Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg o Gyfrifiad 2021 ac arolygon cartrefi yn cael goblygiadau pwysig o ran deall tueddiadau yng ngallu pobl yn y Gymraeg. Yn gyffredinol mae’r Arolwg Cenedlaethol yn dangos lefelau uwch o allu Cymraeg na’r Cyfrifiad. Fodd bynnag mae llai o wybodaeth am ba mor gyson y mae pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg ar draws y 2 ffynhonnell.

Gan ddefnyddio data cysylltiedig o Gyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer blynyddoedd arolwg 2020 i 2021 a 2021 i 2022, mae’r erthygl hon yn edrych ar:

  • y cytundeb rhwng yr hyn a adroddwyd am allu yn y Gymraeg
  • y nodweddion demograffig, daearyddol ac ieithyddol sy’n gysylltiedig â lefelau uwch ac is o gytundeb

Prif bwyntiau

  • Roedd y rhan fwyaf o bobl wedi rhoi atebion cyson am eu gallu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru.
  • Roedd yr atebion yn llai cyson ymhlith pobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn o leiaf un ffynhonnell nag ymhlith y rhai na ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn y naill ffynhonnell na’r llall.
  • Roedd siaradwyr Cymraeg rhugl a phobl a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn llawer mwy tebygol o roi’r un ateb yn y ddwy ffynhonnell.
  • Roedd pobl a oedd yn byw yn ne ddwyrain Cymru yn llawer llai tebygol o roi’r un ateb na phobl a oedd yn byw yng ngogledd orllewin Cymru.
  • Ble roedd pobl yn byw, pa mor aml roeddent yn siarad Cymraeg, a pha mor dda roeddent yn gallu siarad Cymraeg oedd y prif ffactorau a oedd yn gysylltiedig â chytundeb rhwng y ddwy ffynhonnell.
  • Pobl yn ne ddwyrain Cymru a oedd yn siarad Cymraeg yn llai aml nag unwaith yr wythnos ac a oedd yn llai hyderus yn eu sgiliau Cymraeg oedd fwyaf tebygol o roi atebion gwahanol.

Cefndir

Mae arolygon cartrefi fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch o’r gallu i siarad Cymraeg na’r cyfrifiad. Fodd bynnag, yn 2021, dangosodd y cyfrifiad ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, tra dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru gynnydd bach.

Yn ôl Cyfrifiad 2021, amcangyfrifwyd bod 15.3% o breswylwyr arferol 16 oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Mewn cymhariaeth, ar adeg Cyfrifiad 2021, amcangyfrifodd Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 18.2% o bobl 16 oed neu hŷn a oedd yn byw yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Gan fod amcangyfrif yr Arolwg Cenedlaethol yn seiliedig ar sampl o’r boblogaeth, mae rhywfaint o ansicrwydd samplu yn gysylltiedig ag ef. Y cyfwng hyder o 95% o amgylch yr amcangyfrif hwn yw 16.5% i 19.9%. Mae hyn yn rhoi ystod o werthoedd sy’n debygol o gynnwys gwir werth y boblogaeth. Nododd 15.4% arall o ymatebwyr i’r Arolwg Cenedlaethol nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg ond bod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg. Y cyfwng hyder o 95% o amgylch yr amcangyfrif hwn o’r Arolwg Cenedlaethol yw 13.7% i 17.1%.

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar i ba raddau y mae ymatebion yr un unigolion yn wahanol rhwng y ddwy ffynhonnell. Drwy gysylltu data Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd modd inni ddadansoddi nodweddion y bobl a roddodd ymatebion gwahanol.

Rydym eisoes wedi cynnal dadansoddiad tebyg i astudio’r cytundeb rhwng sgiliau Cymraeg a gofnodwyd, gan ddefnyddio data cysylltiedig o Gyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu. Mae’r erthygl hon yn adeiladu ar y gwaith hwnnw drwy gymharu ymatebion o Gyfrifiad 2021 â’r rhai o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020 i 2021 a 2021 i 2022.

Cynhaliodd y tîm caffael a chysylltu data ar gyfer ymchwil (DALfR), sef rhan Llywodraeth Cymru o bartneriaeth Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru, y gwaith hwn. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhan o gynllun gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i wella ein dealltwriaeth o ystadegau’r Gymraeg.

Sgiliau iaith Gymraeg a adroddwyd

Mae’r set ddata cysylltiedig a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad hwn yn cynnwys 10,445 o gofnodion unigol sy’n cwmpasu 2 flynedd o ddata o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Nid yw hyn yn cynrychioli set ddata lawn yr arolwg, gan nad oedd modd cysylltu rhai cofnodion. Mae’r dadansoddiad yn cynnwys ymatebwyr 16 oed neu hŷn yn unig, gan mai dyma oedran ymatebwyr Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Ansawdd a methodoleg.

Tabl 1: cyfran yr ymatebwyr cysylltiedig 16 oed neu hŷn sy’n gallu siarad, deall, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn y data cysylltiedig
Sgil iaithCyfrifiad 2021Arolwg Cenedlaethol CymruGwahaniaeth (pwyntiau canran)
Yn gallu siarad Cymraeg16.8%20.2%3.4
Yn gallu deall Cymraeg19.0%22.9%3.9
Yn gallu darllen Cymraeg16.9%19.3%2.4
Yn gallu ysgrifennu Cymraeg14.6%17.9%3.3

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Amcangyfrifodd Arolwg Cenedlaethol Cymru lefelau uwch o sgiliau Cymraeg na Chyfrifiad 2021 o ran y gallu i siarad, deall, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Deall Cymraeg oedd y sgil a adroddwyd amlaf yn y ddwy ffynhonnell (19.0% yng Nghyfrifiad 2021 a 22.9% yn Arolwg Cenedlaethol Cymru). Ysgrifennu Cymraeg oedd y sgil a adroddwyd lleiaf (14.6% yng Nghyfrifiad 2021 a 17.9% yn Arolwg Cenedlaethol Cymru).

Cyfraddau cytundeb yn ôl sgiliau iaith Gymraeg

Yn yr erthygl hon, mae “cyfraddau cytundeb cyffredinol” yn cyfeirio at gyfran yr unigolion yn y set ddata cysylltiedig a roddodd yr un ateb i gwestiwn penodol yn y ddwy ffynhonnell.

