Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 6 Rhagfyr, cyhoeddwyd bwletin ystadegol yn crynhoi'r canlyniadau cychwynnol o Gyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg y boblogaeth sy'n byw yng Nghymru.

Ar 28 Mawrth, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddata ychwanegol o Gyfrifiad 2021 mewn adnodd lle gellir creu tablau data (SYG) eich hunain yn ôl nifer o nodweddion eraill. Mae'r SYG hefyd wedi creu a chyhoeddi rhai tablau data penodol (SYG) yn barod, er enghraifft, y Gymraeg yn ôl gwlad enedigol a'r Gymraeg yn ôl rhyw ac oedran.

Mae rhai o'r prif ganfyddiadau o'r data ychwanegol hyn wedi eu crynhoi isod.

Mae gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yn y cyfrifiad yn seiliedig ar hunanasesiad unigolyn o'i allu. Mewn rhai achosion, yn enwedig ar gyfer plant, adroddwyd ar sgiliau Cymraeg gan rywun arall – rhiant neu warcheidwad, er enghraifft.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau o gyfyngiadau symud, dysgu o bell ar gyfer llawer o blant ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod a effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg ai peidio (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill).

Oni nodir yn wahanol, daw'r holl ddata yn y bwletin ystadegol hwn o'r SYG 'Cyfrifiad o'r Boblogaeth 2011 a 2021'.

Prif bwyntiau

Rhyw ac oedran

  • Mae proffil oedran siaradwyr Cymraeg yn iau na'r boblogaeth gyffredinol. O'r rheini adroddodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, roedd dros hanner yn iau na 33 oed a thri chwarter yn iau na 57 oed.
  • Mae'r ganran o ferched tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn parhau'n uwch na'r ganran gyfatebol ar gyfer dynion, gyda'r bwlch ar ei fwyaf ar gyfer y boblogaeth 16 i 18 oed.
  • Bu gostyngiad yn niferoedd a chanran y merched tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg o 300,300 (19.9%) yn 2011 i 288,540 (18.7%) yn 2021.
  • Bu hefyd ostyngiad yn niferoedd a chanran y dynion tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg o 261,720 (18.1%) yn 2011 i 249,750 (16.9%) yn 2021.

Grŵp ethnig

  • Bu cynnydd yn nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg oedd yn perthyn i'r grwpiau ethnig lefel uchel "Grwpiau cymysg neu amlethnig", "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig", "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" a'r grŵp "Arall" o bron i 11,000 yn 2011 i ychydig dros 16,000 yn 2021.
  • Bu hefyd gynnydd yn y ganran sy'n gallu siarad Cymraeg ymysg y boblogaeth oedd yn perthyn i'r grwpiau ethnig "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig", "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" a'r grŵp "Arall".
  • Bu gostyngiad yn y ganran sy'n gallu siarad Cymraeg ymysg y boblogaeth oedd yn perthyn i'r grŵp ethnig "Gwyn" o 19.5% yn 2011 i 18.4% yn 2021.

Gwlad enedigol

  • Bu gostyngiad yn niferoedd a chanran y bobl tair oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg o 495,580 (23.3%) yn 2011 i 473,060 (22.3%) yn 2021.
  • Bu gostyngiad hefyd yn niferoedd a chanran y bobl tair oed neu'n hŷn a anwyd y tu allan i Gymru sy'n gallu siarad Cymraeg o 66,430 (8.0%) yn 2011 i 65,240 (7.3%) yn 2021.
  • O blith y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, bu rhywfaint o gynnydd yn y ganran a anwyd y tu allan i Gymru, o 11.8% yn 2011 i 12.1% yn 2021.

Hunaniaeth genedlaethol

  • Yn 2021, roedd y ganran o siaradwyr Cymraeg ar ei huchaf ymysg y bobl tair oed neu'n hŷn wnaeth nodi hunaniaeth Gymreig yn unig (24.8%) ac ar ei hisaf ymysg y bobl wnaeth nodi hunaniaeth Seisnig yn unig (4.2%) a Seisnig a Phrydeinig (4.2%).
  • Rhwng 2011 a 2021, bu gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ym mhob grŵp hunaniaeth genedlaethol heblaw am y boblogaeth sydd ag "O leiaf un hunaniaeth o'r Deyrnas Unedig (DU) ac un hunaniaeth heb fod o'r DU" a "Hunaniaeth heb fod o'r DU yn unig".

Marchnad lafur a chymwysterau

  • Bu cynnydd yn nifer a chanran y boblogaeth 16 oed neu'n hŷn mewn gwaith sy'n gallu siarad Cymraeg o 227,760 (16.6%) yng Nghyfrifiad 2011 i 231,400 (16.9%) yng Nghyfrifiad 2021.
  • Yn 2021, roedd canran y siaradwyr Cymraeg o blith y boblogaeth 16 oed neu'n hŷn mewn gwaith ar ei huchaf yn y Galwedigaethau Proffesiynol (21.0%) ac ar ei hisaf ymysg Gweithredwyr Prosesau, Peirianwaith a Pheiriannau (11.8%).
  • Roedd dros hanner y boblogaeth mewn gwaith sy'n siarad Cymraeg yn gweithio mewn un o bedwar diwydiant: "Gweithgareddau Iechyd Pobl a Gwaith Cymdeithasol", "Addysg", "Masnach Cyfanwerthu, Manwerthu a Moduron" a "Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac Amddiffyn".
  • Roedd canran y siaradwyr Cymraeg ar ei isaf ymysg y grwpiau o'r boblogaeth gyda lefelau cymhwyster is. Yn 2021, roedd 9.8% o'r boblogaeth heb unrhyw gymhwyster yn gallu siarad Cymraeg.

