Clefyd feirysol hynod heintus yw ffliw adar. Mae’n effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau o adar.
Cynnwys
Cyfyngiadau cyfredol
Ffliw adar mewn dofednod ac adar caeth eraill
Mae ffliw adar yn glefyd heintus a achosir gan feirysau ffliw A. Mae'n effeithio ar ddofednod ac adar caeth eraill, er y gall adar dŵr ddangos ychydig arwyddion o glefyd neu ddim arwyddion o glefyd. Mae'r risg o ffliw adar ym Mhrydain Fawr fwyaf yn ystod misoedd y gaeaf, pan all adar gwyllt mudol, yn enwedig hwyaid, gwyddau, elyrch a gwylanod, gyflwyno'r feirws.
Mae feirysau ffliw adar yn cael eu dosbarthu yn ôl eu gallu i achosi clefyd (pathogenedd). Maent naill ai'n bathogenig iawn neu'n bathogenedd isel.
Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI)
Mae HPAI yn lledaenu'n gyflym a gall achosi clefyd difrifol gyda chyfraddau marwolaethau uchel. Gall haint arwain at farwolaeth sydyn a brigiadau eang o achosion.
Ffliw Adar Pathogenedd Isel (LPAI)
Mae LPAI fel arfer yn achosi clefyd ysgafn neu ddim arwyddion clinigol amlwg. Fodd bynnag, gall difrifoldeb y clefyd gynyddu pan fydd straen neu heintiau cydamserol yn effeithio ar adar. Gall rhai feirysau LPAI esblygu i fod yn straen pathogenig iawn.
Rhowch wybod am amheuaeth
Cysylltwch â swyddfa leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268 os ydych yn amau bod achos o Ffliw adar.
Bydd milfeddygon APHA yn ymchwilio i unrhyw achosion a amheuir.
Os cadarnheir y clefyd bydd yr achos yn cael ei reoli yn unol â'r cynllun wrth gefn ar gyfer clefydau hysbysadwy egsotig. Bydd y strategaeth reoli ar gyfer clefydau adar hysbysadwy (ar gov.uk) yn cael ei rhoi ar waith.
Arwyddion clinigol
Dyma rai o’r arwyddion clinigol:
- pen chwyddedig
- y gwddf yn troi’n las
- diffyg archwaeth
- anhawster i anadlu, er enghraifft: y pig led ar agor, peswch/tisian
- dolur rhydd
- dodwy llai o wyau
- cyfraddau marwolaethau yn cynyddu
Trosglwyddo ac atal
Er mai clefyd adar yw ffliw adar, mewn achosion prin gall heintio pobl. Mae rhai mathau o ffliw adar yn lledaenu’n rhwydd a chyflym rhwng adar ac yn achosi cyfraddau marwolaethau uchel.
Mae’n rhaid i bawb sy’n cadw adar:
- barhau i gadw at y lefelau uchaf o fioddiogelwch
- bod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o’r clefyd
Cyngor ar Fioddiogelwch
Mesurau bioddiogelwch llym yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal ffliw adar.
Anogir pawb sy’n cadw adar i gynnal lefelau uchel o fioddiogelwch; boed mewn perthynas ag ychydig o adar anwes, neu haid fasnachol fawr.
I sicrhau lefelau uchel o fioddiogelwch, dylai pawb sy’n cadw dofednod:
- sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosibl yn mynd a dod o’r mannau caeedig lle y cedwir adar
- glanhau a diheintio esgidiau gan ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir gan y llywodraeth, a chadw’r mannau lle mae’r adar yn byw yn lân a thaclus
- sicrhau nad yw’r ardaloedd lle y cedwir yr adar yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod rhwydi dros byllau dŵr a rhwystro’r adar hynny rhag cyrraedd y ffynonellau bwyd
- cadw eich adar ar wahân a sicrhau nad oes ganddynt fynediad at ardaloedd lle mae adar eraill, yn arbennig gwyddau, hwyaid a gwylanod, yn bresennol
- rhoi bwyd a dŵr i’r adar mewn ardal gaeedig i osgoi denu adar gwyllt
- glanhau a diheintio cerbydau ac offer sy’n dod i gysylltiad â dofednod, a lleihau unrhyw halogiad sy’n bresennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrît
- cadw golwg fanwl ar yr adar am unrhyw arwyddion o glefyd a sôn wrth eich milfeddyg neu APHA am unrhyw adar sy’n sâl neu am farwolaethau anesboniadwy
Deddfwriaeth
Mae’r ddeddfwriaeth ynghylch ffliw adar yng Nghymru ar wefan legislation.gov.uk yn cynnwys:
The Avian Influenza and Influenza of Avian Origin (Wales) (No. 2) Order 2006 (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Ffliw Adar (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022
The Avian Influenza (H5N1 in Wild Birds) (Wales) Order 2006 (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cynru) (Diwygio) 2021
Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006
Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006
Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003
I gael rhagor o fanylion am ddeddfwriaeth ynghylch ffliw adar yn:
- Lloegr - gweler gwefan Llywodraeth y DU
- Yr Alban - gweler gwefan Llywodraeth yr Alban
- Gogledd Iwerddon - gweler gwefan DAERA-NI