Tabl 2: cyfradd cytundeb cyffredinol rhwng data cysylltiedig ar gyfer sgiliau Cymraeg
Sgil iaithCyfradd cytundeb cyffredinol 
Yn gallu siarad Cymraeg94.7%
Yn gallu deall Cymraeg91.8%
Yn gallu darllen Cymraeg93.7%
Yn gallu ysgrifennu Cymraeg94.6%

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Pan ofynnwyd iddynt am eu gallu i siarad Cymraeg, rhoddodd 94.7% o’r ymatebwyr yn y data cysylltiedig ateb cyson yn Arolwg Cenedlaethol Cymru a Chyfrifiad 2021. Mae hyn yn golygu bod tua 1 o bob 20 o bobl yn y set ddata gysylltiedig wedi rhoi atebion gwahanol am eu gallu i siarad Cymraeg yn y 2 ffynhonnell. Wrth edrych ar sgiliau Cymraeg eraill, rhoddodd dros 90% atebion cyson am eu gallu i ddeall, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Mae’r lefel uchel o gytundeb yn bennaf oherwydd bod mwy na thri chwarter yr ymatebwyr wedi dweud nad oeddent yn gallu siarad, deall, darllen nac ysgrifennu Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell.

Tabl 3: ymatebion i gwestiynau am y Gymraeg yn y data cysylltiedig
YmatebYn gallu siarad CymraegYn gallu deall CymraegYn gallu darllen CymraegYn gallu ysgrifennu Cymraeg
Ydw yn y ddau15.9%16.9%15.0%13.5%
Nac ydw yn y ddau78.9%74.9%78.8%81.0%
Ydw yng Nghyfrifiad 2021, nac ydw yn Arolwg Cenedlaethol Cymru0.9%2.1%1.9%1.1%
Nac ydw yng Nghyfrifiad 2021, ydw yn Arolwg Cenedlaethol Cymru4.4%6.0%4.3%4.3%

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Adroddodd mwy o bobl eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ond nad oeddent yn gallu gwneud hynny yng Nghyfrifiad 2021 nag a adroddodd y gwrthwyneb. Mae’r canlyniad hwn yn un disgwyliedig, gan fod Arolwg Cenedlaethol Cymru yn rhoi amcangyfrifon uwch o’r gallu i siarad Cymraeg na Chyfrifiad 2021.

Tabl 4: Cyfradd cytundeb amodol rhwng data cysylltiedig ar gyfer sgiliau Cymraeg
Sgil iaithCyfradd cytundeb amodol
Yn gallu siarad Cymraeg75.2%
Yn gallu ddeall Cymraeg79.0%
Yn gallu ddarllen Cymraeg78.2%
Yn gallu ysgrifennu Cymraeg76.6%

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Yn yr erthygl hon, mae’r “gyfradd cytundeb amodol” yn cyfeirio at y gyfradd cytundeb pan gaiff unigolion a nododd nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn y naill ffynhonnell na’r llall eu heithrio.

Ymhlith pobl a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn o leiaf un ffynhonnell, y gyfradd cytundeb amodol ar gyfer y gallu i siarad Cymraeg oedd 75.2%. Mae hyn yn golygu bod tua un o bob 4 o bobl a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru neu yng Nghyfrifiad 2021 wedi nodi nad oeddent yn gallu gwneud hynny yn y ffynhonnell arall.

Wrth edrych ar sgiliau Cymraeg eraill:

  • rhoddodd 79.0% ateb cyson am eu gallu i ddeall Cymraeg
  • rhoddodd 78.2% ateb cyson am eu gallu i ddarllen Cymraeg
  • rhoddodd 76.6% ateb cyson am eu gallu i ysgrifennu Cymraeg

Canfu dadansoddiad cyfatebol gan ddefnyddio data cysylltiedig o Gyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu fod:

  • 60.1% wedi rhoi ateb cyson am eu gallu i siarad Cymraeg
  • 59.7% wedi rhoi ateb cyson am eu gallu i ddeall Cymraeg
  • 59.1% wedi rhoi ateb cyson am eu gallu i ddarllen Cymraeg
  • 59.8% wedi rhoi ateb cyson am eu gallu i ysgrifennu Cymraeg

Darperir y ffigurau hyn er mwyn rhoi cyd-destun yn unig, gan fod y dadansoddiadau o’r Cyfrifiad a’r Arolwg o’r Llafurlu, a’r Cyfrifiad ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, yn seiliedig ar grwpiau gwahanol o unigolion. Mae’n bosibl bod y gwahaniaethau’n gysylltiedig â’r gwahaniaeth yn yr ystod oedran rhwng Arolwg Cenedlaethol Cymru a’r Arolwg o’r Llafurlu, ond nid yw hyn wedi cael ei archwilio yn y dadansoddiad hwn.

Cyfraddau cytundeb yn ôl nodweddion poblogaeth

Defnyddiwyd ymatebion i gwestiynau eraill yng Nghyfrifiad 2021 i fesur cyfraddau cytundeb ar gyfer sgiliau Cymraeg ar draws gwahanol nodweddion demograffig ac aelwydydd. Gan fod cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn un o brif nodau strategaeth y Llywodraeth Cymru flaenorol ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae’r adran hon yn canolbwyntio ar sut y cofnododd ymatebwyr eu gallu i siarad Cymraeg.

Cyfraddau cytundeb yn ôl grŵp oedran

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr ym mhob grŵp oedran yn cytuno ynghylch eu gallu i siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell. Dim ond ychydig o amrywiaeth oedd yng nghanran yr ymatebwyr nad oeddent yn cytuno yn ôl oedran. 

Ffigur 1: Cyfradd cytundeb amodol ar allu yn y Gymraeg yn ôl grŵp oedran, 2020-21 i 2021-22

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart bar sy'n dangos mai ychydig iawn o amrywiad sydd yn y gyfradd gytundeb amodol rhwng grwpiau oedran

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Ymhlith y bobl a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn o leiaf un ffynhonnell, roedd y lefelau uchaf o gytundeb rhwng yr Arolwg Cenedlaethol Cymru a Chyfrifiad 2021 ymhlith y rhai:

  • 35 i 44 oed (roedd 77.7% yn cytuno yn y ddwy ffynhonnell)
  • 65 oed neu hŷn (roedd 77.6% yn cytuno yn y ddwy ffynhonnell)

Roedd y lefel isaf o gytundeb rhwng yr Arolwg Cenedlaethol Cymru a Chyfrifiad 2021 ymhlith y rhai:

  • 55 i 64 oed (roedd 70.2% yn cytuno yn y ddwy ffynhonnell)

Roedd y gwahaniaethau mewn cyfraddau cytundeb amodol rhwng grwpiau oedran yn llai yn y dadansoddiad hwn nag yn y dadansoddiad cynharach o Gyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu. Yn y dadansoddiad cynharach, pobl 65 oed a hŷn oedd â’r cyfraddau cytundeb uchaf o blith yr holl grwpiau oedran.