Iechyd, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl

  • O blith y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, nododd 462,760 (86.0%) bod eu hiechyd yn dda iawn neu'n dda – cynnydd o 1.6 pwynt canran ers 2011 ac yn adlewyrchu'r gwelliant yn iechyd y boblogaeth gyffredinol.
  • Yn 2021, roedd 86,750 (13.0%) o bobl anabl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg.
  • Roedd 15.0% o'r boblogaeth 5 oed neu'n hŷn oedd yn darparu rhywfaint o ofal di-dâl yn gallu siarad Cymraeg. Mae'r gyfran hon yn syrthio i 12.2% ymysg y boblogaeth sy'n darparu gofal am 50 neu fwy o oriau'r wythnos.

Y Gymraeg yn ôl rhyw ac oedran

Mae proffil oedran siaradwyr Cymraeg yn iau na'r boblogaeth gyffredinol. O'r rheini adroddodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, roedd dros hanner yn iau na 33 oed a thri chwarter yn iau na 57 oed.

Ffigur 1: Nifer y bobl 3 i 84 oed sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl rhyw ac oedran, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Pyramid poblogaeth sy'n dangos dosraniad oedran y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg a'r boblogaeth sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg. Gan hepgor y blynyddoedd cynnar, mae niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn amrywio llai yn ôl oedran na maint y boblogaeth gyffredinol.

Bu gostyngiad yn niferoedd y merched tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, o 300,300 yn 2011 i 288,540 yn 2021.

Bu hefyd ostyngiad yn niferoedd y dynion tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg o 261,720 yng Nghyfrifiad 2011 i 249,750 yng Nghyfrifiad 2021.

Mae'r ganran o ferched tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg (18.7%) yn parhau'n uwch na'r ganran gyfatebol ar gyfer dynion (16.9%). Dydy maint y bwlch hwn heb newid ers 2011.

Mae'r bwlch rhwng cyfran y merched a dynion sy'n gallu siarad Cymraeg ar ei fwyaf ar gyfer y boblogaeth 16 i 18 oed ac ar ei leiaf ar gyfer y boblogaeth hŷn.

Ffigur 2: Canran y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl rhyw ac oedran, 2011 a 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos y ganran o ddynion a merched nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011 a 2021 fesul blwydd oedran. Mae'r ganran o blant a phobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg yn uwch na chanran yr oedolion, ond mae wedi gostwng ers 2011.

Gwelwyd y cwymp mwyaf yn niferoedd a chanran y siaradwyr Cymraeg ymysg y grŵp oedran 3 i 15 mlwydd oed. Roedd 33.9% o ferched 3 i 15 oed yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021 (gostyngiad o 6.1 pwynt canran ers 2011). Roedd 30.1% o fechgyn 3 i 15 oed yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021 (gostyngiad o 5.2 pwynt canran ers 2011).

Bu rhywfaint o gynnydd yn y ganran o'r boblogaeth 16 i 64 oed sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021 ymysg merched (0.3 pwynt canran) a dynion (0.2 pwynt canran).

Y Gymraeg yn ôl grŵp ethnig

Bu cynnydd yn nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg oedd yn perthyn i'r grwpiau ethnig lefel uchel "Grwpiau cymysg neu amlethnig", "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig", "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" a'r grŵp "Arall" o bron i 11,000 yn 2011 i ychydig dros 16,000 yn 2021.

Fel y nodwyd yn y datganiad cyntaf sy'n crynhoi'r prif ganlyniadau fesul grŵp ethnig, bu cynnydd yn y niferoedd oedd yn perthyn i'r holl grwpiau ethnig hyn ymysg y boblogaeth gyffredinol. Ond yn ogystal â chynnydd mewn niferoedd, bu hefyd gynnydd yn y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg ymysg y boblogaeth oedd yn perthyn i'r grwpiau ethnig "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig", "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" a'r grŵp "Arall".

Ffigur 3: Canran y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl grŵp ethnig, 2011 a 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar sy'n dangos y ganran o'r boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ôl grŵp ethnig yn 2011 ac yn 2021. Y grwpiau ethnig "Gwyn" a "Grwpiau cymysg neu amlethnig" sydd â'r canrannau uchaf, er i'r grwpiau hyn weld gostyngiad yng nghanran y siaradwyr ers 2011.

