Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

O 30 Medi 2025, daw data am weithlu practisau cyffredinol o’r System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol. Mae’r system hon yn disodli System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru, a fu’n ffynhonnell y data ers 2020.

Gan fod patrymau recriwtio tymhorol, dim ond â’r un dyddiadau cyfeirio mewn blynyddoedd blaenorol y dylid gwneud cymariaethau dros amser. Mae gwaith dilysu helaeth wedi dangos y gellid cymharu data o’r System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol â data System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru.

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n cynnal y System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol.

Prif bwyntiau

Dangosir yr holl ddata am staff ar sail cyfwerth ag amser llawn (CALI).

Ar 30 Mehefin 2026:

  • roedd 1,613 o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn darparu gofal iechyd o 368 o bractisau cyffredinol
  • cynyddodd nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig 41 (2.6%) ers 30 Mehefin 2025
  • gostyngodd nifer y practisau cyffredinol 2 (0.5%) ers 30 Mehefin 2025

O’u dadansoddi yn ôl math penodol o feddyg teulu, roedd:

  • 974 o bartneriaid meddygon teulu, gostyngiad blynyddol o 2.5%
  • 499 o feddygon teulu cyflogedig, cynnydd blynyddol o 6.9%
  • 129 o feddygon teulu locwm a weithiodd yn ystod y chwarter, cynnydd blynyddol o 34.5%
  • 11 o feddygon teulu wrth gefn, yr un nifer ag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol

Roedd hefyd:

  • 404 o gofrestryddion meddygon teulu (meddygon teulu dan hyfforddiant), gostyngiad blynyddol o 3.2%
  • 965 o nyrsys cofrestredig, gostyngiad blynyddol o 2.7%
  • 964 o staff gofal uniongyrchol i gleifion (staff nad ydynt yn feddygon teulu nac yn nyrsys ond sy’n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion, fel cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), cynnydd blynyddol o 3.8%
  • 3,936 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill, cynnydd blynyddol o 0.3%

Practisau a reolir gan fyrddau iechyd

Os nad oes contract ar waith rhwng bwrdd iechyd lleol a phartner, gall y bwrdd iechyd reoli practis cyffredinol yn uniongyrchol. Mae’r bwrdd iechyd yn cyflogi’r staff yn uniongyrchol, ac fel arfer caiff y practisau eu harwain gan feddygon teulu cyflogedig neu feddygon teulu locwm.

Ar 30 Mehefin 2026, roedd:

  • 24 o bractisau a reolir gan fyrddau iechyd lleol, yr un nifer ag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol 

Roedd y practisau hyn yn cyflogi’r staff canlynol:

  • 109 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALI 
  • 407 o staff practis ehangach CALI

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â gweithlu practisau cyffredinol sy’n gweithredu o dan gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o fewn y GIG. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddata o bractisau preifat.

Mae rhagor o wybodaeth am brosesau casglu data ac ansawdd ystadegol ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegau Gweithlu'r GIG a Gofal Sylfaenol
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099