Neidio i'r prif gynnwys

Sut i gyflwyno cais am gymorth os mai olew gwresogi neu LPG yw eich prif ddull gwresogi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion y cyllid a phwy sy'n gymwys

C. Pwy sy'n gymwys ar gyfer y cyllid?

A. Aelwydydd incwm isel sy'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) ac mae eu prif system wresogi yn defnyddio olew gwresogi neu LPG.

C. Sut mae gwneud cais?

Os cawsoch chi daliad o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid blaenorol ac rydych yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer CTRS, mae'n bosibl y bydd eich awdurdod lleol yn gallu gwneud y taliad o £250 yn awtomatig ac efallai na fydd angen ichi wneud dim.

Os na chawsoch chi daliad o dan y cynllun blaenorol, bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â chi'n uniongyrchol os ydych yn gymwys ac yn eich gwahodd i wneud cais. Gofynnir ichi ddarparu tystiolaeth mai olew gwresogi neu LPG yw eich prif danwydd gwresogi a darparu manylion eich cyfrif banc.

C. Pa fath o danwydd sy'n cael ei gefnogi o dan y Cynllun Cymorth Olew Gwresogi ac LPG?

A. Mae'r cynllun yn cefnogi cartrefi incwm isel mai olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol (LPG) yw eu prif ffynhonnell wresogi.

C. Beth yw cyfanswm gwerth y cynllun?

A. Fel rhan o becyn £130 miliwn Llywodraeth Cymru i helpu aelwydydd â'u costau byw cynyddol y gaeaf hwn, cafodd £5 miliwn ohono ei neilltuo i helpu aelwydydd incwm isel nad ydyn nhw ar y grid nwy gyda chost eu tanwydd.

C. Faint o arian y bydd aelwyd gymwys yn ei gael?

A. Bydd aelwydydd cymwys yn cael taliad untro o £250 os oes ganddyn nhw hawl i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) ac mai olew gwresogi neu LPG yw eu prif danwydd gwresogi.

C. Pam mae'r taliad yn £250 y tro hwn, o'i gymharu â £200 yn flaenorol?

A. Mae'r taliad wedi cael ei gynyddu o £200 i £250 i adlewyrchu costau uchel cyson olew gwresogi ac LPG, sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol. Felly, mae taliad o £250 yn adlewyrchu'n fras y costau ychwanegol mae llawer o aelwydydd yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

C. Sut bydd aelwydydd incwm isel yn cael y taliad hwn?

A. Bydd yr arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'w cyfrif banc.

C. Sawl gwaith y caiff aelwydydd hawlio a chael taliad?

A. Unwaith Bydd aelwydydd incwm isel cymwys yn cael un taliad o £250.

C. Pryd bydd y cynllun yn agor?

A. Bydd y cynllun yn agor as 30 Tachwedd. Bydd awdurdodau lleol yn dechrau prosesu taliadau a chysylltu ag aelwydydd cymwys cyn gynted â phosibl ar ôl lansio'r cynllun. Mae'n bosibl y bydd aelwydydd a gafodd daliad o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid blaenorol ac sy'n parhau i fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) yn cael y taliad o £250 yn awtomatig, a bydd awdurdodau lleol yn ceisio gwneud y taliadau hyn cyn gynted â phosibl.

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn dechrau cysylltu ag aelwydydd eraill a allai fod yn gymwys ac yn eu gwahodd i wneud cais.

C. A oes dyddiad targed ar gyfer gwneud taliadau?

A. Oes. Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 28 Chwefror 2027, a bydd awdurdodau lleol yn anelu at wneud pob taliad erbyn 31 Mawrth 2027.

C. Sut mae'r cynllun yn cael ei weinyddu?

A. Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol.

C. Pa dystiolaeth sydd ei hangen i ddangos bod cartref yn defnyddio olew gwresogi neu LPG?

A. Bydd angen i awdurdodau lleol fod yn fodlon mai olew gwresogi neu LPG yw prif danwydd gwresogi aelwydydd sy'n cael cymorth.

C: Beth sy'n digwydd os prynais i fy olew gwresogi neu LPG oddi wrth garej neu fanwerthwr lleol a dim ond derbynneb til sydd gen i, neu ddim derbynneb o gwbl?

A: Rydyn ni'n cydnabod bod rhai aelwydydd yn prynu meintiau llai o olew gwresogi neu LPG oddi wrth garejys, gorsafoedd petrol neu fanwerthwyr lleol, ac efallai nad oes ganddyn nhw anfoneb ffurfiol gan y cyflenwr.

