Mae Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Llywodraeth Cymru yn dathlu 25 mlynedd ers ei lansio.
Sefydlwyd y gwasanaeth yn 2001 yn ystod yr achos o Glwy'r Traed a'r Genau. Roedd cyfyngiadau yn atal swyddogion rhag ymweld â ffermydd. Ac roedd y clefyd yn cael effaith ddinistriol ar ffermwyr a'u busnesau.
Fel ymateb, dechreuodd grŵp o staff archwilio gysylltu â ffermwyr dros y ffôn. Gan roi:
- y wybodaeth ddiweddaraf am y clefyd
- y rheolau ar symud da byw, a
- gwybodaeth bwysig arall
Roedden nhw hefyd yn glust i wrando yn ystod cyfnod eithriadol o anodd.
Cafodd y cynllun peilot dderbyniad da gan ffermwyr a rhanddeiliaid. Daeth yn sylfaen i'r gwasanaeth sy'n bodoli heddiw.
Sut mae'r FLS yn helpu ffermwyr
Mae gan y tîm wyth aelod, llawer ohonyn nhw â chefndir yn y byd ffermio ac maen nhw ymweld â:
- marchnadoedd da byw
- sioeau amaethyddol, a
- digwyddiadau’r diwydiant
i roi cyngor ar bolisi, grantiau a chynlluniau materion gwledig Llywodraeth Cymru.
Mae'r FLS yn cynnig arweiniad cyfrinachol am ddim ar:
- bolisïau
- taliadau, a
- rheoliadau
ffermio Llywodraeth Cymru
Mae hyn yn cynnwys:
- y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- rheoliadau llygredd amaethyddol
- iechyd anifeiliaid
- cadw cofnodion
- RPW Ar-lein, a
- Cyswllt Ffermio
Cymorth ychwanegol
Mae'r tîm hefyd yn cefnogi teuluoedd ffermio, sy'n wynebu:
- profedigaeth
- caledi ariannol, neu
- lles ac iechyd meddwl gwael
Maen nhw'n gweithio gydag elusennau gwledig i ddangos ble arall gall pobl fynd am help.
A all staff yr FLS eich helpu chi
Dysgwch sut i gysylltu â'ch Swyddog Cyswllt Fferm lleol. neu e-bostiwch: farmliaisonservice@gov.wales.
