Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg o Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2027.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cadarnhau cyfraddau taliadau a newidiadau i’r Haen Gyffredinol ar gyfer 2027

Ar 27 Tachwedd, cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ddatganiad ar fanylion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy cyn blwyddyn 2027 y cynllun. Mae'r datganiad yn cynnwys gwybodaeth gan gynnwys addasiadau i'r Gweithredoedd Cyffredinol, cymhwystra tir a thaliadau'r cynllun. Mae rhai manylion ychwanegol wedi'u cynnwys isod.

Cyllideb y cynllun a thaliadau ar gyfer 2027

Mae'r llywodraeth hon eisoes wedi cadarnhau ymrwymiad o £1 biliwn i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys £238 miliwn ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Chynllun gwaddol y Taliad Sylfaenol (BPS), a £102 miliwn i gyflwyno'r Haenau Dewisol a Chydweithredol, yn 2027.

Byddwn yn cynnal Taliadau Sylfaenol Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer 2027 ar yr un gyfradd ag a gyhoeddwyd yn 2026. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Taliad Fferm Gyfan: £70 yr hectar am y 70 hectar cyntaf, ac yna £2 yr hectar wedi hynny
  • cynnal Cynefinoedd. £69 yr hectar
  • cynnal Coetir £62 yr hectar
  • Taliad Gwerth Cymdeithasol: £107 yr hectar ar gyfer yr holl dir cymwys sy'n weddill

Yn ogystal, er mwyn cefnogi ffermydd llai sydd eisoes yn y cynllun neu sy'n dymuno ymuno yn 2027, bydd y taliad sefydlogrwydd o £1000 ar gael i bob busnes fferm cymwys yn Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd â 100 hectar neu lai o dir cymwys (gan gynnwys tir comin).

Byddwn yn parhau i osod cap ar daliadau sy'n mynd uwchlaw trothwyon penodedig.

Os dewiswch aros yn rhan o Gynllun y Taliad Sylfaenol, bydd taliadau 2027 yn seiliedig ar 40% o werth yr hawl o'i gymharu â llinell sylfaen 2025.

Gweithredoedd Cyffredinol

Mae tair Gweithred Gyffredinol wedi'u haddasu ar gyfer 2027. Bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi yng nghanllawiau'r cynllun. Ni fydd newid i unrhyw Weithred Gyffredinol arall.

Gweithred Gyffredinol 4: Datblygiad Proffesiynol Parhaus (elfen Iechyd a Diogelwch)

Nid oes newid i ofynion UA4. Yn yr un modd â 2026, mae'n cynnwys chwe awr o ddysgu mewn perthynas â'r amcanion Rheoli Tir Cynaliadwy, ynghyd ag awr o ddysgu sy'n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch.

Mae rhestr estynedig o fodiwlau eDdysgu Cyswllt Ffermio ynghylch Iechyd a Diogelwch (gan gynnwys pynciau fel gweithio ar uchder, a phlant ar ffermydd) ar gael.

Bydd gofyn i ymgeiswyr newydd gwblhau un o fodiwlau eDdysgu Cyswllt Ffermio ar Iechyd a Diogelwch yn 2027.

Gall ymgeiswyr ail flwyddyn ddewis ymgymryd ag un o'r modiwlau eDdysgu ehangach hyn, neu ddewis dysgu sy'n gysylltiedig ag Iechyd a Diogelwch y tu allan i gwmpas Cyswllt Ffermio, megis Cymorth Cyntaf, neu ddysgu mewn perthynas ag iechyd meddwl.

Gweithred Gyffredinol 6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella

Nid yw'r Weithred Gyffredinol hon ond yn berthnasol i fusnesau fferm sydd heb ddigon o gynefin presennol i fodloni gofyniad y cynllun am 10% o gynefin fesul fferm.

Mae dau fath ychwanegol o greu cynefin wedi'u hychwanegu ar gyfer 2027 i ddarparu mwy o ddewis a hyblygrwydd:

  • grawnfwyd gwanwyn heb ei chwistrellu gyda gwyndwn cymysg wedi'i hau dan ei hun
  • meillion coch gydag arwynebedd cnydau bywyd gwyllt

Mae'r opsiwn presennol ar gyfer Cnwd Gorchudd Bywyd Gwyllt yn aros yr un fath ac eithrio bod dyddiad sefydlu'r cnwd wedi'i newid o 15 Mai i 15 Gorffennaf er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi.

Efallai y bydd ymgeiswyr newydd yn 2027 am ystyried defnyddio'r Weithred Ddewisol ar gyfer creu cynefin dros dro i helpu i fodloni gofynion UA6. Mae mwy o fanylion ar gael yn nes ymlaen yn yr erthygl hon. Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn gwneud cais am gyllid ar gyfer offer fel ffens drydan o dan Gyfalaf – Cynhyrchu ac Effeithlonrwydd.

