Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Rwyf heddiw wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg. Mae’r ymateb yn nodi sut y byddwn yn gweithredu ar yr argymhellion ac yn eu defnyddio i lywio ein huchelgais ar gyfer y Gymraeg.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar gryfhau’r Gymraeg mewn cymunedau lle mae dwysedd y siaradwyr Cymraeg yn ganolig neu’n is. Ei neges ganolog yw bod angen mwy na siaradwyr ar iaith fyw. Mae angen cyfleoedd, gofodau, gweithgareddau a chymunedau lle gall pobl glywed, mwynhau a defnyddio’r iaith fel rhan o fywyd bob dydd.
Mae’n cyflwyno 31 o argymhellion sy’n galw am ddull systematig o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae’r argymhellion yn cwmpasu addysg, y blynyddoedd cynnar, technoleg, gweithleoedd, chwaraeon, diwylliant, cynllunio, ymchwil, data ac arweinyddiaeth.
Rwy’n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un o’r argymhellion, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor. Byddwn yn awr yn eu troi’n gamau ymarferol ar draws y Llywodraeth ac ar y cyd â’n partneriaid.
Er bod y sefyllfa ariannol yn heriol, mae ein huchelgais dros y Gymraeg yn parhau’n gadarn. Ni fydd y pwysau presennol yn ein hatal rhag gweithredu. Byddant yn ein hannog i fod yn fwy creadigol, cydlynol a phenderfynol wrth gyflawni. Byddwn yn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael. Byddwn yn rhoi’r Gymraeg wrth wraidd gwaith y Llywodraeth gyfan ac yn gweithio gyda’n partneriaid i greu cyfleoedd newydd i ddefnyddio’r iaith. Nid mater o gyllid yn unig yw hyn; mae’n ymwneud â defnyddio grym, dylanwad ac adnoddau’r Llywodraeth mewn ffordd gydlynol er budd y Gymraeg. Byddwn yn blaenoriaethu’r camau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Bydd yr adroddiad hefyd yn helpu i lunio cyfeiriad, amcanion, polisïau a chamau gweithredu ein strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf.
Mae’r Gymraeg yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i ni i gyd, waeth pwy ydym ni, ble rydym yn byw neu faint o’r iaith y gallwn ei siarad. Dyna pam rydym am fynd â’r Gymraeg at bobl lle maen nhw eisoes. Rydym am iddi fod yn rhan o’r pethau maen nhw eisoes yn eu gwneud: mewn addysg, yn y gwaith, mewn clybiau a gweithgareddau lleol, ar y cae chwarae, mewn diwylliant ac ar-lein.
Byddwn yn canolbwyntio ar brofiadau cadarnhaol, ar greu cyfleoedd lleol a pherthnasol ac ar ddefnyddio ymchwil a gwyddor ymddygiadol i nodi’r hyn sy’n gweithio orau. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn fwy deniadol defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd go iawn.
Byddwn yn cynnal Arolwg Cenedlaethol o Ddefnydd y Gymraeg dros y ddwy flynedd ariannol nesaf. Bydd yr arolwg yn cryfhau ein tystiolaeth am sut mae pobl yn defnyddio’r Gymraeg ac yn ein helpu i ganolbwyntio ein gwaith ar yr hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Yn amodol ar benderfyniadau cyllido yn y dyfodol, ein bwriad yw cynnal yr arolwg bob pum mlynedd wedi hynny.
Mae’r ymateb i adroddiad ail gam y Comisiwn yn adlewyrchu bod polisi’r Gymraeg yn gyfrifoldeb i’r Llywodraeth gyfan. Byddwn yn sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu datblygu a’u cyflawni ar draws y Llywodraeth, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cymunedau, pobl ifanc ac eraill.
Yn nes ymlaen eleni, byddwn yn ymgynghori ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg. Byddwn hefyd yn ymgynghori ar fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg, ac ar god i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg. Bydd gwaith ac argymhellion y Comisiwn yn rhan bwysig o’r gwaith hwn. Ar ôl cyhoeddi’r strategaeth newydd, bydd ei chynlluniau gweithredu yn nodi’r camau sy’n deillio o argymhellion y Comisiwn. Bydd yr adroddiadau blynyddol yn monitro’r cynnydd.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i gadeiryddion ac aelodau’r Comisiwn am eu harbenigedd a’u hymroddiad. Maent wedi paratoi adroddiad gwerthfawr a chynhwysfawr. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl unigolion, grwpiau a sefydliadau a rannodd dystiolaeth, profiadau a safbwyntiau â’r Comisiwn.
Byddwn yn parhau i gydweithio i droi’r gefnogaeth eang i’r Gymraeg yn fwy o ddefnydd o’r iaith o ddydd i ddydd. Byddwn hefyd yn gweithio i greu dyfodol lle mae’r Gymraeg yn cyrraedd pob cymuned.