Cyfraddau cytundeb yn ôl rhyw

Roedd y cyfraddau cytundeb amodol ar gyfer dynion a menywod yn weddol debyg.

Ymhlith pobl a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn o leiaf un ffynhonnell:

  • roedd 75.3% o fenywod yn cytuno yn y ddwy ffynhonnell
  • roedd 75.0% o ddynion yn cytuno yn y ddwy ffynhonnell

Roedd y gwahaniaethau mewn cyfraddau cytundeb amodol rhwng dynion a menywod yn debyg i’r rhai a welwyd yn y dadansoddiad blaenorol o Gyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu.

Cyfraddau cytundeb yn ôl rhanbarth

Mae gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau cytundeb amodol rhwng rhanbarthau. Mae’r pum rhanbarth o Gymru a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn yn gyson â’r rhai a ddefnyddir yn nadansoddiadau’r Arolwg Cenedlaethol Cymru o’r Gymraeg.

Ffigur 2: Cyfradd cytundeb amodol ar allu yn y Gymraeg yn ôl rhanbarth, 2020-21 i 2021-22

Image

Disgrifiad o ffigur 2: map sy'n dangos bod y gyfradd gytundeb amodol uchaf yng ngogledd-orllewin Cymru ac isaf yn ne-ddwyrain Cymru

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Yn ne ddwyrain Cymru, y gyfradd cytundeb amodol yw 62.0%. Hynny yw, cofnododd tua 4 o bob 10 o’r bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru neu Gyfrifiad 2021 nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn y ffynhonnell arall.

Yng ngogledd orllewin Cymru, y gyfradd cytundeb amodol yw 90.6%. Mae hyn yn golygu, o blith y bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru neu Gyfrifiad 2021, fod tua 1 o bob 10 wedi cofnodi nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn y ffynhonnell arall.

Roedd y gwahaniaethau mewn cyfraddau cytundeb amodol rhwng rhanbarthau yn debyg i’r rhai a welwyd yn y dadansoddiad blaenorol o Gyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu.

Cyfraddau cytundeb yn ôl hunaniaeth genedlaethol

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 i ymatebwyr am eu hunaniaeth genedlaethol. Gallai ymatebwyr ddewis un hunaniaeth neu sawl un. Y grwpiau mwyaf oedd Cymreig, Prydeinig, a Chymreig a Prydeinig. Mae pob cyfuniad arall wedi’i grwpio fel Arall.

Mae gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau cytundeb amodol yn ôl hunaniaeth genedlaethol. Mae’r gyfradd cytundeb amodol uchaf ymhlith pobl a ddewisodd Cymreig fel eu hunaniaeth genedlaethol.

Ffigur 3: Cyfradd cytundeb amodol ar allu yn y Gymraeg yn ôl hunaniaeth genedlaethol, 2020-21 i 2021-22

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart bar sy'n dangos bod gan bobl a ddywedodd mai Cymreig neu Gymreig a Prydeinig oedd eu hunaniaeth genedlaethol y cyfraddau cytundeb amodol uchaf

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Ymhlith pobl a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn o leiaf un ffynhonnell, roedd y cyfraddau cytundeb rhwng Arolwg Cenedlaethol Cymru a Chyfrifiad 2021 fel a ganlyn:

  • 81.1% ymhlith y rhai a ddewisodd Cymreig yn unig fel eu hunaniaeth genedlaethol
  • 75.3% ymhlith y rhai a ddewisodd Cymreig a Prydeinig fel eu hunaniaeth genedlaethol
  • 53.5% ymhlith y rhai a ddewisodd Prydeinig yn unig fel eu hunaniaeth genedlaethol

Roedd y gwahaniaethau disgrifiadol mewn cyfraddau cytundeb amodol rhwng grwpiau hunaniaeth genedlaethol yn debyg i’r patrymau disgrifiadol a welwyd yn y dadansoddiad blaenorol o Gyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu.

Cyfraddau cytundeb yn ôl amlder siarad Cymraeg

Gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru i ymatebwyr pa mor aml yr oeddent yn siarad Cymraeg. Oherwydd y ffordd y cafodd cwestiynau’r arolwg eu llwybro, dim ond i bobl a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru y gofynnwyd y cwestiwn hwn. Mae hyn yn golygu na chasglwyd ymatebion i’r cwestiwn hwn gan bobl a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ond nid yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran Ansawdd a methodoleg.

Mae gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau cytundeb amodol yn ôl pa mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg. Mae’r gyfradd cytundeb amodol yn cynyddu wrth i amlder siarad Cymraeg gynyddu.

Ffigur 4: Cyfradd gytundeb amodol ar allu yn y Gymraeg yn ôl amlder siarad Cymraeg, 2020-21 i 2021-22

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart bar sy'n dangos bod y gyfradd gytundeb amodol yn cynyddu wrth i amlder siarad Cymraeg gynyddu

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Ymhlith pobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru:

  • dywedodd 93.6% o’r bobl a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd eu bod hefyd yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021
  • dywedodd 26.4% o’r bobl a ddywedodd nad oeddent byth yn siarad Cymraeg eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021

Canfu dadansoddiad cyfatebol gan ddefnyddio data cysylltiedig o Gyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu gyfraddau cytundeb amodol o:

  • 83.0% ar gyfer y rhai a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd
  • 16.7% ar gyfer y rhai a ddywedodd nad oeddent byth yn siarad Cymraeg.

Cyfraddau cytundeb yn ôl rhuglder y Gymraeg lafar

#219213Gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru i ymatebwyr pa mor rhugl yr oeddent yn siarad Cymraeg. Oherwydd y ffordd y cafodd cwestiynau’r arolwg eu llwybro, dim ond i bobl a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru y gofynnwyd y cwestiwn hwn. Mae hyn yn golygu na chasglwyd ymatebion i’r cwestiwn hwn gan bobl a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ond nid yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran Ansawdd a methodoleg.

Ffigur 5: Cyfradd gytundeb amodol ar allu yn y Gymraeg yn ôl rhuglder yn y Gymraeg lafar, 2020-21 i 2021-22

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart bar sy'n dangos bod y gyfradd gytundeb amodol yn cynyddu wrth i ruglder yn y Gymraeg lafar gynyddu

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Mae gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau cytundeb amodol yn ôl pa mor rhugl y mae pobl yn siarad Cymraeg. Mae’r gyfradd cytundeb amodol yn cynyddu gyda lefel y rhuglder.

