Neidio i'r prif gynnwys

Trwydded

Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol a'r amodau a nodir yn y drwydded hon, yn caniatáu: 

  • symud wyau bwrdd o safle sydd wedi'i leoli o fewn Parth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban i safle prosesu wyau 
  • symud wyau bwrdd o safle sydd wedi'i leoli mewn ardal rydd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban i safle prosesu wyau sydd wedi'i leoli o fewn Parth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban.

Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 16:15 ar 15/10/2026 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig.

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth yr Alban ac mae’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban.

 

Llofnodwyd: Alba Barrecheguren, Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad: 15/10/2026                                                                       Amser: 16:15

Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban.

Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk).

Deddfwriaeth

Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'i diwygiwyd) a'r “Gorchymyn” sy'n golygu:

  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd)

Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:

  • paragraff 14 o Atodlen 4 a pharagraffau 11 a 15 o Atodlen 5 i’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr 
  • paragraff 15 o Atodlen 4 a pharagraffau 12 ac 16 o Atodlen 5 i’r Gorchymyn yn yr Alban

Amodau’r drwydded

  1. Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i symudiadau i unrhyw safle y cyflwynwyd hysbysiad gwahardd iddo gan arolygydd milfeddygol neu oddi yno. 
  2. Rhaid symud wyau bwrdd yn uniongyrchol i’r safle prosesu wyau i’w prosesu. 
  3. Rhaid i safle’r cyrchfan fod yn lleoliad a gymeradwywyd ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion wyau fel y nodir ym Mhennod II o Adran X i Atodiad III o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 a gymathwyd. 
  4. Yn union cyn symud wyau, rhaid i’r trwyddedai archwilio’r dofednod ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar (ar gov.uk). 
  5. Rhaid trin a thrafod yr wyau yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004 a gymathwyd i sicrhau bod proses trin gwres yn cael ei defnyddio i ddinistrio unrhyw feirws Ffliw Adar a allai fod yn bresennol. 
  6.  Rhaid i blisgyn wyau a rhannau eraill o wyau sy’n deillio o ffermydd sydd wedi’u lleoli yn y Parth Gwyliadwriaeth neu Warchod presennol gael eu gwaredu mewn ffatri gymeradwy sy’n rendro sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 1 neu Gategori 2 fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid perthnasol. Rhaid trin deunydd o’r fath â gwres i ddinistrio unrhyw feirws ffliw adar a allai fod yn bresennol. Ni chaniateir i blisgyn wyau nad ydynt wedi’u trin â gwres:
    • gael eu rhoi’n uniongyrchol ar dir a ddefnyddir i fwydo anifeiliaid
    • gael eu defnyddio mewn unrhyw gynhyrchion a roddir i anifeiliaid eu bwyta
  7. Rhaid i’r cerbyd a ddefnyddir allu dal dŵr, fod wedi’i orchuddio a dylai gario pecyn gorlif rhag ofn y bydd gorlifiad yn digwydd ar y ffordd. 
  8. Cyn mynd i mewn i’r safle lle y mae’r wyau’n cael eu llwytho neu fynd allan ohono:  
    1. rhaid i du allan y cerbyd fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
    2. rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl llwytho a chyn gadael y safle. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gael ei wneud mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi gan blu, carthion, sarn, neu blisgyn wyau dofednod, neu unrhyw ddeunydd tebyg
    3. rhaid i’r wyau, y pecynnau, y paledi, y cynhwyswyr a’r trolïau fod yn rhydd o halogiad gweledol gan blu, tail neu sarn dofednod, plisgyn wyau sy’n deillio o wyau eraill neu unrhyw ddeunydd arall tebyg cyn eu hanfon 
    4. rhaid i'r wyau fod:
      • wedi eu pacio naill ai mewn cynhwyswyr pacio tafladwy newydd neu mewn cynhwyswyr pacio sydd wedi’u glanhau a’u diheintio’n effeithiol a’u marcio felly gan y sawl a wnaeth y gwaith glanhau a diheintio. Rhaid glanhau a diheintio trolïau ac unrhyw gyfarpar arall yn effeithiol hefyd
      • mewn pecynnau ar baledi glân  
      • cael eu llwytho ar gerbyd o ardal sy’n rhydd o halogiad gweledol gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
  9. Ar ôl dadlwytho’r wyau yn safle’r cyrchfan:  
    • rhaid i du allan y cerbyd fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
    • rhaid i’r rhannau o’r cerbyd a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth y gellid bod wedi’i heintio gan laid, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion, plu, plisgyn wyau, wyau wedi torri neu unrhyw ddeunydd tebyg arall gael eu glanhau a’u diheintio ar y safle cyn gynted â'i bod yn rhesymol ymarferol (cyn ei ddefnyddio eto)
    • rhaid i’r pecynnau (cynhwyswyr, trolïau ac unrhyw gyfarpar arall) gael eu glanhau a’u diheintio’n effeithiol cyn eu hailddefnyddio neu mae'n rhaid eu dinistrio 
  10. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod yr unigolion sy’n dibynnu ar y drwydded hon: 
    1. cyn mynd i mewn i'r daliad rhaid naill ai wisgo dillad diogelwch tafladwy neu oferôls nad ydynt yn dafladwy a all amddiffyn dillad rhag halogiad ac y gellir eu glanhau a'u diheintio'n llawn  
    2. nad ydynt yn mynd i mewn i’r safle neu’n ei adael yn gwisgo dillad neu esgidiau sydd wedi’u maeddu’n amlwg gan laid, ysgarthion anifeiliaid neu adar neu unrhyw ddeunydd tebyg 
    3. yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle mae dofednod neu adar caeth yn cael eu cadw
    4. yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall 
    5. sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth. Rhaid i oferôls y gellir eu hailddefnyddio nad ydynt yn dafladwy neu haenau allanol eraill o ddillad:
      • gael eu rhoi mewn bag gwrth-ddŵr a'r bag wedi'i glymu yn ddiogel
      • fod tu allan i'r bag wedi'i ddiheintio cyn ei symud o'r safle
      • peidio eu cymryd i safle dofednod arall nes eu bod wedi'u golchi'n drylwyr
    6. cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd ar gyfer dofednod ac adar caeth
  11. Rhaid i’r gwaith diheintio gydymffurfio â’r erthygl briodol:
    • erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’u diwygiwyd)
    • erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
    • erthygl 65 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  12. Pan fo angen defnyddio diheintydd y tu mewn i gerbyd, cyfrifoldeb y gweithredwr yw sicrhau bod unrhyw ddefnydd o ddiheintydd yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’i fod yn rhoi ystyriaeth lawn i iechyd a diogelwch y gweithredwr a defnyddwyr y cerbyd yn y dyfodol. 
  13. Rhaid i feddiannydd y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl dyddiad cwblhau’r symudiad, yn unol ag Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru, neu Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr neu Erthygl 73 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd) yn yr Alban.
  14. Wrth symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon, rhaid i berson gario nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
    • beth sy'n cael ei symud, gan gynnwys faint sy'n cael ei symud
    • dyddiad y symudiad
    • enw’r traddodwr
    • cyfeiriad y safle lle dechreuodd y symudiad
    • enw’r traddodai
    • cyfeiriad safle'r cyrchfan

