Gweithdrefn ddiogelu Cafcass Cymru
Mae'r weithdrefn hon yn nodi dull gweithredu Cafcass Cymru mewn perthynas â diogelu plant a, lle y bo'n berthnasol, oedolion sy'n wynebu risg mewn achosion cyfiawnder teuluol yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
1. Diben
Mae'r weithdrefn hon yn nodi dull gweithredu Cafcass Cymru mewn perthynas â diogelu plant a, lle y bo'n berthnasol, oedolion sy'n wynebu risg mewn achosion cyfiawnder teuluol yng Nghymru. Mae'n esbonio beth mae'n rhaid i gydweithwyr ei wneud pan nodir pryderon diogelu a sut y dylid rheoli penderfyniadau, atgyfeiriadau, prosesau uwchgyfeirio a phrosesau cofnodi.
Er mai ymwneud â phlant sy'n rhan o achosion cyfiawnder teuluol yn bennaf mae swyddogaethau statudol Cafcass Cymru, gall pryderon diogelu sy'n ymwneud ag oedolion sy'n wynebu risg godi fel rhan o'r gwaith hwnnw. Gall diogelwch a llesiant oedolion gael effaith uniongyrchol ar les a diogelu plant, ac felly rhaid ystyried pryderon sy'n ymwneud ag oedolion sy'n wynebu risg yn unol â'r weithdrefn hon;
- sy'n cyd-fynd Gweithdrefnau Diogelu Cymru a chanllawiau statudol Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl
- sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol Cymru a'r DU
- sy'n berthnasol i bob cydweithiwr yn Cafcass Cymru, ni waeth beth fo'i rôl
- sy'n pennu disgwyliadau sefydliadol ar gyfer gwneud penderfyniadau, atebolrwydd, uwchgyfeirio, cofnodi a llywodraethu ym maes diogelu
Mae diogelu yn rhan greiddiol o waith Cafcass Cymru gyda phlant a theuluoedd. Nid yw'r cyfrifoldeb yn dod i ben pan gaiff pryder ei nodi neu ei atgyfeirio. Rhaid i ymarferwyr, a lle y bo'n briodol, reolwyr, barhau i ystyried risg, diogelwch, camau amddiffynnol, dilyniant, cyfathrebu â'r llys ac a oes angen her broffesiynol neu gamau uwchgyfeirio.
Nid yw Cafcass Cymru yn asiantaeth amddiffyn plant statudol. Mae'n cynnal gwiriadau diogelu, yn asesu pryderon sy'n ymwneud â lles a diogelwch ar ran y llys teulu, yn rhannu gwybodaeth ac yn darparu dadansoddiad proffesiynol. Nid yw'n cynnal ymchwiliadau amddiffyn plant nac ymholiadau adran 47; yr awdurdod lleol perthnasol sy'n gyfrifol am y rhain.
Mae'r weithdrefn hefyd yn esbonio sut mae Cafcass Cymru yn ymateb i bryderon sy'n ymwneud ag ymarferwyr neu bobl mewn swyddi o ymddiriedaeth, gan gynnwys penderfyniadau trothwy, asesiadau risg, cofnodi, atebolrwydd sefydliadol a goruchwylio'r broses ddiogelu.
2. Iaith
Pan fydd cydweithiwr yn Cafcass Cymru yn penderfynu peidio â chymryd y camau gweithredu a fyddai fel arfer i'w disgwyl o dan y weithdrefn hon, rhaid cofnodi'r rhesymeg yn glir ac ar y pryd a, lle y bo'n briodol, ei thrafod â Rheolwr Ymarfer neu Bennaeth Gweithrediadau.
Rhaid
In this procedure, “must” means that the action is required by law, organisational procedure, safeguarding governance, or because it is essential to safe and accountable safeguarding practice. If a required action is not taken, or is delayed, the reason must be clear and recorded.
Dylai
“Should” is used where professional judgement is needed. This includes decisions that depend on the circumstances of the case, the information available, proportionality and the level of risk.
Adroddiad / Atgyfeiriad
At ddibenion y weithdrefn hon, defnyddir “atgyfeiriad diogelu” drwyddi draw, gan fod hyn yn adlewyrchu’r derminoleg a ddefnyddir o fewn systemau ac arferion Cafcass Cymru. Lle bydd canllawiau statudol yn cyfeirio at “adroddiad”, dylid ystyried bod hyn yn cyfateb i atgyfeiriad diogelu.
Oedolyn a phlentyn
Mae'r weithdrefn hon yn berthnasol i bryderon diogelu sy'n ymwneud â phlant ac oedolion sy'n wynebu risg. Lle mae'r weithdrefn yn cyfeirio at "risg", dylid darllen hyn fel pe bai'n berthnasol i blentyn, oedolyn sy'n wynebu risg, neu'r ddau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
3. Cwmpas a pherthnasedd
Mae'r weithdrefn hon yn berthnasol i bob cydweithiwr yn Cafcass Cymru, ni waeth beth fo'i rôl, ei radd neu ei leoliad. At ddibenion y weithdrefn hon, mae “cydweithwyr” yn cynnwys cyflogeion, gweithwyr asiantaeth, secondeion, contractwyr, ymgynghorwyr, ymarferwyr wedi'u comisiynu ac unrhyw berson arall sy'n ymgymryd â gwaith ar ran Cafcass Cymru, lle mae hyn yn gyson â'i rôl a'i drefniadau cytundebol.
Mae’r weithdrefn hon yn berthnasol pan fydd cydweithwyr yn Cafcass Cymru yn gwneud y canlynol:
- nodi, derbyn neu weld gwybodaeth sy'n awgrymu y gallai plentyn fod yn wynebu risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall
- nodi, derbyn neu weld gwybodaeth sy'n awgrymu y gallai oedolyn fod yn wynebu risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall
- dod yn ymwybodol o bryderon diogelu mewn perthynas ag achosion sydd ar agor neu achosion sydd wedi'u cau
- dod yn ymwybodol o bryderon diogelu sy'n ymwneud â phlentyn nad yw'n destun achos cyfredol
- dod yn ymwybodol o bryderon sy'n ymwneud ag ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol, gofalwyr, gwirfoddolwyr neu bobl eraill mewn swyddi o ymddiriedaeth
- dod yn ymwybodol o bryderon mewn perthynas ag ymddygiad cydweithwyr yn Cafcass Cymru
Nid yw'r weithdrefn hon yn disodli cyfrifoldebau diogelu statudol awdurdodau lleol, yr heddlu na phartneriaid diogelu eraill. Rôl Cafcass Cymru yw nodi pryderon diogelu, rhannu gwybodaeth berthnasol, darparu dadansoddiad proffesiynol, helpu'r llys i wneud penderfyniadau diogel a gweithredu'n unol â'i swyddogaethau statudol.
