cyfyngu ar fynediad iddynt.
2. Rhesymau dros rannu data personol
2.1. Caiff Llywodraeth Cymru rannu gwybodaeth at ddibenion olrhain a rheoli clefydau â’r cyrff a ganlyn:
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- Awdurdod Lleol Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
- DEFRA
- adrannau amaeth eraill Llywodraeth y DU
2.2. Gallai’r wybodaeth gael ei defnyddio at y dibenion a ganlyn:
- trawsgyfeirio a chroeswirio rhwng cyrff llywodraethol i atal torri rheolau cynlluniau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin
- cynhyrchu a chyhoeddi mapiau sy’n dangos y tir sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion da byw
- llunio adroddiadau o ddata cyfun a / neu ystadegau cryno i’w cyhoeddi
- adnabod perchenogion neu ddefnyddwyr tir os bydd argyfwng, e.e. rheoli clefydau ac achosion o dorri rheolaethau
- galluogi sefydliadau partner i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol
- cyhoeddi gwybodaeth benodol ac ymateb i geisiadau am wybodaeth
3. Cyhoeddi a Datgelu Gwybodaeth
3.1. Gall aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid inni ryddhau’r wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch, wrth ymateb i geisiadau o’r fath.
4. Hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data Cyffredinol
4.1. Mae’r Rheoliad hwn yn rhoi hawliau i unigolion o ran y data personol a gedwir amdanyn nhw. Mae'r hawliau hynny’n cynnwys:
- yr hawl i gael gwybod (yr hysbysiad hwn)
- yr hawl, ar gais, i gael copïau o’r data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanynt, er y gall Llywodraeth Cymru wrthod gwneud hynny weithiau
- yr hawl o dan rai amgylchiadau i rwystro Llywodraeth Cymru rhag prosesu data personol, neu gyfyngu arni.
- yr hawl o dan rai amgylchiadau i ofyn am gywiro data anghywir
- yr hawl o dan rai amgylchiadau i ofyn bod data’n cael eu dileu
Os ydych am arfer unrhyw rai o’ch hawliau o dan y rheoliad hwn, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad a roddir ar ddechrau’r hysbysiad hwn.
4.2. Mae gan unigolion hefyd hawl i ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n gorfodi ac yn cadw golwg ar y Rheoliad, farnu a fyddwn, wrth brosesu’ch gwybodaeth bersonol, yn debygol o gadw at amodau’r Rheoliad. Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
01625 545 745 neu 0303 123 1113
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
5. Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data wrth:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
