Rt Hon Rhun ap Iorwerth MS, First Minister of Wales
Yn ystod chwe mis cyntaf tymor y Senedd hon, rydym wedi cymryd camau i ailosod y berthynas â Llywodraeth y DU, gan ddadlau’r achos i Gymru gael ei thrin â thegwch a pharch ar bob cyfle. Rwyf wedi ymwneud â Phrif Weinidog y DU yn yr ysbryd hwnnw, yn ddidwyll ac ag uchelgais ar gyfer yr hyn y gall ein llywodraethau ei gyflawni gyda’i gilydd, gan geisio gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Fel sydd wedi’i adrodd yn y cyfryngau yn ystod y dyddiau diwethaf, cefais lythyr gan Brif Weinidog y DU ddydd Gwener 20 Tachwedd. Roedd hwn yn ymateb i lythyr a ysgrifennais ato ar 1 Hydref, y nodais ynddo ein blaenoriaethau ar gyfer datganoli pellach, gan geisio sicrhau ein bod yn cael y cyllid a’r pwerau i wella bywydau pobl ym mhob cymuned. Gellir gweld y ddau lythyr yma.
Er fy mod yn falch bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran hyblygrwydd cyllidol, ac y bydd fy nghynnig am Bartneriaeth ar gyfer Twf yn ganolog i’r trafodaethau ar yr economi, mae ymateb Prif Weinidog y DU yn siomedig iawn.
Mae’r gwrthod hyd yn oed i ystyried datganoli Ystad y Goron, cyfiawnder a phlismona, a seilwaith rheilffyrdd yn profi nad yw Prif Weinidog y DU yn gweld Cymru fel cenedl gyfartal.
Mae’r achos i Gymru gael rheolaeth dros y meysydd cyfrifoldeb hyn – yn union fel yr Alban – yn un cryf. Mae sawl comisiwn wedi dadlau o blaid datganoli cyfiawnder a phlismona, ond mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn ffafrio rhoi ideoleg unoliaethol o flaen tystiolaeth gadarn.
Nid sicrhau mwy o bwerau dim ond er mwyn gwneud hynny yw nod y llywodraeth hon. Mae’r setliad presennol yn annheg, yn anghyfiawn ac yn anghynaliadwy. Nid yw Cymru yn cael y cyfle i elwa ar ei hadnoddau naturiol, i gael cyfran deg o’r buddsoddiad mewn rheilffyrdd, nac i ddatblygu system gyfiawnder sy’n diwallu anghenion ein pobl.
Mae’r achos, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, dros ddatganoli pellach yn gryf, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â’n gwaith i sicrhau hyn. Rwy’n bwriadu gwneud Datganiad Llafar ynghylch y mater hwn yfory. Gweler hefyd ynghlwm fy ymateb i lythyr Prif Weinidog y DU er gwybodaeth i’r Aelodau.