Yn ôl Cyfrifiad 2021:

  • roedd 6.4% o'r boblogaeth oedd yn perthyn i'r grŵp ethnig "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig" yn gallu siarad Cymraeg (o'i gymharu â 6.3% yn 2011)
  • roedd 6.1% o'r boblogaeth oedd yn perthyn i'r grŵp ethnig "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" yn gallu siarad Cymraeg (o'i gymharu â 5.6% yn 2011)
  • roedd 5.9% o'r boblogaeth oedd yn perthyn i'r grŵp ethnig "Arall" yn gallu siarad Cymraeg (o'i gymharu â 5.5% yn 2011)

Bu gostyngiad yn y ganran sy'n gallu siarad Cymraeg ymysg y boblogaeth oedd yn perthyn i'r grŵp ethnig "Gwyn" o 19.5% yn 2011 i 18.4% yn 2021. Er bu cynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg a nododd eu bod yn perthyn i "Grwpiau cymysg neu amlethnig", mae cyfran y grŵp hwn sy'n gallu siarad Cymraeg hefyd wedi gostwng ers 2011.

Roedd siaradwyr Cymraeg oedd yn perthyn i un o'r pedwar grŵp ethnig lleiafrifol lefel uchel yn llawer yn iau na siaradwyr Cymraeg a nodasant "Gwyn" fel eu grŵp ethnig lefel uchel – hyd yn oed ar ôl ystyried y gwahaniaethau ym mhroffil oedran y boblogaeth gyfan. O'r holl siaradwyr Cymraeg sydd yn perthyn i'r grwpiau ethnig "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" ac "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig", roedd dau draean rhwng 3 a 15 oed. Ychydig dros chwarter y siaradwyr Cymraeg sydd yn perthyn i'r grŵp ethnig "Gwyn" oedd yn disgyn i'r ystod oedran hwn.

Ceir hefyd wahaniaethau yn y ganran o'r boblogaeth sy'n perthyn i grwpiau ethnig lleiafrifol sy'n gallu siarad Cymraeg ar draws Cymru.

Ffigur 4: Canran y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a grŵp ethnig, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart dot sy'n dangos canran y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg fesul awdurdod lleol a grŵp ethnig. Mae'r bylchau rhwng y grwpiau ethnig yn fwy yn y siroedd hynny ble mae canran y boblogaeth gyffredinol sy'n gallu siarad Cymraeg ar ei huchaf.

Yn 2021, roedd y gyfran o siaradwyr Cymraeg o blith y boblogaeth sy'n perthyn i "Grwpiau cymysg neu amlethnig" yn uwch na'r gyfran o'r boblogaeth gyffredinol sy'n gallu siarad Cymraeg mewn 16 o'r 22 awdurdod lleol. Ar y llaw arall, roedd y gyfran o siaradwyr Cymraeg o blith y boblogaeth "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" ac "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig" yn is na'r gyfran o'r boblogaeth gyffedinol sy'n gallu siarad Cymraeg ym mhob un awdurdod lleol.

Dylid nodi bod rhai o'r niferoedd yn y grwpiau hyn yn fychan. Ceir rhagor o fanylion am y ffordd mae'r SYG wedi mynd ati i warchod cyfrinachedd unigolion yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Y Gymraeg yn ôl gwlad enedigol

Ffigur 5: Canran y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl gwlad enedigol, 2011 a 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar sy'n dangos y ganran o'r boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2011 a 2021 yn ôl p'un ai eu bod wedi eu geni yng Nghymru ai peidio. Mae canran y boblogaeth a anwyd yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg tua theirgwaith yn fwy na'r ganran o'r boblogaeth a anwyd y tu allan i Gymru sy'n gallu siarad Cymraeg.

Yn 2021, roedd 473,060 (22.3%) o'r boblogaeth tair oed neu hŷn a anwyd yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, gostyngiad o 1 pwynt canran ers 2011. Roedd 65,240 (7.3%) o'r boblogaeth tair oed neu hŷn a anwyd y tu allan i Gymru yn gallu siarad Cymraeg, gostyngiad o 0.7 pwynt canran ers 2011.

O blith y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, bu rhywfaint o gynnydd yn y ganran a anwyd y tu allan i Gymru, o 11.8% yn 2011 i 12.1% yn 2021. Dylid dehongli'r ystadegyn hwn yng nghyd-destun y tueddiadau mwy cyffredinol yn nemograffeg Cymru. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd hefyd yn y gyfran gyffredinol o'r boblogaeth tair oed neu'n hŷn a anwyd tu allan i Gymru, o 28.1% yn 2011 i 29.8% yn 2021, gyda'r mwyafrif wedi eu geni yn Lloegr.

O'r rheini oedd wedi'u geni yng Nghymru, roedd y gyfran sy'n gallu siarad Cymraeg yn amrywio'n sylweddol yn ôl awdurdod lleol. Rhwng 2011 a 2021, bu cynnydd yn y gyfran o siaradwyr Cymraeg o blith y boblogaeth a anwyd yng Nghymru mewn pum sir: Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful ac Abertawe. Ac eithrio Abertawe, rhain oedd yr unig siroedd i weld cynnydd yn y gyfran o siaradwyr Cymraeg o blith y boblogaeth gyffredinol hefyd.