4. Egwyddorion diogelu
Mae ymarfer diogelu Cafcass Cymru yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n ystyriol o drawmanodi achosion yn gynnar a chymryd camau amserol lle bo achos rhesymol dros amau niwedcydnabyddiaeth y gall plant ddioddef niwed uniongyrchol neu anuniongyrchol, gan gynnwys drwy risgiau y mae oedolion yn eu profi
- cydnabyddiaeth o niwed cronnol, cam-drin domestig, rheolaeth drwy orfodaeth ac adfyd
- chwilfrydedd proffesiynol a dadansoddi beirniadol
- cymesuredd a barn broffesiynol
- cydweithio a rhannu gwybodaeth yn gyfreithlon er budd diogelwch
- atebolrwydd proffesiynol a llywodraethu
- gwneud penderfyniadau amddiffynadwy
- ystyried risgiau uniongyrchol, parhaus a throsglwyddadwy.
Gwneud penderfyniadau
- Rhaid i benderfyniadau diogelu fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur a rhaid gallu eu hesbonio'n glir
- Pan fydd barn broffesiynol yn arwain at benderfyniad i beidio â chymryd y camau diogelu a fyddai fel arfer i'w disgwyl, rhaid cofnodi'r rhesymeg yn glir ac ar y pryd a, lle y bo'n briodol, ei thrafod â Rheolwr Ymarfer neu Bennaeth Gweithrediadau
- Dylai penderfyniadau allu gwrthsefyll camau craffu proffesiynol a dangos sut y cafodd ffactorau lles, diogelwch, risg ac amddiffynnol eu hystyried
Asesu risg
- Rhaid i ymarfer diogelu ystyried risgiau uniongyrchol, risgiau parhaus a risgiau sy'n dod i'r amlwg
- Lle bydd pryderon yn ymwneud ag ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol, gofalwyr, gwirfoddolwyr, pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, neu eraill mewn swyddi o ymddiriedaeth, rhaid ystyried a allai'r ymddygiad neu'r amgylchiadau greu risg ehangach neu drosglwyddadwy
- Rhaid cofnodi dadansoddiad o'r risg a rhesymeg broffesiynol yn glir.
5. Fframwaith cyfreithiol a statudol
Mae Cafcass Cymru yn gweithredu o fewn y fframwaith cyfreithiol sy'n berthnasol i'w swyddogaethau cyfiawnder teuluol, gan gynnwys:
- Deddf Plant 2004, adran 35 - dyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a rhoi cyngor i'r llys
- Deddf Plant 1989, adran 16A - dyletswydd i asesu a rhoi gwybod i'r llys lle mae achos dros amau niwed.
Fframwaith Diogelu Cymru
Mae Cafcass Cymru yn gweithredu o fewn y fframwaith diogelu a sefydlwyd gan y canlynol:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- canllawiau statudol Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru
- trefniadau'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol perthnasol.
Mae Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu'r fframwaith diogelu statudol i blant ac oedolion sy'n wynebu risg yng Nghymru. Er nad yw Cafcass Cymru wedi'i restru fel "partner perthnasol" at ddibenion y dyletswyddau statudol i roi gwybod am blant ac oedolion sy'n wynebu risg o dan Ran 7, disgwylir i gydweithwyr ymateb i bryderon diogelu mewn modd sy'n gyson ag ysbryd a bwriad fframwaith diogelu Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwneud atgyfeiriadau diogelu yn unol â'r weithdrefn hon, cyfrifoldebau diogelu proffesiynol, swyddogaethau lles plant Cafcass Cymru, a'r disgwyliadau a nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
Amddiffyn rhag cosb gorfforol
Rhaid i gydweithwyr yn Cafcass Cymru fod yn effro i oblygiadau diogelu Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, a gafodd wared ar yr amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru.
Rhannu gwybodaeth
Rhaid ystyried y broses o rannu gwybodaeth sy'n ymwneud â materion diogelu yn unol â'r canlynol:
- Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
- Deddf Diogelu Data 2018
- darpariaethau ar gyfer rhannu gwybodaeth yn gyfreithlon mewn perthynas â diogelu
- polisïau rheoli gwybodaeth Llywodraeth Cymru a Cafcass Cymru.
Gellir rhannu gwybodaeth sy'n berthnasol i ddiogelu heb ganiatâd lle bo'r penderfyniad i'w rhannu yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn gyfiawn er mwyn amddiffyn plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg.
Safonau proffesiynol
Lle mae cydweithwyr yn Cafcass Cymru wedi'u cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddiwr proffesiynol arall, rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â'r safonau proffesiynol, y codau ymarfer a'r gofynion cofrestru perthnasol. Dylai ymarfer diogelu o dan y weithdrefn hon fod yn gyson â'r rhwymedigaethau proffesiynol hynny.
6. Rolau a chyfrifoldebau
Mae pob cydweithiwr yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn parhau'n effro i bryderon diogelu ac yn cymryd camau prydlon lle caiff risg ei nodi. Lle ceir risg uniongyrchol, rhaid i gydweithwyr gymryd camau brys yn ddi-oed. Rhaid rhannu pryderon â'r ymarferydd neu'r rheolwr priodol, dylid gofyn am gyngor lle bo angen, a rhaid cofnodi pob pryder, cam gweithredu a phenderfyniad diogelu yn gywir ar y pryd. Disgwylir hefyd i gydweithwyr gydweithredu â phrosesau diogelu lle y bo angen.