Ymhlith pobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru:

  • dywedodd 97.5% o’r bobl a ddywedodd eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl eu bod hefyd yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021
  • dywedodd 12.0% o’r bobl a ddywedodd mai dim ond ychydig eiriau o Gymraeg yr oeddent yn gallu eu siarad eu bod hefyd yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021

Cyfraddau cytundeb yn ôl math o aelwyd

Mae’r cyfraddau cytundeb amodol ar gyfer pobl â phlant dibynnol a phobl heb blant dibynnol yn weddol debyg.

Ymhlith pobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn o leiaf un ffynhonnell:

  • roedd 75.9% o bobl â phlant dibynnol yn cytuno eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ac yng Nghyfrifiad 2021
  • roedd 74.9% o bobl heb blant dibynnol yn cytuno eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ac yng Nghyfrifiad 2021

Roedd y gwahaniaethau mewn cyfraddau cytundeb amodol rhwng aelwydydd â phlant dibynnol ac aelwydydd heb blant dibynnol yn llai yn y dadansoddiad hwn nag yn y dadansoddiad blaenorol o Gyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu. Yn y dadansoddiad blaenorol, roedd 61.1% o aelwydydd â phlant yn cytuno ynghylch eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o’r Llafurlu a Chyfrifiad 2021, o gymharu ag 83.8% o aelwydydd heb blant.

Dadansoddiad atchweliad

Defnyddiwyd atchweliad logistaidd i archwilio’r ffactorau sy’n gysylltiedig â chytundeb o ran gallu i siarad Cymraeg. Gwnaethom ddefnyddio model wedi’i addasu a oedd yn asesu’r cysylltiad rhwng cyfradd cytundeb amodol a phob newidyn yn ei dro, gan reoli ar gyfer y newidynnau eraill. Y newidynnau a gafodd eu cynnwys yn y model oedd:

  • rhyw
  • grŵp oedran
  • hunaniaeth genedlaethol
  • rhanbarth
  • a oedd ganddynt blant dibynnol
  • pa mor aml roeddent yn siarad Cymraeg
  • rhuglder wrth siarad Cymraeg

Cyfrifwyd cymarebau ods (OR) ar gyfer pob categori o gymharu â grŵp cyfeirio penodedig. Mae OR sy’n fwy nag un yn dangos bod y canlyniad yn fwy tebygol ar gyfer y categori hwnnw o gymharu â’r grŵp cyfeirio, tra bo OR sy’n llai nag un yn dangos bod y canlyniad yn llai tebygol.

Caiff cymarebau ods eu cyflwyno ochr yn ochr â chyfyngau hyder (CI) i ddangos lefel yr ansicrwydd o amgylch y cysylltiad amcangyfrifol oherwydd amrywioldeb samplu. Mae’r gymhareb ods yn rhoi amcangyfrif pwynt unigol. Mae’r cyfwng hyder yn dangos yr ystod o werthoedd y mae gwir effaith y boblogaeth yn debygol o fod ynddi ac yn helpu i asesu pa mor fanwl gywir ac ystadegol arwyddocaol yw’r amcangyfrif.

Oni nodir fel arall, mae’r cymarebau ods a gyflwynir yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% o leiaf. Mae hyn yn dangos ei bod yn annhebygol mai hap a damwain sy’n gyfrifol am y cysylltiadau. Mae rhagor o wybodaeth am atchweliad logistaidd a chymarebau ods ar gael yn yr adran Ansawdd a methodoleg.

Y ffactorau a oedd â’r cysylltiad cryfaf yn y model hwn oedd:

  • rhanbarth
  • rhuglder wrth siarad Cymraeg
  • pa mor aml roeddent yn siarad Cymraeg

Ar ôl rheoli ar gyfer y newidynnau eraill, nid oedd grŵp oedran, rhyw, a oedd ganddynt blant dibynnol, na hunaniaeth genedlaethol yn dangos cysylltiadau ystadegol arwyddocaol clir.

Rhanbarth

Y rhagfynegydd cyntaf yn y model oedd rhanbarth. Gwnaethom gyfrifo cymarebau ods i gymharu pa mor debygol oedd cytundeb rhwng y ddwy ffynhonnell ddata. Gwnaethom ddefnyddio ymatebwyr a oedd yn byw yng ngogledd orllewin Cymru fel y grŵp cyfeirio.

Ffigur 6: Tebygolrwydd cytundeb amodol yn ôl rhanbarth, 2020-21 i 2021-22

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart sy'n dangos bod y cymarebau ods ar gyfer cytundeb amodol yn is yng ngogledd-ddwyrain, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru o gymharu â gogledd-orllewin Cymru

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

O gymharu â phobl sy’n byw yng ngogledd orllewin Cymru, roedd pobl a oedd yn byw:

  • yn ne orllewin Cymru 61% yn llai tebygol o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell (OR = 0.39, CI 95%: 0.22, 0.69)
  • yn ne ddwyrain Cymru 61% yn llai tebygol o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell (OR = 0.39, CI 95%: 0.23, 0.68)
  • yng ngogledd ddwyrain Cymru 51% yn llai tebygol o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell (OR = 0.49, CI 95%: 0.26, 0.92)

Nid oedd gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol yn y tebygolrwydd o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell ymhlith pobl a oedd yn byw yng nghanolbarth Cymru.

Amlder siarad Cymraeg

Yr ail ragfynegydd yn y model oedd pa mor aml roeddent yn siarad Cymraeg. Gwnaethom gyfrifo cymarebau ods i gymharu pa mor debygol oedd cytundeb rhwng y ddwy ffynhonnell ddata. Gwnaethom ddefnyddio ymatebwyr a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd fel y grŵp cyfeirio.

Ffigur 7: Tebygolrwydd cytundeb amodol yn ôl amlder siarad Cymraeg, 2020-21 i 2021-22

Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart sy'n dangos bod y cymarebau ods ar gyfer cytundeb amodol yn cynyddu wrth i amlder siarad Cymraeg gynyddu

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

O gymharu â phobl sy’n dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, roedd pobl a oedd yn dweud eu bod:

  • yn siarad Cymraeg yn llai aml nag unwaith yr wythnos 44% yn llai tebygol o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell (OR = 0.56, CI 95%: 0.36, 0.88)
  • byth yn siarad Cymraeg 71% yn llai tebygol o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell (OR = 0.29, CI 95%: 0.14, 0.59)

Nid oedd gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol ar gyfer pobl a oedd yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn wythnosol.