Gwelwyd gostyngiad yn y gyfran o siaradwyr Cymraeg o blith y boblogaeth a anwyd yng Nghymru yn yr 17 sir arall, gyda'r gostyngiad mwyaf yn Sir Gaerfyrddin. Yn 2021, o blith y boblogaeth tair oed neu'n hŷn:

  • roedd 50.4% o drigolion arferol Sir Gaerfyrddin oedd wedi'u geni yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (gostyngiad o 3.6 pwynt canran ers 2011)
  • roedd 41.0% o drigolion arferol Conwy oedd wedi'u geni yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (gostyngiad o 3.6 pwynt canran ers 2011)
  • roedd 33.8% o drigolion arferol Sir Ddinbych oedd wedi'u geni yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (gostyngiad o 3.3 pwynt canran ers 2011)

Ffigur 6: Canran y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl gwlad enedigol a grŵp oedran, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar sy'n dangos sut mae'r bwlch rhwng y gyfran o'r boblogaeth a anwyd yng Nghymru a'r boblogaeth a anwyd y tu allan i Gymru sy'n gallu siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl oedran. Mae'r gwahaniaethau lleiaf ymysg plant.

Yn 2021, roedd y bwlch ar ei leiaf (chwe phwynt canran) ymysg plant 3 i 15 oed, ac ar ei fwyaf (19 pwynt canran) ymysg y boblogaeth 16 i 24 oed. Mae llifai myfyrwyr yn debygol o gyfrannu at y gwahaniaeth rhwng y ddwy garfan oedran dilynol yma.

Fel mewn cyfrifiadau blaenorol, cafodd myfyrwyr eu cyfrif yn eu cyfeiriad adeg y tymor yng Nghyfrifiad 2021, oni bai nad oeddent yn bwriadu dychwelyd i'r cyfeiriad hwnnw o gwbl yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21. Oherwydd y pandemig a chyfyngiadau'r cyfnod clo, mae hi'n debygol bod nifer uwch o fyfyrwyr na'r arfer yn astudio o bell ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Rhoddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol gynlluniau ar waith i gynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r canllawiau ar sut i gwblhau'r cyfrifiad.

Y Gymraeg yn ôl hunaniaeth genedlaethol

Yn 2011, cafodd cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol ei gynnwys yn y cyfrifiad am y tro cyntaf. Cafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys unwaith eto yng Nghyfrifiad 2021. Gallai unigolion ddewis un neu sawl hunaniaeth o'r rhestr neu gallent nodi hunaniaeth arall. Mae'n bosibl fod unigolion wedi ateb yn wahanol yn y ddau gyfrifiad.

Ffigur 7: Canran y boblogaeth tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl hunaniaeth genedlaethol, 2011 a 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar sy'n dangos sut oedd y ganran o'r boblogaeth sy'n siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl hunaniaeth genedlaethol yn 2011 a 2021. Yn 2021, roedd canran y siaradwyr Cymraeg ar ei huchaf ymysg y bobl nododd hunaniaeth Gymreig yn unig (24.8%) ac ar ei hisaf ymysg y bobl wnaeth nodi hunaniaeth Seisnig yn unig (4.2%) a Seisnig a Phrydeinig (4.2%).

Yn 2021, o blith yr holl siaradwyr Cymraeg tair oed neu hŷn:

  • roedd 411,190 (76.4%) wedi nodi hunaniaeth Gymreig yn unig
  • roedd 47,710 (8.9%) wedi nodi hunaniaeth Brydeinig yn unig
  • roedd 42,960 (8.0%) wedi nodi hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig

Rhwng 2011 a 2021, bu gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ym mhob grŵp hunaniaeth genedlaethol heblaw am y boblogaeth sydd ag "O leiaf un hunaniaeth o'r DU ac un hunaniaeth heb fod o'r DU", a "Hunaniaeth heb fod o'r DU yn unig".

Yn 2011, y boblogaeth oedd â "Hunaniaeth heb fod o'r DU yn unig" oedd lleiaf tebygol o allu siarad Cymraeg (3.5%). Erbyn 2021, roedd y ganran o siaradwyr Cymraeg ymysg y grŵp hwn wedi cynyddu i 4.4%. Roedd canran y siaradwyr Cymraeg ar ei hisaf ymysg y boblogaeth wnaeth nodi hunaniaeth "Seisnig yn unig" a "Seisnig a Phrydeinig" (4.2% ill dau).

Y Gymraeg a'r farchnad lafur

Yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd i bawb 16 oed neu'n hŷn i ateb cwestiynau am eu statws gweithgarwch economaidd. Roedd y cwestiynau'n gofyn a oedd rhywun yn gweithio neu'n chwilio am waith yn yr wythnos cyn diwrnod y Cyfrifiad.

Ceir tri phrif fath o weithgarwch economaidd:

  1. Yr economaidd weithgar (mewn gwaith): pobl mewn gwaith (cyflogedig neu hunangyflogedig)
  2. Yr economaidd weithgar (di-waith): pobl ddi-waith (sy'n chwilio am waith ac a allai ddechrau mewn pythefnos, neu sy'n aros i ddechrau swydd wedi'i chynnig a'i derbyn)
  3. Yr economaidd anweithgar (y rheini nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi bod yn chwilio am waith yn ystod y mis cyn Diwrnod y Cyfrifiad neu na fyddent wedi gallu dechrau gweithio mewn dwy wythnos)

Gallai bodolaeth ffyrlo yn ystod pandemig COVID-19 fod wedi gwneud i bobl gategoreiddio'u statws gweithgarwch economaidd yn wahanol. Ceir rhagor o wybodaeth am ansawdd y data yn ein bwletin ystadegol ar y Farchnad lafur a theithio i'r gwaith yng Nghymru.