Cydweithwyr yn y Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu
- Rhaid i bob un sy'n rhan o'r Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, sy'n cynnwys cydweithwyr cymorth busnes, barhau i fod yn effro i bryderon diogelu a allai gael eu nodi drwy alwadau ffôn, negeseuon e-bost, gohebiaeth, dogfennaeth neu gyswllt â phobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth ac asiantaethau partner
- Dylid sicrhau y caiff unrhyw wybodaeth a allai ddynodi pryder diogelu ei huwchgyfeirio ar unwaith i'r ymarferydd neu'r rheolwr yn y maes gweithredol
- Os na fydd unrhyw un ar gael, dylid gofyn am gyngor ar unwaith ynghylch pa gamau y dylid eu cymryd nesaf
Ymarferwyr
- Mae ymarferwyr yn gyfrifol am asesu a dadansoddi gwybodaeth ddiogelu yng nghyd destun yr achos
- Rhaid iddynt ystyried a yw'r trothwyon diogelu wedi'u bodloni, ceisio ymgynghori â rheolwyr lle bo pryderon sylweddol yn codi, a sicrhau bod gwybodaeth ddiogelu gyfredol yn cael ei hadlewyrchu wrth gynllunio achosion, mewn adroddiadau i'r llys ac mewn unrhyw argymhelliad a wneir i'r llys
- Rhaid i ymarferwyr barhau i asesu risg ar ôl i atgyfeiriad diogelu gael ei wneud, ystyried a yw trefniadau Gweithdrefnau Diogelu Cymru sy'n ymwneud ag ymarferwyr neu bobl mewn swyddi o ymddiriedaeth o bosibl yn berthnasol, a defnyddio dulliau herio proffesiynol lle bo pryderon yn parhau heb eu datrys
Rheolwyr ymarfer
- Mae Rheolwyr Ymarfer yn darparu cyfleoedd ymgynghori, goruchwyliaeth a chymorth mewn perthynas â materion diogelu er mwyn gallu gwneud penderfyniadau cymesur
- Rhaid iddynt sicrhau bod penderfyniadau diogelu a'r rhesymeg drostynt yn cael eu cofnodi'n glir, cefnogi camau dilynol, cynnig llwybrau herio proffesiynol ac uwchgyfeirio lle bo angen, ac ystyried risgiau trosglwyddadwy lle mae'r pryderon yn ymwneud ag ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol, gofalwyr, gwirfoddolwyr neu bobl mewn swyddi o ymddiriedaeth
- Lle bydd y risg yn parhau i fod yn weithredol, yn aneglur neu'n destun dadl, rhaid i Reolwyr Ymarfer sicrhau y caiff yr ymateb diogelu ei adolygu.
Penaethiaid gweithrediadau
- Mae penaethiaid dweithrediadau yn darparu goruchwyliaeth diogelu uwch ac yn cefnogi prosesau uwchgyfeirio a herio amlasiantaeth
- Maent yn gyfrifol am gynnal trefniadau llywodraethu diogelu effeithiol, cefnogi prosesau dysgu sefydliadol a sicrhau ansawdd, a goruchwylio anghydfodau diogelu sylweddol, pryderon na chawsant eu datrys dro ar ôl tro ac achosion sy'n cynnwys risg sefydliadol bosibl
7. Nodi pryderon diogelu
Gall pryderon diogelu godi drwy'r canlynol:
- adroddiad uniongyrchol gan blentyn neu oedolyn
- gwaith arsylwi
- asesiad proffesiynol
- gwybodaeth gan asiantaethau partner
- gwybodaeth gan y llys
- dadansoddiad o niwed cronnol neu risg gynyddol
- pryderon sy'n ymwneud ag ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol, gofalwyr, gwirfoddolwyr neu bobl mewn swyddi o ymddiriedaeth
- pryderon sy'n ymwneud â phlant nad ydynt yn destun achos cyfredol
- gwersi a ddysgwyd o adolygiadau ymarfer mewnol ac archwiliadau o ffeiliau achos
Nid oes angen sicrwydd llwyr mewn perthynas ag achos rhesymol dros amau niwed. Dylid arfer barn broffesiynol gan ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys yr holl risgiau hysbys, ffactorau amddiffynnol, patrymau ymddygiad a phrofiad bywyd y plentyn.
8. Camfanteisio plant
Camfanteisio’n rhywiol ar blant a chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar sail grŵp
Mae Cafcass Cymru yn cydnabod y gallai plant wynebu risg y bydd rhywun yn camfanteisio'n rhywiol arnynt, gan gynnwys achosion cyfundrefnol o gamfanteisio'n rhywiol ar blant neu achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant ar sail grŵp. Rhaid i ymarferwyr barhau i fod yn effro i ddangosyddion sy'n awgrymu achosion o grŵmio, gorfodi, rheoli, masnachu pobl, camfanteisio a mathau eraill o niwed y tu allan i'r teulu.
Lle bydd cydweithiwr yn Cafcass Cymru yn nodi pryderon y gallai plentyn wynebu risg y bydd rhywun yn camfanteisio'n rhywiol arno, gan gynnwys achosion cyfundrefnol o gamfanteisio'n rhywiol ar blant neu achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant ar sail grŵp, rhaid iddo ddilyn y broses ddiogelu a nodir yn y weithdrefn hon. Mae hyn yn cynnwys ystyried a yw'r trothwy ar gyfer atgyfeiriad diogelu wedi'i fodloni, gwneud atgyfeiriad ar unwaith lle bo angen, rhannu gwybodaeth berthnasol, cofnodi'r rhesymeg dros benderfyniadau, ac ystyried a oes angen cyfathrebu â'r llys, her broffesiynol neu uwchgyfeirio'r mater.
Rhaid ymateb i bryderon yn unol â fersiwn gyfredol Gweithdrefnau Diogelu Cymru a chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru, Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 7 – Diogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhaid i ymarferwyr sicrhau eu bod yn cyfeirio at y fersiwn gyhoeddedig gyfredol.