Os nad oes anfoneb ffurfiol ar gael, byddwn yn derbyn tystiolaeth arall o brynu, fel derbynneb til garej, derbynneb talu â cherdyn neu ddatganiad banc sy'n dangos y trafodiad, lle bynnag y bo modd.

Os nad oes gennych unrhyw dderbynneb na thystiolaeth arall, dylech barhau i gyflwyno cais ac egluro eich amgylchiadau. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am wybodaeth ychwanegol i helpu i wirio eich bod yn gymwys.

C. A oes rhaid i aelwydydd aros i'r awdurdod lleol gysylltu â nhw cyn y gallan nhw wneud cais?

Dylai aelwydydd aros i glywed gan eu hawdurdod lleol. Mae'n bosibl y bydd aelwydydd a gafodd daliad o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid blaenorol ac sy'n parhau i fod yn gymwys ar gyfer CTRS gael y taliad yn awtomatig. Bydd awdurdod lleol aelwydydd eraill a allai fod yn gymwys yn cysylltu â nhw a'u gwahodd i wneud cais.

C. Pa mor gyflym y gall aelwydydd ddisgwyl cael y taliad?

A. Anogir awdurdodau lleol i ddarparu taliadau i aelwydydd cymwys mewn modd amserol, a dylid gwneud taliadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl i benderfyniad i dalu gael ei wneud.

C. A fydd angen i aelwydydd sy'n talu eu treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol ar hyn o bryd ddarparu eu manylion banc eto?

A. Dim bob tro. Mae'n bosibl y bydd aelwydydd a gafodd daliad o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid blaenorol ac sy'n parhau i fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) ar 1 Tachwedd 2026 gael y taliad o £250 yn awtomatig ac efallai na fydd yn ofynnol iddyn nhw ddarparu eu manylion banc eto.

Bydd aelwydydd na chawson nhw daliad o dan y cynllun blaenorol yn cael eu gwahodd i wneud cais, a gofynnir iddyn nhw ddarparu manylion eu cyfrif banc. Gofynnir iddyn nhw hefyd ddarparu tystiolaeth mai olew gwresogi neu LPG yw'r prif danwydd gwresogi a ddefnyddir yn eu heiddo.

C. Sut mae aelwydydd yn diogelu eu hunain rhag sgamiau?

A. Cynghorir aelwydydd i beidio â chysylltu ag unrhyw drydydd partïon sy'n hysbysebu i'w helpu i hawlio'r taliad hwn Gallai fod yn sgam. Dim ond adran Treth Gyngor a Budd-daliadau eu hawdurdod lleol fydd yn talu'r taliad hwn. Bydd wedi cael hyd i unigolion cymwys gan ddefnyddio data Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

C. A all aelwydydd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â rhoi taliad?

A. Nid oes hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i beidio â rhoi taliad. Ni fydd pobl y gwrthodir dyfarnu taliad iddyn nhw yn gymwys am nad ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf cymhwystra.

C. Mae deiliad tŷ yn berchen ar ddau gartref yng Nghymru, a yw'n gymwys ar gyfer cymorth drwy'r cynllun?

A. Dim ond ar gyfer y cartref y mae'n byw ynddo fel prif breswylfa (os mai

un o'r cartrefi hyn yw ei brif breswylfa). Nid yw ail gartrefi

wedi'u cynnwys yn y cynllun.

C. A gaiff aelwyd sy'n cael CTRS sydd wedi symud yn ddiweddar i eiddo sy'n defnyddio olew neu LPG hawlio'r taliad hwn?

A. Caiff Mae'n bosibl y bydd aelwydydd yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer cymorth os ydyn nhw wedi symud cartref yn ddiweddar. Mae'n bosibl y bydd aelwydydd a gafodd daliad o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid blaenorol ac sy'n parhau i fod â hawl i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) ar 1 Tachwedd 2026 gael cymorth o hyd, hyd yn oed os ydyn nhw wedi newid cyfeiriad. Bydd angen i awdurdodau lleol fod yn fodlon bod yr aelwyd yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun ac yn parhau i fyw mewn eiddo oddi ar y grid.

C. Beth sy'n digwydd os bydd ymgeisydd yn marw ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus, ond cyn i'r taliad glirio?

A. Os oedd ymgeisydd yn fyw pan gyflwynodd ei gais a chafodd ei gais ei gymeradwyo, bydd hawl i'r taliad yn parhau. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai ysgutor neu weinyddwr ystad yr ymgeisydd gysylltu â'r awdurdod lleol a chyflwyno tystiolaeth bod ganddo'r awdurdod i weithredu ar ran yr ystad. Wedyn gall yr awdurdod lleol drefnu i'r taliad o £250 gael ei wneud ar ran yr ystad.