Rhuglder wrth siarad Cymraeg

Y trydydd rhagfynegydd yn y model oedd rhuglder wrth siarad Cymraeg. Gwnaethom gyfrifo cymarebau ods i gymharu pa mor debygol oedd cytundeb rhwng y ddwy ffynhonnell ddata. Gwnaethom ddefnyddio ymatebwyr a oedd yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl fel y grŵp cyfeirio.

Ffigur 8: Tebygolrwydd cytundeb amodol yn ôl rhuglder yn y Gymraeg lafar, 2020-21 i 2021-22

Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart sy'n dangos bod y cymarebau ods ar gyfer cytundeb amodol yn cynyddu wrth i ruglder yn y Gymraeg lafar gynyddu

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

O gymharu â phobl sy’n dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl, roedd pobl a oedd yn dweud eu bod yn gallu:

  • siarad cryn dipyn o Gymraeg 91% yn llai tebygol o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell (OR = 0.09, CI 95%: 0.05, 0.14)
  • siarad dim ond ychydig o Gymraeg 98% yn llai tebygol o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell (OR = 0.02, CI 95%: 0.01, 0.03)
  • dweud dim ond ychydig eiriau yn Gymraeg 99.5% yn llai tebygol o adrodd yr un gallu yn y Gymraeg yn y ddwy ffynhonnell (OR < 0.01, CI 95%: < 0.01, 0.01)

Dadansoddiad clwstwr

#219213Defnyddiwyd clystyru hierarchaidd i nodi grwpiau o ymatebwyr â phatrymau tebyg o nodweddion ac ymatebion am y Gymraeg. Roedd y dadansoddiad yn grwpio unigolion a oedd yn debycach i’w gilydd ac yn gwahanu’r rhai a oedd yn llai tebyg. Mae hyn yn creu clystyrau o ymatebwyr â phroffiliau tebyg.

Ffurfiwyd y clystyrau gan ddefnyddio gwybodaeth am ymatebion i gwestiynau am y Gymraeg a nodweddion demograffig dethol. Mae unigolion yn yr un clwstwr yn debycach i’w gilydd nag i unigolion mewn clystyrau eraill. Nid yw’r dadansoddiad yn nodi ffactorau sy’n gysylltiedig â chanlyniad. Yn hytrach, mae’n helpu i ddisgrifio patrymau cyffredin yn y data.

Aseswyd ansawdd y clystyru gan ddefnyddio sgôr silwét. Mae hon yn mesur pa mor debyg yw unigolion i eraill yn eu clwstwr eu hunain o gymharu ag unigolion mewn clystyrau eraill. Mae gwerthoedd uwch yn dangos bod y clystyrau wedi’u gwahanu’n gliriach, sy’n awgrymu bod y grwpiau a nodwyd yn ystyrlon ac yn wahanol i’w gilydd.

Mae clystyru hierarchaidd yn dechneg archwiliadol, a dylid dehongli’r clystyrau fel grwpiau disgrifiadol o fewn y data yn hytrach na chategorïau poblogaeth pendant neu sefydlog. Mae rhagor o wybodaeth am glystyru hierarchaidd ar gael yn yr adran Ansawdd a methodoleg.

Tabl 5: clystyrau a nodwyd lle’r oedd cytundeb amodol rhwng yr ymatebion i gwestiynau am y Gymraeg
Amlder siarad CymraegRhuglder siarad CymraegHunaniaeth cenedlaetholRhanbarthNifer y bobl
Yn wythnosolGallaf siarad cryn dipyn o GymraegCymreigDe ddwyrain, De orllewin200
Yn ddyddiolRwy'n rhugl yn y GymraegPrydeinigDe orllewin205
Yn llai amlRwy'n rhugl yn y GymraegCymreigDe ddwyrain 135
Yn wythnosolRwy'n rhugl yn y GymraegCymreigDe ddwyrain130
Yn ddyddiolRwy'n rhugl yn y GymraegCymreigGogledd ddwyrain180
Yn ddyddiolRwy'n rhugl yn y GymraegCymreigDe orllewin195
Yn ddyddiolRwy'n rhugl yn y GymraegCymreigGogledd orllewin350
Yn ddyddiolRwy'n rhugl yn y GymraegCymreigCanolbarth135
Yn ddyddiolRwy'n rhugl yn y GymraegCymreigDe ddwyrain110

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Tabl 6: clystyrau a nodwyd lle nad oedd cytundeb amodol rhwng yr ymatebion i gwestiynau am y Gymraeg
Amlder siarad CymraegRhuglder siarad CymraegHunaniaeth cenedlaetholRhanbarthNifer y bobl
Yn llai aml, BythGallaf siarad cryn dipyn o GymraegCymreigDe ddwyrain175
Yn llai aml Dim ond ychydig o Gymraeg y gallaf ei siaradPrydeinigDe ddwyrain150
Yn llai amlDim ond ychydig o Gymraeg y gallaf ei siaradCymreigDe ddwyrain155

Ffynhonnell: data cysylltiedig Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Nododd y dadansoddiad clystyru hierarchaidd 12 grŵp gwahanol o ymatebwyr a oedd wedi nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn o leiaf un ffynhonnell. Roedd y rhan fwyaf o’r clystyrau yn dangos cytundeb amodol rhwng Cyfrifiad 2021 a’r Arolwg Cenedlaethol Cymru o ran gallu i siarad Cymraeg. Roedd y clystyrau hyn yn cynnwys yn bennaf ymatebwyr a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn disgrifio eu hunain fel siaradwyr Cymraeg rhugl.

Roedd tri chlwstwr yn dangos diffyg cytundeb amodol rhwng y ddwy ffynhonnell. Roedd y clystyrau hyn yn cynnwys yn bennaf ymatebwyr a oedd:

  • yn siarad Cymraeg yn llai aml nag unwaith yr wythnos neu byth
  • yn disgrifio eu gallu i siarad Cymraeg fel gallu siarad ychydig o Gymraeg neu gryn dipyn o Gymraeg
  • yn byw yn ne-ddwyrain Cymru

Yn gyffredinol, mae’r canlyniadau’n awgrymu bod y cytundeb rhwng Cyfrifiad 2021 a’r Arolwg Cenedlaethol Cymru ar ei uchaf ymhlith pobl a oedd yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn aml. Roedd diffyg cytundeb yn fwy cyffredin ymhlith pobl a oedd yn siarad Cymraeg yn llai aml nag unwaith yr wythnos ac a nododd lefelau is o allu i siarad Cymraeg.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cysylltu data

Roedd y dadansoddiad hwn yn defnyddio data cysylltiedig ym manc data diogel SAIL. Mae SAIL yn amgylchedd ymchwil dibynadwy sy'n galluogi cofnodion dienw o wahanol ffynonellau data i gael eu cysylltu ar lefel unigolyn at ddibenion ymchwil. Mae cysylltu'r 2 ffynhonnell yn galluogi cymharu'n uniongyrchol yr ymatebion yr un unigolyn. Mae hyn yn rhoi mewnwelediadau na fyddai'n bosibl eu cael drwy ddadansoddi'r setiau ddata ar wahân. Mae dadansoddiadau sy’n dod o SAIL yn dilyn prosesau rheoli datgelu llym er mwyn sicrhau nad yw'n bosibl adnabod unigolion o'r data. Er enghraifft, does dim modd adrodd cyfrifon sy'n llai na 10.