Camfanteisio troseddol ar blant
Mae Cafcass Cymru yn cydnabod y gall plant gael eu grŵmio, eu gorfodi, eu rheoli neu eu manipiwleiddio er mwyn eu cynnwys mewn gweithgarwch troseddol, gan gynnwys cyflenwi cyffuriau, lladrata neu droseddau ariannol. Ni ddylai cyfranogiad plentyn, na'i barodrwydd ymddangosiadol i gymryd rhan, guddio'r posibilrwydd ei fod yn cael ei camfanteisio nac amharu ar yr angen i'w ddiogelu. Rhaid i ymarferwyr ystyried goblygiadau hyn i ddiogelwch y plentyn. Rhaid mynd i'r afael â phryderon drwy drefniadau diogelu, rhannu gwybodaeth, atgyfeirio ac uwchgyfeirio'r weithdrefn hon, yn unol â'r Gweithdrefnau Diogelu Cymru cyfredol a'r Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan cysylltiedig, Diogelu plant rhag Camfanteisio Troseddol ar Blant, ochr yn ochr â threfniadau perthnasol y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.
9. Ymateb i bryderon diogelu
Risg uniongyrchol
- Lle ceir bygythiad uniongyrchol i fywyd, rhaid i gydweithwyr yn Cafcass Cymru gysylltu â'r gwasanaethau brys yn ddi-oed
- Ni ddylid gohirio camau diogelu tra'n aros i waith ymgynghori ddod i ben, i adroddiadau gael eu cwblhau, neu i adnoddau, prosesau gweinyddol neu waith sy’n gysylltiedig â’r llys gael eu cwblhau
- Rhaid cofnodi'r camau a gymerwyd, y wybodaeth a rannwyd, a'r rhesymeg dros unrhyw benderfyniadau uniongyrchol ar y pryd
Ymgynghori ynghylch materion diogelu
Dylid trafod pryderon diogelu sylweddol â Rheolwr Ymarfer cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ar yr amod na fydd hyn yn gohirio'r camau gweithredu sydd eu hangen i gadw rhywun yn ddiogel. Lle na fydd Rheolwr Ymarfer ar gael ac y gallai oedi gynyddu'r risg, dylid gofyn am gyngor gan Bennaeth Gweithrediadau neu reolwr priodol arall.
Dylai'r broses ymgynghori ystyried y canlynol:
- natur y risg ddiogelu a'i huniongyrchedd
- a yw'r trothwyon diogelu wedi'u bodloni
- pwy sy'n wynebu risg, gan gynnwys a yw'n ymwneud â phlentyn nad yw'r achos yn ymwneud ag ef, gweithiwr proffesiynol, person mewn swydd o ymddiriedaeth, neu gydweithiwr yn Cafcass Cymru
- a oes angen camau brys neu ohebiaeth frys gan y llys
- a oes angen asesiad risg o dan Adran 16A ac, os felly, pa argymhellion y dylid eu gwneud (Mae Adran 16A o Ddeddf Plant 1989 yn ei gwneud yn ofynnol i Cafcass Cymru gynnal asesiad risg a'i ddarparu i'r llys lle bydd achos dros amau bod plentyn yn wynebu risg o niwed wedi dod i'r amlwg wrth ymgymryd â swyddogaethau perthnasol fel rhan o achos teuluol.)
- unrhyw ystyriaethau perthnasol o dan PD12J (Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 12J (PD12J) yn rhoi arweiniad i'r Llys Teulu lle caiff achos o gam-drin domestig ei honni neu ei nodi. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r llys ystyried effaith cam-drin domestig ar ddiogelwch a lles y plentyn a'r rhiant sy'n cael ei gam-drin wrth wneud penderfyniadau ynghylch trefniadau plentyn ac amser teulu.)
- a allai fod angen her broffesiynol neu uwchgyfeirio’r mater
- pa gamau dilynol sydd eu hangen
10. Rhannu gwybodaeth a chydsyniad
- Gall gwybodaeth am faterion diogelu gynnwys data personol a data personol categori arbennig
- Rhaid bod yr achos o rannu gwybodaeth yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn gyfiawn, a rhaid ei fod wedi cael ei ystyried yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018, darpariaethau rhannu gwybodaeth mewn perthynas â diogelu, a pholisïau rheoli gwybodaeth Llywodraeth Cymru a Cafcass Cymru
- Lle caiff gwybodaeth ei rhannu heb gydsyniad, rhaid cofnodi'r rhesymeg yn glir, gan gynnwys pam na ofynnwyd am gydsyniad neu pam nad oedd yn briodol dibynnu ar gydsyniad o ystyried yr amgylchiadau diogelu
Gellir rhannu gwybodaeth sy'n berthnasol i ddiogelu heb gydsyniad yn yr achosion canlynol:
- lle byddai gofyn am gydsyniad yn peri risg uwch i rywun
- lle na ellir cael cydsyniad mewn modd rhesymol
- lle bo angen rhannu'r wybodaeth er mwyn amddiffyn rhywun
- lle byddai gofyn am gydsyniad o bosibl yn peri risg i gamau diogelu, ymholiadau gan yr heddlu neu ymholiadau gan yr awdurdod lleol
Lle y bo'n ddiogel ac yn briodol, dylid hysbysu unigolion bod gwybodaeth yn cael ei rhannu. Fodd bynnag, ni ddylid gohirio camau diogelu lle na ofynnwyd am gydsyniad neu lle na chafwyd cydsyniad.
Rhaid cofnodi pob penderfyniad ynghylch rhannu gwybodaeth, gan gynnwys penderfyniadau i beidio â hysbysu person bod gwybodaeth yn cael ei rhannu, yn glir ynghyd â'r rhesymeg.
11. Gwneud atgyfeiriad diogelu
Pan gaiff y trothwy ar gyfer atgyfeiriad diogelu ei fodloni:
- rhaid gwneud atgyfeiriadau ar unwaith
- rhaid cynhyrchu atgyfeiriadau sy'n ymwneud â phlant drwy system ffeiliau achosion electronig Cafcass Cymru, IRIS. Rhaid i atgyfeiriadau diogelu oedolion ddilyn proses atgyfeirio'r awdurdod lleol perthnasol
- yr atgyfeiriwr fydd yn gyfrifol am anfon yr atgyfeiriad at yr awdurdod lleol cywir; nid cyfrifoldeb y Tîm Gweinyddu a Phrosesu Canolog (CAPT) yw hyn
- dylid anfon cadarnhad ysgrifenedig yn dilyn adroddiadau llafar lle y bo'n briodol
- rhaid cofnodi camau diogelu yn glir ar y pryd ar y ffeil achos electronig
Dylai atgyfeiriadau diogelu gynnwys:
- ffeithiau perthnasol
- ffynhonnell y wybodaeth
- dadansoddiad proffesiynol
- risgiau a ffactorau amddiffynnol
- y dymuniadau a'r teimladau hysbys lle y bônt yn berthnasol ac ar gael
- y rhesymeg dros yr atgyfeiriad
- unrhyw risg barhaus neu drosglwyddadwy a nodwyd
- unrhyw gamau gweithredu uniongyrchol a gymerwyd eisoes
- unrhyw amserlen llys berthnasol neu wybodaeth am wrandawiadau brys.