Statws gweithgarwch economaidd

Bu cynnydd yn nifer a chanran y boblogaeth 16 oed neu'n hŷn mewn gwaith sy'n gallu siarad Cymraeg o 227,760 (16.6%) yng Nghyfrifiad 2011 i 231,400 (16.9%) yng Nghyfrifiad 2021.

O'r rheini oedd yn 16 oed neu hŷn adeg Cyfrifiad 2021:

  • roedd 231,400 (16.9%) o'r boblogaeth economaidd weithgar mewn gwaith yn gallu siarad Cymraeg
  • roedd 11,170 (14.2%) o'r boblogaeth economaidd weithgar di-waith yn gallu siarad Cymraeg
  • roedd 149,110 (13.4%) o'r boblogaeth economaidd anweithgar yn gallu siarad Cymraeg

Caiff myfyrwyr llawn amser eu cynnwys yn unrhyw un o'r tri chategori uchod yn dibynnu ar p'un ai bod ganddynt swydd, eu bod yn edrych am swydd, neu na bod ganddynt swydd. O blith yr holl fyfyrwyr llawn amser 16 oed neu'n hŷn a oedd yn breswylwyr arferol yng Nghymru adeg Cyfrifiad 2021, adroddodd 45,200 (22.5%) eu bod yn gallu siarad Cymraeg (i lawr o 22.9% yn 2011).

Diwydiant a galwedigaeth

Cafodd diwygiadau bach eu gwneud i'r Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol a ddefnyddir i gysylltu swyddi â galwedigaethau a diwydiannau rhwng 2011 a 2021. Gellir dod o hyd i'r manylion am y diwygiadau hyn ar wefan yr SYG.

Ffigur 8: Canran y boblogaeth mewn gwaith (16 oed neu'n hŷn) sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl galwedigaeth, 2011 a 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart bar sy'n dangos sut oedd canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl galwedigaeth. Yn 2021, roedd canran y siaradwyr Cymraeg o blith y boblogaeth 16 oed neu'n hŷn mewn gwaith ar ei huchaf yn y Galwedigaethau Proffesiynol (21.0%) ac ar ei hisaf ymysg Gweithredwyr Prosesau, Peirianwaith a Pheiriannau (11.8%).

O edrych ar ddiwydiannau penodol, mae'r ganran sy'n gallu siarad Cymraeg ar ei huchaf yn y diwydiant Amaethyddiaeth, Ynni a Dŵr (30.0%), ac ar ei hisaf yn y diwydiant Gweithgynhyrchu (10.4%).

Bu'r cynnydd mwyaf yn y ganran sy'n gallu siarad Cymraeg yn y diwydiant Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac Amddiffyn (o 18.4% yn 2011 i 20.3% yn 2021). Gwelwyd twf o 15.5% ym maint y gweithlu cyffredinol yn y diwydiant hwn ers 2011. Ar y llaw arall, bu'r gostyngiad mwyaf yn y ganran o'r gweithlu mewn gwaith sy'n siarad yn y diwydiant Cludiant a Storio (o 13.3% yn 2011 i 11.9% yn 2021).

Ffigur 9: Nifer y siaradwyr Cymraeg (16 oed neu'n hŷn) mewn gwaith yn ôl diwydiant, 2011 a 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart bar sy'n dangos niferoedd y siaradwyr Cymraeg oedd yn gweithio ym mhob diwydiant yn 2011 a 2021. Addysg oedd y diwydiant â'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn 2011, ond roedd mwy yn gweithio yn y diwydiant Gweithgareddau Iechyd Pobl a Gwaith Cymdeithasol erbyn 2021. 

Roedd 6,110 yn fwy o siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y diwydiant Gweithgareddau Iechyd Pobl a Gwaith Cymdeithasol yn 2021 o'i gymharu â 2011. Fodd bynnag, dylid ystyried hyn yng nghyd-destun y twf o 17.4% ym maint y gweithlu iechyd dros yr un cyfnod, yn rhannol i ddiwallu'r galw am weithwyr iechyd ychwanegol yn ystod y pandemig.

Roedd dros hanner y boblogaeth mewn gwaith sy'n gallu siarad Cymraeg yn gweithio mewn un o bedwar diwydiant:

  • roedd 38,080 (16.5%) yn gweithio yn y diwydiant Gweithgareddau Iechyd Pobl a Gwaith Cymdeithasol
  • roedd 35,780 (15.5%) yn gweithio ym maes Addysg
  • roedd 26,740 (11.6%) yn gweithio yn y diwydiant Masnach Cyfanwerthu, Manwerthu a Moduron
  • roedd 25,430 (11.0%) yn gweithio yn y diwydiant Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac Amddiffyn

Lefel y cymhwyster uchaf

Gofynnwyd i unigolion 16 oed neu'n hŷn i ateb cwestiwn am eu cymwysterau. Ceir rhagor o fanylion am sut caiff cymwysterau eu dosbarthu yn ein bwletin ystadegol ar Addysg yng Nghymru.

