Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad yr adolygiad annibynnol o ansawdd arweinyddiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymyrraeth lefel 5 ym mis Mehefin.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bod ar y lefel uwchgyfeirio uchaf ers 27 Chwefror 2023, gan adlewyrchu pryderon hirsefydlog a difrifol. Er gwaethaf ymyriadau blaenorol, mae'r sefydliad yn parhau i wynebu heriau sylweddol, yn parhau i gyflawni canlyniadau cymharol wael, ac nid oes ganddo'r capasiti na'r gallu digonol i sicrhau'r graddau a'r cyflymder o welliant sydd eu hangen.
Yn wahanol i ddulliau blaenorol, a oedd yn dibynnu ar y bwrdd iechyd yn arwain ei adferiad ei hun gyda chymorth allanol, rhoddodd yr ymyrraeth hon, a gyhoeddais ym mis Mehefin, Perfformiad a Gwella'r GIG Cymru yn y rôl arweiniol.
Mae'r methiannau hyn yn gwbl annerbyniol. Rwyf hefyd yn rhannu rhwystredigaeth ddealladwy staff a chleifion ledled gogledd Cymru ynghylch y diffyg cynnydd o ran gwella gwasanaethau a safonau gofal a gwreiddio'r gwelliannau hynny.
Cynhaliwyd yr adolygiad gan banel adolygu annibynnol o bum arweinydd profiadol yn y GIG, a oedd yn cynnig profiad uwch ym maes arweinyddiaeth weithredol, strategol a meddygol. Cafodd y panel gymorth gan grŵp cyfeirio o arbenigwyr, a ddarparodd gyngor ar gyd-destun Cymru a chanllawiau i lywio'r adolygiad.
Mae'r adroddiad yn nodi nad yw'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn dangos yr amodau sefydliadol sydd eu hangen i gyflawni a chynnal gwelliant dibynadwy. Nid yw'n gweithredu fel un sefydliad cydlynol, ac mae llywodraethiant y bwrdd yn anaeddfed, gan effeithio ar allu'r bwrdd iechyd i gyflawni ei atebolrwydd yn ddigonol.
Mae'r adroddiad yn nodi gwendidau sefydliadol cysylltiedig sydd wedi bodoli ers amser maith, ac yn argymell gweithredu fesul cam i sefydlogi, gwella a chynnal. Mae hyn yn gofyn am lywodraethiant, atebolrwydd a sicrwydd cryfach; arweinyddiaeth sefydlog a chydlynol; cynllun gwella integredig; a chamau gweithredu parhaus i feithrin diwylliant mwy cadarnhaol a chynhwysol, gan greu'r amodau sydd eu hangen i gyflawni gwelliant dibynadwy a chynaliadwy.
Hoffwn ddiolch i aelodau'r panel annibynnol am eu gwaith trylwyr ac am lunio adroddiad manwl. Rwy'n derbyn pob un o'r 21 o argymhellion, a fydd yn rhoi eglurder a chyfeiriad i'r bwrdd iechyd ac yn sicrhau bod casgliadau'r adroddiad yn llywio gwelliannau yn y dyfodol yn uniongyrchol.
Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at yr amgylchiadau heriol y mae staff yn gweithio ynddynt, a'r angen i wrando arnynt, eu cynnwys yn ystyrlon a'u grymuso i gyfrannu at wella. Rwy'n ddiolchgar i'r staff am eu gwaith parhaus yn gofalu am gleifion ac am rannu eu profiadau â'r panel. Bydd eu cyfraniad yn ganolog i ddatblygu diwylliant mwy cadarnhaol a chynhwysol ac i gyflawni gwelliant cynaliadwy.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar y prynhawn yma a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am yr ymateb i'r adroddiad.