Nid yw gwneud atgyfeiriad diogelu yn dod â chyfrifoldebau diogelu Cafcass Cymru i ben. Rhaid i ymarferwyr a rheolwyr ystyried yr ymateb a geir, a yw'r risg wedi cael sylw digonol, ac a oes angen rhannu gwybodaeth bellach, ymgymryd â gwaith dilynol, cyflwyno her broffesiynol, uwchgyfeirio'r mater neu gyfathrebu â'r llys.
Llwybrau atgyfeirio mewn perthynas â diogelu a gofal a chymorth
Rhaid i gydweithwyr yn Cafcass Cymru ystyried y llwybr atgyfeirio mwyaf priodol, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael, lefel y risg a diben yr atgyfeiriad. Dylid gwneud atgyfeiriad diogelu lle ceir achos rhesymol dros amau bod plentyn neu oedolyn yn destun camdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall, neu'n wynebu risg o hynny. Lle bydd gwybodaeth yn awgrymu y gallai plentyn fod yn dioddef niwed sylweddol, neu ei fod yn debygol o ddioddef niwed o'r fath, yr Awdurdod Lleol fydd yn gyfrifol am benderfynu a oes angen cynnal ymholiadau o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989.
Oedolion sy'n wynebu risg
Lle ceir achos rhesymol dros amau bod oedolyn yn wynebu risg, rhaid gwneud atgyfeiriad ar unwaith i wasanaeth diogelu oedolion yr awdurdod lleol perthnasol. Yr atgyfeiriwr fydd yn gyfrifol am nodi a dilyn proses atgyfeirio'r awdurdod lleol hwnnw, a fydd ar gael ar ei wefan. Lle ceir risg uniongyrchol i fywyd neu ddiogelwch, rhaid cysylltu â'r heddlu. Rhaid cofnodi pob cam gweithredu a phenderfyniad ar y ffeil achos electronig.
Mae atgyfeiriad ar gyfer Gofal a Chymorth o dan Ran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn wahanol i atgyfeiriad diogelu. Gall fod yn briodol lle y gallai fod angen asesiad, cymorth neu wasanaethau ar blentyn, oedolyn neu deulu, ond nad yw'r trothwy diogelu wedi'i fodloni. Fel arfer, dylid cael cydsyniad cyn gwneud atgyfeiriad Gofal a Chymorth, a dylid esbonio diben yr atgyfeiriad i'r unigolyn neu'r person sydd â chyfrifoldeb rhiant. Mewn achosion lle gallai gofyn am gydsyniad gynyddu'r risg, peri risg i gamau diogelu, neu ddangos bod yna bryderon diogelu, rhaid i ymarferwyr ystyried a oes angen atgyfeiriad diogelu yn lle hynny.
Lle ceir pryderon diogelu, ni ddylai'r angen i gael cydsyniad ohirio atgyfeiriad diogelu nac unrhyw gamau amddiffynnol eraill. Rhaid cofnodi'r rheswm dros y llwybr atgyfeirio a ddewiswyd, gan gynnwys unrhyw benderfyniad am gydsyniad, yn glir ar y ffeil achos electronig.
Ar ôl gwneud atgyfeiriad diogelu
Yn dilyn atgyfeiriad diogelu, dylai'r Awdurdod Lleol ymateb i'r atgyfeiriwr yn ddi-oed a rhoi adborth ar ganlyniad ei broses sgrinio a'i benderfyniadau. Rhaid i ymarferwyr adolygu unrhyw ymateb a geir ac ystyried a yw'r pryder diogelu wedi cael sylw priodol, gan gynnwys a oes angen cymryd camau pellach, rhannu gwybodaeth, her broffesiynol, uwchgyfeirio'r mater neu gyfathrebu â'r llys.
Lle na cheir ymateb yn nodi'r canlyniad, bydd system rheoli achosion Cafcass Cymru, IRIS, yn anfon negeseuon atgoffa awtomataidd i'r Awdurdod Lleol perthnasol. Os na cheir cydnabyddiaeth na chanlyniad o fewn 7 diwrnod gwaith, dylai'r ymarferydd gysylltu â'r Awdurdod Lleol eto i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ac i sicrhau bod y pryderon diogelu wedi cael eu hystyried yn briodol.
Lle bydd pryderon yn parhau yn dilyn atgyfeiriad, rhaid i ymarferwyr drafod y mater â Rheolwr Ymarfer er mwyn penderfynu a oes angen i Bennaeth Gweithrediadau Cafcass Cymru uwchgyfeirio'r mater at Bennaeth Gwasanaethau Plant yr Awdurdod Lleol.
12. Plant Nad Yw Achos Cyfredol yn Ymwneud â Nhw neu Nad Ydynt yn Cael Gwasanaeth Gan Cafcass Cymru (plant nad yw'r achos yn ymwneud â nhw)
Gall cyfrifoldebau diogelu Cafcass Cymru godi mewn perthynas â phlant nad ydynt yn destun achos teulu cyfredol.
Lle bydd gwybodaeth a geir drwy gyfranogiad Cafcass Cymru yn dangos y gallai plentyn nad yw'n destun achos cyfredol fod yn wynebu camdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall, neu y gallai fod risg o hynny, dylai ymarferwyr ystyried a ddylid gwneud atgyfeiriad diogelu at yr awdurdod lleol perthnasol a/neu asiantaeth briodol arall.