Er bod modd cymharu lefel y cymhwyster uchaf yn fras rhwng 2011 a 2021, ceir cafeatau. Mae'r categorïau wedi aros yr un fath ag yr oeddent yn 2011 ac wedi'u pennu yn yr un modd. Fodd bynnag, mae'r ffordd y strwythurwyd y cwestiynau wedi newid yn sylweddol ers 2011. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr wybodaeth a gyhoeddwyd gan yr SYG ar ddatblygu'r cwestiwn am gymwysterau ar gyfer Cyfrifiad 2021. Dylid dehongli newidiadau i faint y grwpiau gyda gofal. Mae data 2011 wedi'i gynnwys yn Ffigur 10 er mwyn dangos cyfran pob grŵp cymhwyster sy'n gallu siarad Cymraeg ac i'r perwyl hwn yn unig.

Ffigur 10: Canran y boblogaeth (16 oed neu'n hŷn) sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl lefel y cymhwyster uchaf, 2011 a 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart bar sy'n dangos canran y boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2011 a 2021 yn ôl lefel eu cymhwyster uchaf. Mae'r ganran ar ei huchaf ar gyfer cymwysterau lefel 4 neu'n uwch.

Ni fu newid yng nghanran y boblogaeth â chymwysterau lefel 4 oedd yn gallu siarad Cymraeg (19.3% yn 2011 a 2021). Fodd bynnag, roedd nifer y siaradwyr Cymraeg oedd yn perthyn i'r grŵp hwn yn 2021 yn 37,110 yn uwch nag yn 2011. Mae hyn yn adlewyrchu'r twf ym maint y grŵp hwn ymysg y boblogaeth gyffredinol – ac o bosib yn adlewyrchu newidiadau methodolegol.

Bu gostyngiad yn y ganran o siaradwyr Cymraeg ym mhob categori arall. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ymysg y grwpiau o'r boblogaeth gyda lefelau cymhwyster is, ble roedd y ganran sy'n siarad Cymraeg eisoes yn is na'r boblogaeth gyffredinol. Yn 2021, roedd 9.8% o'r boblogaeth heb unrhyw gymhwyster yn gallu siarad Cymraeg, i lawr o 12.2% yn 2011.

Y Gymraeg yn ôl iechyd, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl

Sylwer nad yw'r canrannau a adroddir yn yr adran hon wedi'u safoni yn ôl oedran. Fel y nodwyd eisoes, mae proffil oedran siaradwyr Cymraeg yn iau na'r boblogaeth gyffredinol. O ystyried y gydberthynas rhwng oedran a iechyd, anabledd a chyfrifoldebau gofal, dylid dehongli'r ystadegau yn yr adran hon gyda gofal.

Er enghraifft, mae cyfran y siaradwyr Cymraeg sy'n adrodd bod eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn yn is na'r gyfran a'r gyfer boblogaeth gyffredinol. Mae'n debygol bod gwahaniaethau ym mhroffil oedran, dosbarthiad daearyddol a nodweddion eraill y ddau grŵp yn cyfrannu at y gwahaniaeth hwn. Ni ddylid dod i'r casgliad bod perthynas uniongyrchol yn bodoli rhwng y gallu i siarad Cymraeg a iechyd da.

Iechyd cyffredinol

Gofynnwyd i unigolion ateb cwestiwn am eu hiechyd cyffredinol fel rhan o Gyfrifiad 2021. Gellid ymateb drwy ddewis un o bum opsiwn: da iawn, da, gweddol, gwael neu wael iawn. Dylid nodi mai hunanasesiad oedd hwn ac felly mae'n bosibl bod unigolion wedi dehongli'r cwestiwn a'r atebion posibl yn wahanol i'w gilydd.

Yn 2021, o blith y boblogaeth tair oed neu'n hŷn oedd yn gallu siarad Cymraeg:

  • nododd 462,760 (86.0%) bod eu hiechyd yn dda iawn neu'n dda – cynnydd o 1.6 pwynt canran ers 2011
  • nododd 55,660 (10.3%) bod eu hiechyd yn weddol – gostyngiad o 0.8 pwynt canran ers 2011
  • nododd 19,880 (3.7%) bod eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn – gostyngiad o 0.8 pwynt canran ers 2011

Mae'r gwelliant yn statws iechyd y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg ers 2011 yn adlewyrchu'r patrwm ar gyfer y boblogaeth gyffredinol.

Anabledd

Bu newid i eiriad y cwestiwn am anabledd rhwng Cyfrifiad 2011 a 2021 er mwyn dod yn agosach at y diffiniad o anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Mae'r ddeddf hon yn diffinio person anabl fel rhywun sydd â chyflwr corfforol neu feddyliol hir-dymor neu salwch sy'n cyfyngu ar eu gallu i wneud gweithgareddau pob dydd. Roedd y cwestiwn yn 2021 hefyd yn cyfeirio at gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol ac fe wnaeth ddileu ysgogiad gweledol i gynnwys problemau cysylltiedig â henaint.

Yn 2021, roedd 86,750 (13.0%) o bobl anabl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Bu gostyngiad o 1 pwynt canran yn y ganran o bobl anabl sy'n gallu siarad Cymraeg ers 2011.