Cysylltwyd cofnodion o Gyfrifiad 2021 ag ymatebwyr i Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020 i 2021 a 2021 i 2022. Roedd hyn yn galluogi cymharu'r ymatebion gan yr un unigolion ar draws y 2 ffynhonnell. Roedd y set ddata gysylltiedig yn cynnwys ymatebwyr 16 oed neu'n hŷn, sef yr oedran a gwmpesir gan Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Roedd y set ddata gyfunol o'r arolwg yn cynnwys 27,270 o gofnodion, a chysylltwyd 22,150 (81%) ohonynt yn llwyddiannus â chofnod Cyfrifiad.

Er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel, cafodd 640 o gofnodion â thebygolrwydd paru is na'r trothwy o 95% eu heithrio. Dilëwyd 11,065 o gofnodion oedd naill ai’n ddyblyg neu heb ymatebion i gwestiynau am y Gymraeg. 

Roedd y set ddata ddadansoddol derfynol yn cynnwys 10,445 o gofnodion.

Cyfrifwyd y cyfraddau cytundeb amodol gan ddefnyddio'r 2,210 o unigolion a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn o leiaf un o'r 2 ffynhonnell ddata. Ar gyfer y dadansoddiadau o ruglder ac amlder defnyddio'r Gymraeg, gostyngwyd y sampl i 2,110 o unigolion oherwydd y ffordd y cafodd y cwestiynau eu llwybro.

Ansawdd data

Un o gyfyngiadau data cysylltiedig yw does dim modd cysylltu pob cofnod o bob ffynhonnell ddata yn llwyddiannus. Mae set ddata gysylltiedig yn cynnwys unigolion sy’n ymddangos yn y ddwy ffynhonnell ac sy’n gallu cael eu paru drwy’r broses gysylltu yn unig. Mae’r gallu i gysylltu data yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o’r boblogaeth. O ganlyniad, mae’r sampl gysylltiedig yn gallu bod yn llai cynrychioliadol na phoblogaeth gyffredinol y Cyfrifiad neu’r sampl wreiddiol o’r Arolwg Cenedlaethol Cymru. Er enghraifft, gall grwpiau sy’n symud yn aml neu sy’n anodd eu hadnabod fod â chyfraddau cysylltu is, gan achosi tuedd yn y data.

Mae’r Cyfrifiad ac Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn wahanol o ran eu cynllun a’u diben. Nod Cyfrifiad 2021 yw casglu gwybodaeth gan holl boblogaeth Cymru, tra bod Arolwg Cenedlaethol Cymru yn seiliedig ar sampl o drigolion. Felly, mae amcangyfrifon yr arolwg yn amodol ar amrywiad samplu, ac mae’n bosibl bod maint y sampl ar gyfer rhai is-grwpiau o’r boblogaeth yn gymharol fach yn y data cysylltiedig. Mae hyn yn cyfyngu ar gadernid y dadansoddiadau ar gyfer y grwpiau hyn.

Gall y dull o gasglu data hefyd ddylanwadu ar yr ymatebion. Gall ymatebion i’r Cyfrifiad gael eu cwblhau gan berson cyswllt yr aelwyd ar ran aelodau eraill o’r aelwyd, tra bod ymatebion i Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cael eu casglu’n uniongyrchol gan yr ymatebydd yn gyffredinol. O ganlyniad, gall y gwahaniaethau a welir rhwng y ddwy ffynhonnell adlewyrchu’r ffordd y caiff y data eu casglu yn hytrach na gwahaniaethau gwirioneddol yn y nodwedd sylfaenol sy’n cael ei mesur.

Yn ystod y cyfnod dan sylw yn y dadansoddiad hwn, cynhaliwyd Arolwg Cenedlaethol Cymru dros y ffôn yn bennaf yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19, tra cafodd Cyfrifiad 2021 ei gwblhau gan ymatebwyr eu hunain, naill ai ar-lein neu ar ffurflen bapur. Felly, casglwyd yr ymatebion mewn cyd-destunau gwahanol ac ar adegau gwahanol. Gall y ffactorau hyn gyfrannu at wahaniaethau yn y ffordd yr oedd unigolion yn adrodd am eu gallu yn y Gymraeg.

Ni ddylid dehongli anghytundeb rhwng Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru o reidrwydd fel tystiolaeth bod un ffynhonnell yn fwy cywir na’r llall. Gall gwahaniaethau godi oherwydd:

  • cyfyngiadau o ran cysylltu data
  • amrywiad samplu
  • geiriad y cwestiynau
  • dulliau casglu data
  • amseriad y gwaith o gasglu data
  • ansicrwydd o ran sut mae unigolion yn adrodd am nodweddion goddrychol
  • newidiadau gwirioneddol yng ngallu unigolion yn y Gymraeg dros amser.

Felly, dylid dehongli’r canfyddiadau fel mesur o gysondeb rhwng y ddwy ffynhonnell, yn hytrach na mesur o gywirdeb.

Atchweliad logistaidd

Mae atchweliad logistaidd yn edrych ar sut mae gwahanol ffactorau yn gysylltiedig â chanlyniad sydd â 2 ganlyniad posibl. Mae’r canlyniadau’n cael eu cyflwyno fel cymarebau ods. Mae’r rhain yn dangos sut mae tebygolrwydd y canlyniad yn amrywio rhwng grwpiau o gymharu â grŵp cyfeirio.

Yn y dadansoddiad hwn, gwnaethom ddefnyddio fersiwn 3.10 o Python i lunio modelau atchweliad logistaidd. Gwnaethom edrych ar effaith amrywiaeth o nodweddion fel ffactorau a allai ddylanwadu ar gytundeb amodol ynghylch siarad Cymraeg rhwng Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020 i 2021 a 2021 i 2022.

Y nodweddion a ddadansoddwyd gennym oedd:

  • grŵp oedran
  • rhyw
  • rhanbarth
  • hunaniaeth genedlaethol
  • rhuglder yn y Gymraeg
  • amlder siarad Cymraeg

Gwnaethom ddefnyddio model wedi’i addasu a oedd yn cynnwys yr holl nodweddion hyn er mwyn rheoli ar gyfer ffactorau drysu posibl.