Mae'r sail ar gyfer ystyried camau gweithredu mewn perthynas â phlant nad yw'r achos yn ymwneud â nhw yn deillio o gyfrifoldebau diogelu proffesiynol, swyddogaethau statudol a swyddogaethau lles plant ehangach Cafcass Cymru, egwyddorion atebolrwydd cyhoeddus a'r disgwyliadau a nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
Rhaid llunio barn broffesiynol wrth benderfynu a ddylid gwneud atgyfeiriad diogelu mewn perthynas â phlentyn nad yw'r achos yn ymwneud ag ef. Dylai ymarferwyr ystyried natur a difrifoldeb y wybodaeth, lefel ymddangosiadol y risg, uniongyrchedd unrhyw niwed a ph'un a yw unrhyw benderfyniad i rannu gwybodaeth yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn gyfiawn er mwyn amddiffyn y plentyn. Lle bydd asiantaeth arall eisoes yn ymwybodol o'r pryder, ni ddylai hyn atal atgyfeiriad lle bo'i angen. Lle bydd y wybodaeth yn awgrymu risg uniongyrchol, niwed difrifol, neu fod angen camau amddiffynnol brys, ni ddylai cydweithwyr oedi cyn cymryd camau diogelu priodol, gan gynnwys cysylltu â'r gwasanaethau brys lle bo angen.
Rhaid cofnodi'r rhesymeg dros unrhyw benderfyniad, gan gynnwys penderfyniad i wneud atgyfeiriad neu beidio, yn glir ar y pryd. Lle bydd y pryder yn sylweddol, yn gymhleth, neu'n ymwneud â risg uniongyrchol neu barhaus, rhaid i'r ymarferydd drafod y mater â Rheolwr Ymarfer neu Bennaeth Gweithrediadau.
Nid yw Adran 16A yn berthnasol i blant nad nhw yw testun yr achos. Rhaid ystyried pryderon diogelu sy'n ymwneud â phlant nad yw'r achos yn ymwneud â nhw ac ymateb iddynt yn unol â'r adran hon.
13. Y Rhyngberthynas â'r llys
Rhaid cyfleu camau diogelu yn briodol i'r llys lle y bônt yn berthnasol i swyddogaethau Cafcass Cymru ac i'r achos. Gall hyn gynnwys:
- cyflwyno Adroddiad ar Asesiad Risg Adran 16A
- rhoi gwybod i'r llys am atgyfeiriadau diogelu
- nodi pryderon diogelu heb eu datrys
- camau cynllunio diogelwch brys, mesurau amddiffynnol, newidiadau i amser teulu a goblygiadau rheoli achosion
Asesiadau risg Adran 16A
Mae Adran 16A o Ddeddf Plant 1989 yn gymwys pan fydd un o ymarferwyr Cafcass Cymru yn cyflawni swyddogaeth berthnasol fel rhan o achos teulu ac y bydd achos ganddo dros amau bod y plentyn dan sylw yn wynebu risg o niwed.
Lle caiff y trothwy Adran 16A ei fodloni, rhaid i'r ymarferydd gwblhau asesiad risg a'i ddarparu i'r llys. Mae hyn yn ddyletswydd statudol.
Lle bydd atgyfeiriad diogelu wedi'i wneud i'r awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn nad yw'r achos yn ymwneud ag ef, ni ddylid cyflwyno adroddiad Adran 16A oni bai bod y pryder hefyd yn berthnasol i'r plentyn neu'r plant y mae'r achos yn ymwneud ag ef/â nhw.
Nid oes angen i ymarferwyr gael cyfarwyddyd gan y llys cyn cwblhau asesiad risg Adran 16A lle mae'r trothwy statudol wedi'i fodloni. Lle bydd ymarferydd yn ystyried cyflwyno asesiad risg Adran 16A, dylai drafod hyn â Rheolwr Ymarfer neu Bennaeth Gweithrediadau oni bai y byddai oedi yn cynyddu'r risg neu'n atal camau diogelu brys. Dylai asesiad risg Adran 16A nodi’r canlynol yn glir:
- y wybodaeth sy'n rhoi rheswm dros amau bod y plentyn yn wynebu risg o niwed
- natur y risg gyfredol
- y dystiolaeth a'r dadansoddiad sy'n sail i'r asesiad
- effaith debygol niwed ar y plentyn
- unrhyw atgyfeiriad diogelu a wnaed, gan gynnwys y dyddiad a’r canlyniad hysbys lle bo hynny ar gael
- unrhyw gamau amddiffynnol brys neu gyfarwyddyd gan y llys yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol
- unrhyw ystyriaethau datgelu
- a allai rhannu gwybodaeth gynyddu'r risg
- barn ar sut a phryd y dylid rhannu'r wybodaeth â'r partïon, gan nodi mai dim ond i'r llys y dylid cyflwyno'r adroddiad Adran 16A, oni bai bod y llys yn rhoi cyfarwyddyd gwahanol
Rhaid cofnodi'r drafodaeth â'r Rheolwr Ymarfer neu'r Pennaeth Gweithrediadau, y penderfyniad a wnaed, y rhesymeg, ac unrhyw gamau a gymerwyd ar y ffeil achos electronig.
Ni ddylai asesiad risg Adran 16A ohirio'r broses o wneud atgyfeiriad diogelu neu gymryd unrhyw gamau amddiffynnol brys.
Ni ddylid defnyddio asesiad risg Adran 16A yn lle Adroddiad ar yr Effaith ar y Plentyn nac asesiad arall a orchmynnwyd. Dylid ei ddefnyddio lle bydd gwybodaeth neu ddadansoddiad newydd yn rhoi achos dros amau risg gyfredol o niwed i'r plentyn a bod angen hysbysu'r llys.