Nodiadau esboniadol

  1. Mae’r drwydded hon yn peidio â bod yn ddilys os yw statws y clefyd yn newid (er enghraifft, cyfyngiadau newydd neu ddiwygiedig) naill ai ar y safle y mae’r symudiad yn digwydd ohono neu safle’r cyrchfan.
  2. Dylai archwiliad o’r adar gan y trwyddedai, fel sy’n ofynnol ym mhwynt 4 yr amodau, ystyried unrhyw ostyngiad yn y cymeriant bwyd neu ddŵr ac unrhyw ostyngiad yn nifer yr wyau a gynhyrchir. 
  3. Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio'r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol, a rhaid i'r diheintydd gael ei gymeradwyo o dan y canlynol:
    1. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y'i diwygiwyd) yn Lloegr
    2. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Yr Alban) 2008 (fel y’i diwygiwyd) yn yr Alban
    3. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru 
  4. Rhaid i unrhyw unigolyn y mae unrhyw ofyniad mewn datganiad, trwydded neu hysbysiad o dan y Gorchymyn yn berthnasol iddo: 
    1. cydymffurfio â'r gofyniad (oni bai ei fod wedi'i awdurdodi fel arall gan drwydded ddilys) a 
    2. cydymffurfio ag unrhyw geisiadau rhesymol y gall arolygydd eu gwneud iddynt i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni
  5. Rhaid i unrhyw gostau a ysgwyddir gan unrhyw unigolyn wrth gymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol neu wrth ymatal rhag cymryd camau a waherddir gan y Gorchymyn (neu unrhyw ddatganiad, trwydded neu hysbysiad oddi tano) gael eu talu gan yr unigolyn hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr neu Weinidogion yr Alban yn yr Alban, fel sy’n briodol, yn rhoi cyfarwyddiadau fel arall yn ysgrifenedig. 
  6. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon gadw’r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig. Ar gais arolygydd milfeddygol neu swyddog arall Gweinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr neu Weinidogion yr Alban yn yr Alban, fel sy’n briodol, rhaid i’r unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan y drwydded hon ddangos y drwydded neu gopi ohoni a chaniatáu i gopi neu ran ohoni gael ei chymryd; ac ar gais o’r fath roi ei enw a’i gyfeiriad. 
  7. Rhaid i systemau cadw cofnodion fod ar waith i sicrhau y gellir olrhain pob symudiad o’r safle gwreiddiol i safle’r cyrchfan. 
  8. Os ydych chi’n amau achos o glefyd hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod am hyn ar unwaith:
    1. yn Lloegr: Llinell Gymorth Gwasanaethau Gwledig DEFRA ar 03000 200 301
    2. yr Alban: cysylltwch â'ch Swyddfa Gwasanaethau Maes leol
    3. yng Nghymru: cysylltwch â 0300 303 8268 
  9. Rhaid cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol arall. Yn benodol, rhaid cydymffurfio â holl ofynion y ddeddfwriaeth sgil-gynhyrchion anifeiliaid. 
  10. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau a sicrhau bioddiogelwch da (ar gov.uk) bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
  11. Cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy'r manylion uchod neu'ch Awdurdod Lleol (ALl) i gael rhagor o gyngor am fesurau bioddiogelwch ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall.  
  12. Mae rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu ffliw adar ar gael yn:
    1. Lloegr: gweler canllawiau ffliw adar (ar gov.uk)
    2. Yr Alban: gweler canllawiau ffliw adar (ar gov.scot)
    3. Cymru: gweler canllawiau ffliw adar ar ein gwefan
    4. Gellir dod o hyd i'r holl ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk

Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Y gosb yn dilyn euogfarn am drosedd o dan yr adran hon yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk). 

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr maes cywir.