Cyfyngiadau atchweliad

Er bod atchweliad logistaidd yn ddull sy’n cael ei ddefnyddio yn helaeth, mae rhai cyfyngiadau cydnabyddedig i’r dull a ddylanwadodd ar gynllun ein dadansoddiad.

Cyfyngiad i ganlyniadau deuaidd

Mae atchweliad logistaidd wedi’i gynllunio ar gyfer canlyniadau deuaidd. Byddai angen dull arall ar gyfer canlyniadau sydd â mwy nag un categori, er enghraifft atchweliad logistaidd amlnomaidd neu drefnol.

Newidynnau rhagfynegi

Pan fydd cydberthynas uchel rhwng newidynnau rhagfynegi (amlgydlinoldeb), gall hyn effeithio ar ddibynadwyedd y model drwy ystumio amcangyfrifon y cyfernodau a chynyddu ansicrwydd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd asesu effaith unigol pob newidyn a gall arwain at gymarebau ods ansefydlog neu gamarweiniol.

Er mwyn lleihau’r broblem hon, gwnaethom gyfuno neu eithrio rhai newidynnau wrth ddatblygu’r model. Er enghraifft, ni chafodd ethnigrwydd ei gynnwys yn y model oherwydd bod cydberthynas rhy agos rhyngddo â siarad Cymraeg.

Gofyniad o ran maint sampl

Yn gyffredinol, mae angen sampl digon mawr ar gyfer atchweliad logistaidd er mwyn cynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy, yn enwedig pan fydd nifer o newidynnau rhagfynegi wedi’u cynnwys. Roedd ein dadansoddiad yn dilyn y rheol digwyddiadau fesul newidyn (EPV), sy’n argymell o leiaf 10 digwyddiad canlyniad ar gyfer pob newidyn rhagfynegi yn y model.

Er enghraifft, os yw’r model yn cynnwys 7 newidyn rhagfynegi, dylai fod o leiaf 70 o achosion o’r canlyniad dan sylw. Helpodd hyn i sicrhau amcangyfrifon sefydlog o’r cyfernodau ac i leihau’r risg o orffitio.

Mae atchweliad logistaidd yn ddull gwerthfawr o archwilio cysylltiadau rhwng newidynnau a rhagfynegi canlyniadau deuaidd. Mae cymarebau ods yn rhoi gwybodaeth am debygolrwydd cymharol gwahanol grwpiau o brofi canlyniad penodol. Fodd bynnag, nid yw’r model yn ystyried pob ffactor posibl a allai ddylanwadu ar y canlyniad, gan gynnwys y rhai a gafodd eu heithrio oherwydd amlgydlinoldeb neu’r rhai nad ydynt wedi’u cofnodi yn y data.

Clystyru hierarchaidd crynodol

Mae clystyru hierarchaidd crynodol yn dechneg dysgu heb oruchwyliaeth a ddefnyddir i nodi grwpiau o arsylwadau tebyg o fewn set ddata. Mae’r dull yn dechrau drwy drin pob arsylwad fel clwstwr ar wahân, ac yna’n cyfuno’r 2 glwstwr sydd fwyaf tebyg i’w gilydd yn olynol nes bod yr holl arsylwadau wedi’u cyfuno mewn un hierarchaeth.

Yn y dadansoddiad hwn, gwnaethom ddefnyddio fersiwn 3.10 o Python i gynnal clystyru hierarchaidd crynodol. Roedd hyn yn archwilio patrymau cytundeb ac anghytundeb rhwng Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020 i 2021 a 2021 i 2022 ar draws amrywiaeth o nodweddion.

Y nodweddion a gynhwyswyd yn y dadansoddiad clystyru oedd:

  • siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021
  • siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • grŵp oedran
  • rhyw
  • rhanbarth
  • hunaniaeth genedlaethol
  • rhuglder yn y Gymraeg
  • amlder siarad Cymraeg

Diben y dadansoddiad clystyru oedd nodi grwpiau o unigolion â phatrymau ymateb tebyg ar draws y nodweddion hyn, heb bennu cytundeb amodol ymlaen llaw fel newidyn canlyniad.

Er mwyn pennu’r nifer gorau posibl o glystyrau, gwnaethom werthuso amrywiaeth o ddatrysiadau clystyru gan ddefnyddio’r sgôr silwét. Mae’r sgôr silwét yn mesur pa mor debyg yw arsylwadau i arsylwadau eraill yn y clwstwr y maent wedi’u neilltuo iddo, o gymharu ag arsylwadau mewn clystyrau eraill. Mae sgoriau silwét uwch yn dynodi clystyrau sy’n fwy pendant ac wedi’u gwahanu’n well. Yn ogystal â gwneud y mwyaf o’r sgôr silwét, roeddem yn ei gwneud yn ofynnol i bob clwstwr gynnwys o leiaf 5% o’r set ddata er mwyn sicrhau bod y grwpiau a ddeilliodd o’r dadansoddiad yn ddigon mawr i’w dehongli mewn ffordd ystyrlon.

Wrth ddatblygu’r model, cafodd grŵp oedran a rhyw eu cynnwys yn y dadansoddiad clystyru. Fodd bynnag, ychydig o ddylanwad a gafodd y newidynnau hyn ar strwythur y clystyrau a ddeilliodd o’r dadansoddiad, ac nid oeddent yn cyfrannu at wahaniaethu ystyrlon rhwng y clystyrau. Roedd eu dileu yn cynyddu’r sgôr silwét, gan ddangos bod y clystyrau a oedd yn weddill wedi’u gwahanu’n well ac yn fwy cydlynol. Felly, cafodd grŵp oedran a rhyw eu dileu o’r datrysiad clystyru terfynol er mwyn gwella ansawdd y clystyrau a pha mor hawdd oedd eu dehongli.

Cyfyngiadau clystyru

Er bod clystyru hierarchaidd crynodol yn dechneg archwiliadol ddefnyddiol, mae iddo nifer o gyfyngiadau cydnabyddedig a ddylanwadodd ar gynllun ein dadansoddiad.

Natur archwiliadol

Mae clystyru hierarchaidd yn nodi grwpiau ar sail tebygrwydd o fewn y data sydd ar gael, ond nid yw’n sefydlu perthnasoedd achosol rhwng newidynnau. Felly, dylid dehongli’r clystyrau fel grwpiau disgrifiadol yn hytrach na thystiolaeth o achosion sylfaenol.