Ystyriaethau PD12J mewn achosion cyfraith breifat
Mewn achosion cyfraith breifat lle caiff achos o gam-drin domestig, rheolaeth drwy orfodaeth, niwed neu risg o niwed ei honni, ei nodi neu ei amau, rhaid i ymarferwyr sicrhau bod y dadansoddiad diogelu wedi'i lywio gan egwyddorion Cyfarwyddyd Ymarfer 12J. Dylai ymarferwyr ystyried y canlynol:
- a allai fod risg o niwed uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r plentyn
- effaith cam-drin domestig, rheolaeth drwy orfodaeth, bygylu neu ofn ar y plentyn a'r oedolyn sy'n ddioddefwr-oroeswr
- a yw'r trefniadau arfaethedig ar gyfer amser teulu yn ddiogel ac er lles pennaf y plentyn
- a oes angen rhagor o wybodaeth ddiogelu, cyfranogiad gan yr awdurdod lleol, gwybodaeth gan yr heddlu, gwybodaeth arbenigol am gam-drin domestig neu ystyriaeth frys gan y llys
- a allai unrhyw argymhelliad achosi mwy o risg i'r plentyn neu'r oedolyn sy'n ddioddefwr oroeswr
- a oes angen mesurau amddiffynnol fel rhan o broses y llys neu unrhyw drefniadau arfaethedig
Lle bo ystyriaethau PD12J yn berthnasol, rhaid cofnodi dadansoddiad a rhesymeg yr ymarferydd yn glir a'u cyfleu'n briodol i'r llys.
14. Her broffesiynol ac uwchgyfeirio
Ni ddaw cyfrifoldebau diogelu i ben ar ôl i bryder gael ei rannu neu i atgyfeiriad diogelu gael ei wneud. Lle bydd ymarferwyr neu reolwyr o'r farn nad ymdriniwyd â phryderon diogelu mewn modd priodol, rhaid iddynt ystyried a oes angen her broffesiynol neu a oes angen uwchgyfeirio'r mater. Gall fod angen her broffesiynol neu uwchgyfeirio'r mater o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os nad yw'r ymateb gan asiantaeth arall yn ymddangos yn gymesur â lefel y risg
- os caiff atgyfeiriad diogelu ei gau heb unrhyw gamau pellach ond bod Cafcass Cymru yn parhau i bryderu am y risg
- nid yw'n ymddangos bod gwybodaeth berthnasol wedi'i hystyried
- os bydd pethau wedi llithro, os bydd oedi neu os bydd diffyg eglurder ynghylch camau amddiffynnol
- os bydd anghytundeb proffesiynol ynghylch trothwy, risg, camau cynllunio diogelwch neu'r angen am gamau pellach
- os bydd Cafcass Cymru o'r farn y gall fod angen rhoi gwybod i'r llys am bryderon diogelu sydd heb eu datrys
Dylai her broffesiynol fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn barchus ac yn gymesur. Dylai ganolbwyntio ar les a diogelwch y plentyn gan anelu at gyflawni canlyniad mwy diogel.
Lle bo pryderon yn parhau heb eu datrys, rhaid i'r ymarferydd drafod y mater â Rheolwr Ymarfer. Rhaid i'r Rheolwr Ymarfer ystyried a oes angen eglurhad pellach, atgyfeiriad newydd, her ysgrifenedig, defnyddio trefniadau uwchgyfeirio lleol, neu gynnwys uwch reolwyr.
Rhaid cynnwys Penaethiaid Gweithrediadau fel rhan o’r broses lle bo angen uwchgyfeirio materion, gan gynnwys anghydfodau ynghylch canlyniadau diogelu, pryderon na chânt eu datrys dro ar ôl tro, neu achosion lle gall anghytundeb rhwng asiantaethau arwain at niwed parhaus neu niwed na chaiff ei reoli. Rhaid cofnodi unrhyw her broffesiynol ac unrhyw weithgarwch uwchgyfeirio yn glir ar y pryd, gan gynnwys:
- y pryder
- yr asiantaethau neu'r gweithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig â'r achos
- y dadansoddiad diogelu
- trefniadau goruchwylio gan reolwyr
- camau gweithredu y cytunwyd arnynt
- ymatebion a gafwyd
- canlyniad
- unrhyw gamau gweithredu pellach sydd eu hangen
- unrhyw gyfathrebu sydd ei angen â'r llys
Rhaid rheoli honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol (gan gynnwys cydweithwyr yn Cafcass Cymru), gwirfoddolwyr, gofalwyr neu bobl mewn swyddi o ymddiriedaeth yn unol ag Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylid ystyried a yw'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol lle mae gwybodaeth yn awgrymu'r canlynol:
- bod unigolyn wedi niweidio plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg neu y gallai wneud hynny
- bod unigolyn o bosibl wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg
- bod unigolyn o bosibl yn peri risg o niwed i blentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg
- bod unigolyn wedi ymddwyn mewn ffordd sy'n codi pryderon am ei addasrwydd i weithio gyda phlant neu oedolion sy'n wynebu risg
15. Honiadau yn erbyn cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth (Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru)
Rhaid rheoli honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol (gan gynnwys cydweithwyr yn Cafcass Cymru), gwirfoddolwyr, gofalwyr neu bobl mewn swyddi o ymddiriedaeth yn unol ag Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru.
Dylid ystyried a yw'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol lle mae gwybodaeth yn awgrymu'r canlynol:
- bod unigolyn wedi niweidio plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg neu y gallai wneud hynny
- bod unigolyn o bosibl wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg
- bod unigolyn o bosibl yn peri risg o niwed i blentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg
- bod unigolyn wedi ymddwyn mewn ffordd sy'n codi pryderon am ei addasrwydd i weithio gyda phlant neu oedolion sy'n wynebu risg
Rhaid trafod honiadau o'r fath ar unwaith â Rheolwr Ymarfer a'u huwchgyfeirio at y Pennaeth Gweithrediadau perthnasol. Rhaid i'r Rheolwr Ymarfer a'r Pennaeth Gweithrediadau ystyried a oes risg uniongyrchol, risg barhaus neu risg drosglwyddadwy bosibl i blant neu oedolion eraill a phenderfynu pa gamau diogelu a allai fod yn ofynnol.
Mae gan bob awdurdod lleol ei drefniadau ei hun ar gyfer derbyn adroddiadau sy'n ymwneud ag ymarferwyr a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth. Rhaid i'r Pennaeth Gweithrediadau nodi llwybr atgyfeirio'r awdurdod lleol priodol a'i ddilyn, gan gynnwys sut i gysylltu â Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol (LADO) neu'r Swyddog Diogelu Dynodedig (DOS). Mae'n bosibl y bydd angen edrych ar wybodaeth ddiogelu gyhoeddedig yr awdurdod lleol neu gysylltu â'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol perthnasol. Lle ceir ansicrwydd ynghylch a yw Adran 5 yn berthnasol, rhaid gofyn i Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol neu'r Swyddog Diogelu Dynodedig am gyngor.
Rhaid cofnodi'r dadansoddiad risg, y broses gwneud penderfyniadau a'r rhesymeg yn glir ar y pryd. Rhaid i gydweithwyr yn Cafcass Cymru gydweithredu ag ymholiadau diogelu, trafodaethau strategaeth a phrosesau diogelu amlasiantaeth.
Mae prosesau diogelu yn annibynnol ar ymchwiliadau disgyblu, ymchwiliadau gallu, ymchwiliadau rheoleiddio proffesiynol neu ymchwiliadau troseddol, er y gallant weithredu ochr yn ochr â'i gilydd. Rhaid i benderfyniadau diogelu bob amser ganolbwyntio ar les a diogelwch ac ni ddylai prosesau cyflogaeth na phrosesau mewnol eraill achosi unrhyw oedi.
16. Addysg ddewisol yn y cartref
Pan ddaw Cafcass Cymru yn ymwybodol o wybodaeth sy'n awgrymu y gallai fod risg bod plentyn sy'n cael ei addysgu gartref ar sail ddewisol yn dioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall, dylai ymarferwyr ystyried a oes angen cymryd camau diogelu. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae addysg ddewisol yn y cartref yn ymddangos yn rhan o batrwm ehangach o ynysu, cuddio, rheolaeth drwy orfodaeth, angen heb ei ddiwallu neu welededd proffesiynol is.
Lle y bo'n berthnasol, dylai ymarferwyr ystyried a oes angen atgyfeiriad diogelu. Rhaid cofnodi'r rhesymeg dros unrhyw benderfyniad a wnaed yn glir ar y pryd.
17. Llywodraethu, sicrwydd a dysgu
Bydd y trefniadau llywodraethu ar gyfer materion diogelu yn cynnwys goruchwylio'r canlynol:
- atgyfeiriadau diogelu a'u canlyniadau
- her broffesiynol a gweithgarwch uwchgyfeirio
- honiadau yn erbyn cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth
- patrymau risg trosglwyddadwy
- ansawdd y broses o gofnodi materion diogelu a threfniadau goruchwylio gan reolwyr
- gwersi i'w dysgu yn deillio o archwiliadau, cwynion, adolygiadau a gweithgarwch diogelu
Caiff cydymffurfiaeth mewn perthynas â materion diogelu ei monitro drwy gamau goruchwylio, archwilio ac adolygu gan reolwyr. Defnyddir cyfleoedd dysgu a nodir drwy weithgarwch diogelu i lywio'r broses o wella ymarfer, datblygu'r gweithlu a dysgu sefydliadol.
Rhaid i Benaethiaid Gweithrediadau sicrhau y caiff risgiau diogelu, canlyniadau atgyfeirio, gweithgarwch uwchgyfeirio a chyfleoedd dysgu eu nodi, eu hadolygu a'u rhoi ar waith drwy drefniadau rheoli sefydledig.
Lle caiff pryder diogelu ei nodi'n ôl-weithredol drwy archwiliad neu broses adolygu mewnol arall, rhaid ei uwchgyfeirio at y Pennaeth Gweithrediadau neu'r Pennaeth Ymarfer perthnasol. Rhaid i'r Pennaeth Gweithrediadau neu'r Pennaeth Ymarfer, ar ôl ymgynghori â'r Dirprwy Brif Weithredwr, benderfynu a oes angen camau diogelu. Lle y bo'n briodol, rhaid i'r ymarferydd a'i reolwr llinell fod yn rhan o'r ystyriaeth hon er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth berthnasol, dadansoddiad proffesiynol ac unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd eisoes eu hystyried a'u cofnodi.
18. Trefniadau diogelu'r gweithlu
Mae Cafcass Cymru yn cydnabod bod proses ddiogelu effeithiol yn dibynnu ar weithlu medrus ac atebol sy'n cael ei gefnogi'n briodol. Mae'r trefniadau yn cynnwys y canlynol:
- recriwtio mwy diogel
- gwiriadau DBS priodol ar gyfer rolau cydweithwyr, sy'n gymesur â'r rôl a'r cyfrifoldebau
- sesiynau ymwybyddiaeth o ddiogelu gorfodol
- hyfforddiant diogelu sy'n benodol i'r rôl
- ymwybyddiaeth o drefniadau Gweithdrefnau Diogelu Cymru sy'n ymwneud ag ymarferwyr a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth
- y gallu i ymgynghori â rheolwyr a chael cymorth proffesiynol
- trefniadau chwythu'r chwiban a'r trefniadau ar gyfer rhoi gwybod am faterion diogelu
- prosesau sicrhau ansawdd a dysgu sefydliadol
Nid yw'r weithdrefn hon yn cynnwys gofyniad i atal unrhyw weithredu mewn perthynas ag argymhellion sy'n ymwneud â darpar ofalwyr maeth, gwarcheidwaid arbennig neu ofalwyr teuluol hyd nes y bydd gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriadau eraill wedi dod i law ac wedi cael eu hystyried, oni chaiff gofyniad o'r fath ei fabwysiadu ar wahân gan Cafcass Cymru fel safbwynt polisi sefydliadol. Lle bydd argymhellion yn amodol ar wiriadau sydd heb eu cwblhau eto, rhaid nodi unrhyw gyfyngiadau, cafeatau neu ystyriaethau diogelu yn glir i'r llys.
19. Adolygu a rheoli fersiynau
Caiff y weithdrefn hon ei hadolygu bob dwy flynedd, neu'n gynt mewn ymateb i'r canlynol:
- newid deddfwriaethol;
- newidiadau i Weithdrefnau Diogelu Cymru
- newidiadau i ganllawiau statudol
- gwersi i'w dysgu o archwiliadau, adolygiadau cwynion neu weithgarwch diogelu
- newidiadau sylweddol i drefniadau diogelu Cafcass Cymru.
Cynhelir trefniadau rheoli fersiynau, cymeradwyo a chyhoeddi yn unol â gofynion llywodraethu Cafcass Cymru.
