Neidio i'r prif gynnwys

Mae Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Llywodraeth Cymru yn dathlu 25 mlynedd ers ei lansio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd y gwasanaeth yn 2001 yn ystod yr achos o Glwy'r Traed a'r Genau. Roedd cyfyngiadau yn atal swyddogion rhag ymweld â ffermydd. Ac roedd y clefyd yn cael effaith ddinistriol ar ffermwyr a'u busnesau.

Fel ymateb, dechreuodd grŵp o staff archwilio gysylltu â ffermwyr dros y ffôn. Gan roi: 

  • y wybodaeth ddiweddaraf am y clefyd
  • y rheolau ar symud da byw, a 
  • gwybodaeth bwysig arall

Roedden nhw hefyd yn glust i wrando yn ystod cyfnod eithriadol o anodd.

Cafodd y cynllun peilot dderbyniad da gan ffermwyr a rhanddeiliaid. Daeth yn sylfaen i'r gwasanaeth sy'n bodoli heddiw.

Sut mae'r FLS yn helpu ffermwyr

Mae gan y tîm wyth aelod, llawer ohonyn nhw â chefndir yn y byd ffermio ac maen nhw ymweld â: 

  • marchnadoedd da byw
  • sioeau amaethyddol, a 
  • digwyddiadau’r diwydiant

 i roi cyngor ar bolisi, grantiau a chynlluniau materion gwledig Llywodraeth Cymru.

Mae'r FLS yn cynnig arweiniad cyfrinachol am ddim ar: 

  • bolisïau
  • taliadau, a 
  • rheoliadau

ffermio Llywodraeth Cymru

Mae hyn yn cynnwys:

  • y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
  • rheoliadau llygredd amaethyddol
  • iechyd anifeiliaid
  • cadw cofnodion
  • RPW Ar-lein, a 
  • Cyswllt Ffermio

Cymorth ychwanegol

Mae'r tîm hefyd yn cefnogi teuluoedd ffermio, sy'n wynebu: 

  • profedigaeth
  • caledi ariannol, neu 
  • lles ac iechyd meddwl gwael

Maen nhw'n gweithio gydag elusennau gwledig i ddangos ble arall gall pobl fynd am help.

A all staff yr FLS eich helpu chi

Dysgwch sut i gysylltu â'ch Swyddog Cyswllt Fferm lleol. neu e-bostiwch: farmliaisonservice@gov.wales.