Sensitifrwydd i’r dewis o newidynnau

Gall y newidynnau a gynhwysir yn y dadansoddiad ddylanwadu ar y clystyrau a nodir. Gall dewis gwahanol newidynnau arwain at ddatrysiadau clystyru gwahanol. O ganlyniad, mae’r clystyrau’n adlewyrchu’r patrymau sy’n bresennol yn y nodweddion a ddewiswyd ac mae’n bosibl nad ydynt yn cwmpasu’r holl ffactorau sy’n berthnasol i adrodd am allu yn y Gymraeg.

Dewis paramedrau clystyru

Gall y canlyniadau amrywio yn dibynnu ar y mesur tebygrwydd a’r dull cysylltu a ddefnyddir. Er i ni ddewis datrysiad a oedd yn gwneud y mwyaf o’r sgôr silwét ac yn bodloni’r gofynion o ran maint lleiaf y clystyrau, gall dewisiadau methodolegol eraill arwain at grwpiau ychydig yn wahanol.

Dylanwad posibl grwpiau prin

Gall is-grwpiau bach iawn weithiau ffurfio clystyrau ar wahân neu gael dylanwad anghymesur ar y ffordd y mae clystyrau’n cael eu ffurfio. Er mwyn lleihau’r broblem hon, roeddem yn ei gwneud yn ofynnol i bob clwstwr terfynol gynnwys o leiaf 5% o’r set ddata.

Nid oes un nifer cywir pendant o glystyrau

Nid yw clystyru hierarchaidd yn darparu un datrysiad sy’n wrthrychol gywir. Er bod y sgôr silwét yn darparu mesur meintiol o ansawdd y clystyrau, mae dewis terfynol y clystyrau hefyd yn gofyn am ystyried pa mor hawdd ydynt i’w dehongli a pha mor ddefnyddiol ydynt yn ymarferol.

Mae clystyru hierarchaidd crynodol yn ddull gwerthfawr o nodi patrymau a grwpiau mewn setiau data cymhleth. Gall ddatgelu tebygrwydd rhwng unigolion nad yw o bosibl yn amlwg wrth ddadansoddi nodweddion ar wahân. Fodd bynnag, mae’r clystyrau sy’n deillio o’r dadansoddiad yn dibynnu ar y newidynnau a gynhwysir a’r dewisiadau methodolegol a wneir yn ystod y dadansoddiad. Felly, dylid eu dehongli fel disgrifiadau archwiliadol o’r data yn hytrach na dosbarthiadau pendant.

Cymaroldeb ag astudiaethau blaenorol

Mae’r canfyddiadau wedi’u cymharu, lle bo hynny’n briodol, â chanfyddiadau dadansoddiad blaenorol a edrychodd ar y cytundeb rhwng ymatebion Cyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu ynghylch gallu yn y Gymraeg. Mae’r cymariaethau hyn yn rhoi cyd-destun defnyddiol, ond dylid bod yn ofalus wrth eu dehongli.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru a’r Arolwg o’r Llafurlu yn wahanol o ran cynllun eu samplau, eu dulliau casglu data a phoblogaethau eu hymatebwyr. Yn ogystal, roedd y dulliau cysylltu a ddefnyddiwyd i gysylltu cofnodion yr arolygon â Chyfrifiad 2021 yn wahanol rhwng yr astudiaethau. O ganlyniad, gall unrhyw wahaniaethau a welir adlewyrchu gwahaniaethau methodolegol yn ogystal â gwahaniaethau sylfaenol yn yr ymatebion ynghylch gallu yn y Gymraeg.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Nid yw'r ystadegau hyn wedi'u dosbarthu'n ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi gweithredu egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU) cyn belled ag y bo modd wrth ddatblygu'r ystadegau.

Yn gyffredinol, mae erthyglau ystadegol yn ymwneud â dadansoddiadau untro nad oes bwriad i'w diweddaru, yn y tymor byr o leiaf, ac maent yn fodd o sicrhau bod dadansoddiadau o'r fath ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau sy'n archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres arbrofol newydd o ddata
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n fan cychwyn defnyddiol ar gyfer ymchwil bellach, ond sydd hefyd yn ddadansoddiad defnyddiol ynddo‘i hun
  • tynnu sylw at ymchwil a gynhaliwyd gan sefydliadau eraill, boed wedi'i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru ai peidio, lle mae'n ddefnyddiol tynnu sylw at y casgliadau neu adeiladu ymhellach ar yr ymchwil
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o bosibl o safon mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau a'n bwletinau ystadegol rheolaidd, ond lle gellir dal i ddod i gasgliadau ystyrlon o'r canlyniadau.

Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu ragor o'r ffyrdd canlynol:

  • methu â nodi'n fanwl gywir y cyfnod amser a ddefnyddiwyd, fel y gall ddigwydd wrth ddefnyddio ffynhonnell weinyddol
  • ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddiwyd
  • rhesymau penodol eraill.

Felly, rydym wedi cymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol fel a ganlyn:

  • bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n effeithio'n sylweddol ar y casgliadau, gan mai maint bras y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa
  • bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad yn cael ei gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymariaethau â ffynonellau eraill, ynghyd ag arweiniad ar sut y gellid defnyddio'r dadansoddiad a disgrifiad o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd.

Mae'r ystadegau hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Mae'r ffigurau a gyhoeddir yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chan gymhwyso dulliau sy'n defnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddi.

Caiff yr ystadegau hyn eu cyhoeddi ymlaen llaw yn adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Cyfyngir mynediad at y data wrth iddynt gael eu prosesu i'r bobl sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Cyfyngir mynediad cyn cyhoeddi i dderbynwyr cymwys yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel ac yn rhydd rhag unrhyw ymyrraeth wleidyddol. Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu, ac mae uwch ystadegwyr yn cymeradwyo'r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Mae'r ystadegau hyn yn darparu tystiolaeth i helpu i ddeall gallu yn y Gymraeg yng Nghymru a'r gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae'r dadansoddiad yn cyfuno data gweinyddol a data arolwg wedi'u cysylltu i roi mewnwelediadau na fyddai ar gael o'r naill ffynhonnell ddata na'r llall ar ei phen ei hun. Bwriedir i'r canfyddiadau gefnogi llunwyr polisïau, ymchwilwyr a defnyddwyr eraill sydd â diddordeb mewn ystadegau'r Gymraeg a'r ffordd y cânt eu dehongli.

Mae croeso i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol gydag unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu 7 nod llesiant i Gymru. Y nodau yw sicrhau Cymru sy'n fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iachach ac sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd.

Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

YDG Cymru
Ebost:  YDGCymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image