Gweithred Gyffredinol 8: Rheoli perthi/gwrychoedd

Nid oes unrhyw newid i'r gofynion rheoli gwrychoedd o'i gymharu â 2026,, gan gynnwys mewn perthynas â rheoli gwrychoedd sy'n cael eu torri yn flynyddol.

Fodd bynnag, os gwnaethoch ymuno â Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026 a thorri pob gwrych ar eich fferm, byddwch yn gallu torri 50% o'r un gwrychoedd yn 2027 os dymunwch, cyn i chi sefydlu eich patrwm torri bob dwy flynedd.

Pwrpas y toriad pob dwy flynedd yw cynyddu faint o fwyd sydd ar gael i fywyd gwyllt ar y rhywogaethau gwrych hynny sy'n cynhyrchu blodau ac aeron ar dwf ail flwyddyn, nad yw ar gael pan gaiff y gwrych ei thorri'n flynyddol. Dyma enghraifft o'r manteision amgylcheddol cynyddol y mae'r taliad Gwerth Cymdeithasol wedi'i gynllunio i'w hadlewyrchu.

Gweinyddu’r cynllun

Fel rhan o'r adolygiad parhaus o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol, byddwn yn gwneud y newidiadau canlynol i weinyddu'r cynllun o 2027 ymlaen:

  • byddwn yn dileu'r gofyniad gorfodol i gadw Dyddiaduron Gweithgarwch ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o gynefin a gynhelir ac a grëir o dan Weithred Gyffredinol 5 a Gweithred Gyffredinol 6. Fodd bynnag, mae angen Dyddiadur Stocio o hyd os oes gennych fath cynefin Ucheldiroedd Agored o dan Weithred Gyffredinol 5. Er nad yw dyddiaduron yn orfodol ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o gynefin, rydym yn dal i argymell eich bod yn cadw'r cofnodion hyn fel arfer da
  • byddwn yn cynyddu faint o wybodaeth a ddefnyddir i rag-lenwi eich Dangosfwrdd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn awtomatig er mwyn lleihau faint o ddata y mae angen i chi ei fewnbynnu â llaw
  • yn ogystal â'r canllawiau cynllun manwl llawn y mae angen inni eu cyhoeddi cyn blwyddyn y cynllun 2027, rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi canllaw cryno i Weithredoedd Cyffredinol ochr yn ochr ag agor ffenestr SAF ym mis Mawrth), fel pwynt cyfeirio haws i chi
  • cyn haf 2027 byddwn yn sefydlu dull mwy rhagweithiol o fonitro amodau tywydd eithafol er mwyn ystyried defnyddio eithriadau rhanbarthol neu genedlaethol neu hawddfreintiau dros dro, er mwyn lleihau nifer y gwyriadau unigol y gallai fod eu hangen
  • ni fyddwn yn casglu canlyniadau profion pridd o dan Weithred Gyffredinol 1 yn 2027. Cyn 2028 byddwn yn archwilio prosesau mwy effeithlon i gasglu'r data er mwyn lleihau faint o adrodd â llaw sy'n ofynnol gennych

Rydym eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i integreiddio'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) a gofynion Asesu Bioddiogelwch Stoc Sy'n Dod i Mewn (BAIS) o dan Weithred Gyffredinol 12 â'r Cynlluniau Sicrwydd Ffermydd a fydd ar waith o 2027 ymlaen. Os ydych yn aelod o'r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL), y Tractor Coch neu Pasture for Life, byddwch yn bodloni'r gofynion hynny drwy eich gweithgareddau sicrwydd.

Fel atgof ar gyfer 2026, os ydych yn aelod o un o'r cynlluniau sicrwydd hyn, nid oes angen i chi gwblhau AHIC ar wahân, ond mae angen i chi gwblhau'r asesiad bioddiogelwch ar wahân. Ni fydd elfennau eraill o UA12, megis symudedd a sgorio'r corff, yn newid yn sgil yr integreiddio yma o'r cynllun sicrwydd ac mae'n rhaid eu cwblhau ar wahân o hyd.

Cymhwystra tir

Mae'n ofynnol i chi gael rheolaeth ar dir am o leiaf ddeg mis o'r flwyddyn galendr er mwyn hawlio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Yn 2026 fe gyflwynwyd eithriad lle gallech gynnwys tir nad oedd gennych reolaeth arno am ddeg mis, pe baech yn dod yn Denant Busnes Fferm am o leiaf dair blynedd cyn 15 Mai.

Bydd yr eithriad hwn bellach yn dod yn faen prawf cymhwystra parhaol a bydd hefyd yn ymestyn i bryniannau tir a gwblhawyd erbyn 15 Mai.

Rydych yn parhau i fod yn atebol am sicrhau bod gofynion y cynllun a'r Gweithredoedd Cyffredinol perthnasol yn cael eu bodloni ar y tir hwn, ac mae'n parhau'n destun archwiliad cynllun os cewch eich dewis.

