Neidio i'r prif gynnwy

Darparu cymorth ariannol i ddefnyddio cynllunydd coetir cofrestredig i ddatblygu cynllun creu coetir ar gyfer arwynebedd o 0.25 hectar o leiaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn darparu cymorth ariannol i ddefnyddio cynllunydd coetir cofrestredig i ddatblygu cynllun creu coetir ar gyfer arwynebedd o 0.25 hectar o leiaf. Os yw'r arwynebedd yn llai na dau hectar, efallai y bydd modd gwneud cais i'r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir yn lle’r cynllun hwn.

Bydd y cynllun yn cael ei wirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau ei fod yn bodloni Safon Coedwigaeth y DU. Gellir wedyn defnyddio'r cynllun i wneud cais i'r Grant Creu Coetir am gyllid i blannu'r coed.

Pwy sy'n cael gwneud cais

Mae'r cynllun wedi cael ei gynllunio i ffermwyr, perchnogion tir eraill a rheolwyr tir wneud cais am gyllid i ddefnyddio cynllunydd coetir cofrestredig i greu cynllun creu coetir.   

Yr hyn mae'r cynllun yn ei gynnig

Mae'r cynllun yn darparu grantiau rhwng £1,000 a £5,000 ar gyfer:

  • Cyngor proffesiynol gan Gynllunydd Coetir Cofrestredig
  • Datblygu cynllun creu coetir sy'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU, wedi'i wirio gan CNC ac yn ddilys am bum mlynedd

Mae'r cymorth yn talu 80% o gost cynnal arolygon arbenigol o gynefinoedd neu rywogaethau fel:

  • ystlumod
  • adar bridio
  • llystyfiant
  • mawn

Sut i wneud cais

Gall yr ymgeisydd neu gynllunydd coetir cofrestredig wneud cais ar Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein drwy gyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Mae'r cynllun ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Mae CNC yn cynnig gwasanaeth cyn-ymgeisio yma Y Tîm Gwirio Cynlluniau Coetir, i drafod y cynnig creu coetir cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb, i sicrhau bod y safle yn addas ar gyfer plannu coed.

Mae rhagor o wybodaeth am:

  • sut i wneud cais
  • canllawiau technegol
  • rheolau'r cynllun
  • telerau ac amodau
  • chanllawiau sut i lenwi

ar gael yn Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Rhagor o wybodaeth

Mae rhestr o Gynllunwyr Coetir Cofrestredig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Gallwch ddefnyddio'r rhain i baratoi eich cynllun creu coetir.

Mae gwasanaeth cyn-ymgeisio CNC ar gael yma Y Tîm Gwirio Cynlluniau Coetir, fel y gallwch drafod y cynnig creu coetir

Ceir cyngor technegol gan Cyswllt Ffermio a Hyb Creu Coetiroedd CNC.