Gofal di-dâl

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 i bobl pump oed neu'n hŷn a oeddent yn gofalu am unrhyw un, neu'n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr iechyd neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy'n gysylltiedig â henaint. I'r rhai a atebodd "ydw", gofynnwyd iddynt ddynodi nifer yr oriau o ofal di-dâl yr wythnos yr oeddent yn ei ddarparu. Unwaith eto, roedd geiriad y cwestiwn yn wahanol i'r hyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Ceir rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn yn y bwletin ystadegol ar Iechyd, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl yng Nghymru a geiriadur Cyfrifiad 2021 (SYG).

Roedd 46,500 o siaradwyr Cymraeg pump oed neu'n hŷn yn darparu rhywfaint o ofal di-dâl yn ôl Cyfrifiad 2021. O blith y siaradwyr Cymraeg hyn:

  • roedd 11,780 yn darparu llai na 9 awr yr wythnos o ofal di-dâl
  • roedd 7,050 yn darparu rhwng 10 ac 19 awr yr wythnos o ofal di-dâl
  • roedd 4,370 yn darparu rhwng 20 ac 34 awr yr wythnos o ofal di-dâl
  • roedd 4,250 yn darparu rhwng 35 ac 49 awr yr wythnos o ofal di-dâl
  • roedd 13,050 yn darparu rhwng 50 neu fwy o oriau yr wythnos o ofal di-dâl

Ffigur 11: Canran y boblogaeth pump oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl eu darpariaeth o ofal di-dâl, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart bar sy'n dangos canran y boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2021 yn ôl eu darpariaeth o ofal di-dâl. Roedd y ganran yn is ar gyfer y grwpiau oedd yn darparu mwy o ofal di-dâl.

Roedd 15.0% o'r boblogaeth 5 oed neu'n hŷn sy'n darparu rhywfaint o ofal di-dâl yn gallu siarad Cymraeg. Mae'r ganran hon yn syrthio i 12.2% ymysg y boblogaeth sy'n darparu gofal am 50 neu fwy o oriau'r wythnos.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Am wybodaeth gyflawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa dermau, ewch i adroddiad gwybodaeth y SYG am ansawdd a methodoleg. Mae gwybodaeth ansawdd sy'n benodol i ddata'r cyfrifiad ar gyfer y pwnc hwn ar gael ar dudalen Gwybodaeth am ansawdd data am y Gymraeg (SYG) ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Rheoli datgelu ystadegol

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaeth SYG newidiadau i rai tablau data (a elwir yn rheoli datgelu ystadegol) fel nad yw'n bosibl adnabod unigolion. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Cyfnewid cofnodion (wedi'i dargedu), er enghraifft, os yw aelwyd yn debygol o gael ei hadnabod mewn setiau data oherwydd ei nodweddion anarferol, gwnaethom gyfnewid y cofnod gydag un debyg o ardal fach gyfagos. Gellid cyfnewid aelwydydd anarferol iawn gydag un mewn awdurdod lleol cyfagos.
  • Ychwanegu newidiadau bach at rai cyfrifiadau (aflonyddu ar lefel cell ddata), er enghraifft, newid cyfrif o bedwar i dri neu bump. Gallai hyn achosi mân wahaniaethau rhwng tablau gan ddibynnu ar sut mae'r data yn cael eu dadansoddi yn sgil defnyddio'r dull hwn.

Mae hyn yn achosi newidiadau bach i gelloedd ond nid yw'n effeithio'n sylfaenol ar ystyr y data. Lle gwneir tablau gan ddefnyddio'r adnodd creu tablau data (SYG), bydd y newidiadau a gymhwysir yn wahanol, gan arwain at wahaniaethau rhwng cyfansymiau a thablau nad ydynt yn 'ffurfio' eu cyfansymiau. I leihau effaith y dull aflonyddu, defnyddiwyd tablau gyda chyn lleied o fanylder ag oedd ei angen er mwyn cwblhau'r bwletin ystadegol hwn.

Mesur y data

Y Gymraeg

Roedd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru yn cynnwys cwestiwn ynglŷn â gallu pobl i ddeall Cymraeg llafar, siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ac ysgrifennu yn Gymraeg. I bobl Cymru yn unig y gofynnwyd y cwestiwn hwn. Nid yw'r cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am ba mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg, nac am ba mor dda y maent yn siarad yr iaith.

Mae cwestiynau'r cyfrifiad am sgiliau Cymraeg wedi'u seilio ar hunanasesiad unigolyn o'i allu. Roedd y canllawiau ar gyfer cwblhau'r cyfrifiad yn nodi, os ydych yn byw yng Nghymru, mai chi sydd i benderfynu p'un a ydych yn gallu siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ysgrifennu yn Gymraeg a/neu ddeall Cymraeg llafar. Gofynnwyd i bobl ddewis yr holl opsiynau a oedd yn wir amdanyn nhw. Fodd bynnag, ni fydd pawb wedi darllen y cyfarwyddyd hwn ac efallai eu bod wedi dewis un opsiwn yn unig.

Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn asesu a chofnodi eu sgiliau, a gall amrywio o berson i berson. Mewn rhai achosion, yn enwedig mewn perthynas â phlant, unigolyn arall oedd yn cofnodi eu sgiliau Cymraeg, er enghraifft, rhiant neu warchodwr. Efallai nad yw eu hasesiad nhw o sgiliau Cymraeg yr unigolyn yr un fath ag asesiad yr unigolyn ei hun.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ar 21 Mawrth 2021. Roedd yn dilyn cyfnodau clo a chyfnodau dysgu o bell i blant, ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill).

Ffynonellau data

Ystyrir y cyfrifiad yn ffynhonnell wybodaeth awdurdodol am nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Dyma sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur y cynnydd tuag at ei huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnwys cwestiynau am sgiliau Cymraeg, pa mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg, a'u rhuglder. Gofynnir y cwestiynau bob blwyddyn i bobl 16 oed neu'n hŷn. Mae'r canlyniadau i'w gweld drwy ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol.

Cynhelir Arolwg Defnydd Iaith Cymru fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Er mai pwrpas yr Arolwg Defnydd Iaith yw deall mwy am sut mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r iaith, mae hefyd yn cynnig amcangyfrif arall o ganran y siaradwyr Cymraeg. Mae canlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 a'r bwletinau dilynol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth hefyd yn casglu gwybodaeth am sgiliau Cymraeg. Yn hanesyddol, mae amcangyfrifon yr Arolwg hwn (a gyhoeddir ar StatsCymru) o sgiliau Cymraeg yn sylweddol uwch nag amcangyfrifon y cyfrifiad. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019, trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth am y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng yr Arolwg hwn a'r cyfrifiad i'w gweld mewn bwletin sy'n darparu canlyniadau manylach yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar y Gymraeg o 2001 i 2018 ac mewn papur ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion yn gasgliad electronig o ddata am ddisgyblion ac ysgolion a ddarperir gan bob ysgol a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae nifer o ddangosyddion ar gael sy'n ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â iaith darpariaeth addysg yr ysgol, sgiliau Cymraeg disgyblion ac athrawon, a ph'un a yw disgyblion yn cael eu haddysgu drwy'r Gymraeg. Mae'r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar Chwefror 2022, a gyhoeddwyd ar 31 Awst ac sydd ar gael ar StatsCymru.

Yn dilyn cyhoeddi Cyfrifiad 2021, rydym yn blaenoriaethu gwaith i archwilio'r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn yn fanylach, gan gynnwys archwilio dulliau arloesol megis cysylltu data, er mwyn sicrhau bod gennym sylfaen dystiolaeth gydlynol y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau.

Rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith sy'n amlinellu'r gwaith y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o'r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn cyhoeddwyd blog gan y Prif Ystadegydd.

Myfyrwyr

Fel mewn cyfrifiadau blaenorol, cyfrwyd y myfyrwyr yn eu cyfeiriad tymor arferol a'u cyfeiriad arferol y tu allan i'r tymor os oedd y rhain yn wahanol.

Yng ngoleuni'r pandemig, cyfyngiadau'r cyfnod clo, a'r ffaith nad oedd llawer o fyfyrwyr yn eu cyfeiriad tymor efallai, aeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ati i adolygu a gwella'r canllawiau i fyfyrwyr ar sut y dylent gwblhau'r cyfrifiad. Sefydlodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd ddulliau o amcangyfrif ac addasu ar gyfer diffyg ymateb myfyrwyr neu eu gorgyfrif. Yn ogystal, dyluniwyd proses sicrhau ansawdd eang a hyblyg.

Darllenwch fwy am sut y sicrhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrif cywir o fyfyrwyr yng Nghyfrifiad 2021.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru oedd 96.4% o'r boblogaeth breswyl arferol, a dros 94% ym mhob awdurdod lleol.

Roedd cyfran y ffurflenni a ddychwelwyd ar-lein yn is yng Nghymru (68%) nag yn Lloegr (90%). Mae'n debyg bod hyn oherwydd bod canran uwch o gartrefi yng Nghymru nag yn Lloegr lle cafodd holiadur papur ei ddefnyddio fel cyswllt cychwynnol yn hytrach na chod mynediad ar-lein (50% yng Nghymru o gymharu â 9% yn Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol)), gan eu bod mewn ardaloedd lle disgwylid mai nifer bach o bobl fyddai'n dewis defnyddio'r opsiwn ar-lein.

Statws Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2021

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy'n golygu eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â'r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae'r Awdurdod yn ystyried os ydy'r ystadegau yn cwrdd â'r safonau uchaf o gydymffurfiad â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â'r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw'r ystadegau yma yn dal i gwrdd â'r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda'r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae'r safonau uchaf heb eu cynnal, a'i ddyfarnu unwaith eto pan mae'r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol" sy'n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae'r datganiad hwn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol sef:

  • (37) Nifer y bobl a all siarad Cymraeg

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae'r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai "...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni'r nodau llesiant." Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Yn y datganiad hwn mae dangosydd 37 yn cyfateb i gerrig filltir:

  • miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Cian Siôn
E-bost: DataIaithGymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 21/2023

Image
Ystadegau Gwladol