Rydym wedi egluro'r diffiniad o goetir fferm ac amaeth-goedwigaeth, y gellir ei hawlio a'i gynnwys yn eich arwynebedd cymwys ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy os yw wedi'i integreiddio yn eich daliad fferm neu'n rhan o'ch busnes fferm cyffredinol. Nid yw coetir sy'n cael ei reoli fel coedwigaeth neu fenter arall ar wahân i'r busnes fferm yn cael ei ystyried yn goetir fferm ac nid yw'n gymwys ar gyfer taliadau Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Haen Opsiynol a Haen Gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Rydym eisoes wedi cyflwyno sawl categori dewisol yn 2026, a bydd rhagor o gategorïau ar gael dros y misoedd nesaf. Gallwch weld dyddiadau dros dro ar gyfer cyflwyno categorïau dewisol pellach. Nodwch, ar gyfer sawl categori, fod ffenestri'r cymwysiadau bellach yn agored i'ch galluogi i gyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg sy'n addas i chi.

Mae llawer o gategorïau dewisol ar gael i bob busnes fferm; fodd bynnag, nid yw rhai ond ar gael os ydych wedi ymuno â Haen Gyffredinol y cynllun.

Disgwylir i gategori creu cynefin dros dro (tebyg i'r cynllun blaenorol Tyfu er mwyn yr Amgylchedd) agor yn fuan. Mae hyn ar gael i bawb, ac mae'n cynnwys cymorth ar gyfer sefydlu cnydau megis gwyndynnydd cymysg, grawnfwydydd heb eu chwistrellu a chnydau protein gan gynnwys meillion coch.

Mae opsiynau glaswellt newydd sy'n goddef sychder hefyd wedi'u cyflwyno i annog plannu rhywogaethau gwreiddiau dwfn sy'n goddef amodau sych. Gallai hyn fod o fudd i chi cyn yr haf sych arall a ddisgwylir yn 2027.

Os ydych yn ymgeisydd newydd i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2027 ac angen creu cynefin ychwanegol o dan Weithred Gyffredinol 6 i gyrraedd gofyniad y cynllun am 10% o gynefin, gall rhai o'r cnydau hyn gyfrif tuag at y gofyniad hwnnw.

Bydd ein categori newydd Cynhyrchu Cynaliadwy ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf. Nid yw'r categori hwn ond ar gael os gwnaethoch ymuno â Haen Gyffredinol y cynllun yn 2027 oherwydd dibyniaeth ar gwblhau Dangosyddion Perfformiad Allweddol penodol o dan Weithred Gyffredinol 3 Meincnodi.

Mae'r categori Cynhyrchu Cynaliadwy yn cynnwys gweithred gweithredu Oedran i Lladd , a gynlluniwyd i gefnogi gorffenwyr gwartheg i wella effeithlonrwydd buches a lleihau'r oedran pryd y caiff gwartheg gorau eu lladd. Gall gwelliannau mewn rheoli da byw, hwsmonaeth, maeth ac iechyd anifeiliaid helpu i gyflawni mwy o effeithlonrwydd cynhyrchiol tra'n lleihau allyriadau.

Mae Gweithred Ddewisol i gynyddu Cofrestriad Tad hefyd wedi'i chynnwys, a fydd yn eich cymell i gofnodi gwybodaeth swyddogol am y tadau wrth gofrestru lloi. Bydd gwella argaeledd data genetig gwartheg yng Nghymru yn cefnogi Gwerthusiadau Cenedlaethol Cig Eidion, yn galluogi penderfyniadau bridio mwy gwybodus ac yn cyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o'r sector gwartheg.

Rydym yn cydnabod y pryderon ynghylch gostyngiad yn niferoedd gwartheg yng Nghymru a'r pwysau sy'n wynebu cynhyrchwyr a phroseswyr fel ei gilydd. O ystyried y cefndir hwn, rydym yn datblygu opsiynau cymorth pellach o dan Gynhyrchu Cynaliadwy, gyda ffocws cychwynnol ar brofi genomig da ifanc llaeth a chefnogaeth i gynhyrchwyr gwartheg sugno i wella cyfnodau lloia. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law.

Bydd estyniad yn cael ei gynnig i gytundebau Cynllun Tir Comin Cynefin Cymru ar gyfer 2027.

Y camau nesaf

Bydd canllawiau'r cynllun ar gyfer 2027 yn cael eu cyhoeddi ganol mis Rhagfyr cyn blwyddyn 2027 y cynllun.

Byddwn yn dechrau dyrannu taliadau balans neu daliadau llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o ganol mis Rhagfyr ymlaen. Ni fyddwch ond yn derbyn y taliadau hyn os ydych wedi cwblhau eich Gweithredoedd Cyffredinol perthnasol erbyn 31 Rhagfyr a'ch bod wedi diweddaru eich Dangosfwrdd Cyffredinol ar RPW Ar-lein erbyn 15 Ionawr 2027.

I adlewyrchu'r ffaith bod tymor 2026 wedi bod yn dymor heriol iawn, bydd £5 miliwn ychwanegol ar gael a bydd yn cael ei ddosbarthu ar draws Gweithredoedd Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Chynllun y Taliad Sylfaenol.