Neidio i'r prif gynnwys

Arferion gorau wrth ddefnyddio, storio a gwaredu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs).

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd hwn yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Deall archwiliadau a chydymffurfiaeth

Amlinellodd yr HSE:

  • rôl Uned Ymyrraeth yr Is-adran Rheoleiddio Cemegau
  • sut mae'r Uned yn arolygu busnesau, gan orfodi gofynion o dan y fframwaith rheolaethau swyddogol
  • gwaith swyddogion gorfodi plaladdwyr
  • beth all defnyddwyr PPP proffesiynol ei ddisgwyl yn ystod ymweliad arolygu
Image
HSE overview of plant protection product compliance requirements.

Trosolwg HSE o ofynion cydymffurfiaeth yn achos cynhyrchion diogelu planhigion.

Cadw offer gwasgaru yn ddiogel

Esboniodd cynrychiolydd o'r Cynllun Profi Chwistrellwyr Cenedlaethol (NSTS) y gofynion profi ac arolygu offer o dan Reoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012. Fe wnaeth y sesiwn ymdrin â:

  • pa offer cymhwyso plaladdwyr sy'n gofyn am brofion ffurfiol
  • sut mae arolygiadau a chynnal a chadw rheolaidd yn helpu defnyddwyr i weithredu offer yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys chwistrellwyr cefn

Mae rhagor o wybodaeth am ofynion profi offer ar gael gan y Cynllun Profi Chwistrellu Cenedlaethol (NSTS).

Gwirio awdurdodiadau cynhyrchion

Helpodd HSE fynychwyr i nodi materion cydymffurfio a chyfleoedd ar gyfer gwella. Cafodd y cyfranogwyr arweiniad ar:

Canllawiau ar ddefnyddio'r Gofrestr Plaladdwyr (ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Rhoi'r dysgu ar waith

Cafwyd sesiwn holi ac ateb i wirio dealltwriaeth a chryfhau cydymffurfiaeth yn y dyfodol. Atgyfnerthodd y sesiwn y cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â defnyddio, storio a gwaredu PPPs yn ddiogel.

Cofrestru o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020

Rhaid i fusnesau, sefydliadau ac unig fasnachwyr gofrestru os ydynt yn defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau cysylltiedig yn broffesiynol ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys y rhai:

  • sydd yn defnyddio PPPs fel rhan o'u gwaith
  • sydd yn trefnu i gontractwyr ddefnyddio PPPs fel rhan o'u gwaith
  • sydd yn storio neu ddefnyddio PPPs ar gyfer eraill fel contractwr

Rhaid i chi gofrestru o fewn tri mis ar ôl dechrau'r gweithgareddau hyn. Os dylech fod wedi cofrestru eisoes, rhaid i chi wneud hynny cyn gynted â phosibl. Mae Defra yn casglu cofrestriadau ar ran Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cymwys ar gyfer Cymru.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a diweddariadau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru.