Cymorth i gwblhau Gweithred Cyffredinol 10: Cynllun cyfle i blannu coed a chreu perthi a gwrychoedd
Cynnwys
Defnyddiwch y Cynllun cyfle i nodi'r plannu sy'n addas i'ch fferm
Defnyddiwch y cynllun i benderfynu lle y gallai coed unigol, perthi/gwrychoedd, lleiniau cysgodi a choetir fod o fudd i'ch fferm. Mae eich Cynllun cyfle yn eich helpu i ddewis beth allai weithio orau ar eich tir.
- Dewiswch gyfleoedd sy'n addas i'ch tir a'ch busnes.
- Bydd y cynllun yn eich helpu i ystyried ble y gall coed a pherthi/gwrychoedd weithio er budd eich fferm.
- Y gofyniad sylfaenol yw symud ymlaen â’ch cynllun erbyn diwedd 2028 a phlannu o leiaf 0.1 hectar neu 250 o goed newydd.
- Nid yw plannu coed mewn gwrychoedd a fydd yn cael eu rheoli fel gwrychoedd (h.y. eu torri'n rheolaidd ar ôl iddynt ymsefydlu) yn cyfrif tuag at y gofyniad hwn. Fodd bynnag, bydd plannu coed mewn gwrychoedd gyda'r bwriad o ganiatáu iddynt dyfu'n goed sefydledig (dros 5 metr o uchder), neu ganiatáu i goed mewn gwrychoedd i dyfu, yn cyfrif tuag at y gofyniad.
- Mae cyllid grant ar gael ar gyfer plannu ardal mor fach â 0.1 hectar (gweler isod)
- Gall creu coetir sydd ag o leiaf 80% o goed llydanddail gyfrif tuag at y gofyn bod 10% o'ch fferm yn gynefin.
Cwblhewch eich cynllun drwy RPW Ar-lein
Gall plannu mewn lleoliadau addas wneud ardaloedd anodd yn fwy defnyddiol a chryfhau gwydnwch y fferm.
- Darparu cysgod i dda byw rhag gwynt, glaw a gwres.
- Diogelu priddoedd a chnydau, arafu llif dŵr ar yr wyneb a rheoli dŵr ffo.
- Cryfhau ffiniau a chysylltu cynefinoedd.
- Creu gwerth ar gyfer y dyfodol drwy bren, tanwydd pren neu arallgyfeirio.
Cael y cyngor cywir
Angen help o'r cychwyn cyntaf?
Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig sesiynau unigol am ddim efo cynghorydd arbenigol ar goetiroedd ac amaeth-goedwigaeth.
Mae cefnogaeth arall yn cynnwys:
- Cymorth wedi’i gymhorthdalu wedi’i deilwra i’ch fferm.
- Hyd at 15 awr o Fentora wedi’i ariannu’n llawn ar ddatblygiad busnes, technegol a datblygiad personol.
- Prosiectau ymarferol (Agrisgôp) sy’n profi syniadau newydd, gan gynnwys plannu coed.
Yn barod ar gyfer prosiect coetir mwy?
Gall Cynlluniwr Coetiroedd Cofrestredig ddatblygu'r cynllun.
Angen gwirio'r rheolau amgylcheddol?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu canllawiau amgylcheddol a rheoleiddiol.
Darparwyr cyngor allanol
Os ydych chi'n sefydliad dielw sy'n gallu cynghori ffermwyr ar sut y gall plannu coed fod o fudd i'w mentrau ffermio, cysylltwch â PolisiCoedwigaeth.ForestryPolicy@gov.wales i drafod cael eich rhestru yma.
Mae grantiau ar gael
Gall grantiau dalu am fwy na choed. Gall cyllid gwmpasu cynllunio, plannu, ffensio, a thaliadau cynnal a chadw tra bo'r coetir yn sefydlu. Isod ceir enghraifft o faint o gyllid y gallech ei gael ar gyfer plannu coetir 0.3 ha.
| Enghraifft: 0.3 hectar o goetir brodorol drwy'r Grant Creu Coetir Bach | |
|---|---|
| Cyngor penodol i'r fferm | £300.00 |
| Plannu (330 o goed) | £1,078.20 |
| Ffensio stoc (220 metr) | £1,832.60 |
| Taliadau cynnal a chadw (cyfanswm) | £500.40 |
| Taliadau premiwm (cyfanswm) | £1,393.20 |
Cymhelliant coed llydanddail brodorol
| £247.50 |
| Cyfanswm dros gyfnod y prosiect 12 mlynedd | £5,351.90 |
Dod o hyd i grant sy’n addas i’ch fferm
Noder, os byddwch yn gwneud cais am gyllid i gyflawni’r gwaith plannu arfaethedig, bydd angen i’ch cynigion fodloni gofynion y cynllun yr ydych yn gwneud cais iddo.
- Grant Creu Coetir Bach – ar gyfer plannu coetir syml rhwng 0.1 a 1.99 hectar, y tu allan i ardaloedd sensitif.
- Cynllun Cynllunio Creu Coetir – £1,000 i £5,000 tuag at gymorth proffesiynol i gynllunio prosiectau coetir mwy neu fwy cymhleth.
- Grant Creu Coetir – ar gyfer prosiectau mwy neu fwy cymhleth, gan gynnwys coed amaeth-goedwigaeth gwasgaredig ar raddfa fwy.
- Ffermio Bro – cyllid a arweinir yn lleol ar gyfer prosiectau coed, perthi/gwrychoedd a natur ehangach mewn Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol.
- Cyfalaf – Amgylchedd – ar gyfer plannu perthi/gwrychoedd a choed unigol.