C. Sut mae awdurdodau lleol yn gwybod bod perchennog yr aelwyd sy'n derbyn Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn talu'r bil gwresogi hefyd?

A. Gall awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r cynllun dybio'n rhesymol fod aelwyd sy'n atebol i dalu'r dreth gyngor hefyd yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau a'r biliau rheolaidd eraill.

C. Pam na all awdurdodau lleol wneud y taliad yn awtomatig i aelwydydd incwm isel.

A. Mae'n bosibl y bydd aelwydydd yn cael y taliad o £250 yn awtomatig os cawson nhw daliad o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid blaenorol a bod nhw'n parhau i fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) ar 1 Tachwedd 2026.

Ar gyfer aelwydydd eraill, mae angen i awdurdodau lleol gadarnhau eu bod yn cymwys, casglu tystiolaeth mai olew gwresogi neu LPG yw eu prif danwydd gwresogi a chael manylion cyfrif banc cyn y gellir gwneud taliad.

C. Sut byddwn yn cysylltu ag aelwydydd?

A. Bydd pob awdurdod lleol yn gyfrifol am gysylltu ag aelwydydd sy'n debygol o fod yn gymwys os ydyn nhw'n cael taliad o dan CTRS ac nad ydyn nhw ar y rhestr sydd ar gael o eiddo sy'n gysylltiedig â'r grid nwy. Bydd aelwydydd yn cael eu hysbysu am y taliad ac yn cael gwybod sut y gallan nhw gyflwyno tystiolaeth eu bod yn defnyddio olew gwresogi/LPG, a gofynnir iddyn nhw ddarparu manylion banc er mwyn i'r taliad gael ei wneud. Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio pa bynnag fformat y maen nhw'n ei ystyried yn briodol, yn unol â'r manylion cyswllt sydd ganddyn nhw.

C. Sut bydd awdurdodau lleol yn gwirio hunaniaeth y deiliad tŷ a'i bartner yn ystod y broses gofrestru?

A: Disgwylir i awdurdodau lleol ddefnyddio'r wybodaeth wedi'i chyflwyno drwy'r broses gofrestru, ynghyd â chofnodion presennol treth gyngor neu Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS), i wirio hunaniaeth y deiliad tŷ a'i bartner. Os ydyn nhw'n dymuno, gall awdurdodau lleol wneud gwiriad manylach. Dylid egluro unrhyw wiriadau ychwanegol yn glir yn ystod y broses gofrestru.

C. Os yw rhywun eisoes wedi cael taliad o'r Gronfa Cymorth Dewisol, a oes hawl ganddo o hyd i gael taliad o dan y Cynllun Cymorth Olew Gwresogi a LPG o £250? A: Oes. Mae'r cynllun yn annibynnol, caiff unrhyw un sy'n gymwys gael y taliad o £250 hyd yn oed os yw eisoes wedi cael taliad o'r Gronfa Cymorth Dewisol.

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

C. Beth yw'r dyddiad cymhwyso ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cefnogi Olew Gwresogi a LPG.

A. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cymorth, rhaid i aelwyd fod yn cael taliadau o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) ar 1 Tachwedd 2026. Nid yw aelwydydd nad oedden nhw'n cael taliadau CTRS ar y dyddiad hwnnw yn gymwys ar gyfer y cynllun.

C. Sut ydw i'n gwybod a ydw i'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor?

A. Byddwch wedi cael llythyr gan eich awdurdod lleol yn cadarnhau hyn. Mae'n debygol y bydd gostyngiad gweladwy yn eich bil treth gyngor.

Pam cynllun wedi'i dargedu

C. Pam mae'r taliad wedi'i gyfyngu i aelwydydd sy'n defnyddio olew gwresogi neu LPG?

A. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi aelwydydd incwm isel yng Nghymru mai olew gwresogi neu LPG yw eu prif danwydd gwresogi. Mae'r aelwydydd hyn yn arbennig o agored i newidiadau ym marchnadoedd olew a LPG byd-eang. Mae'r gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol wedi cyfrannu at gostau tanwydd uwch oddi ar y grid, a nod y taliad yw helpu aelwydydd cymwys i dalu'r costau gwresogi ychwanegol hyn.

C. Pam mae'r meini prawf cymhwysedd wedi cael eu cyfyngu i'r aelwydydd hynny'n sy'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac nid pawb sy'n defnyddio olew gwresogi a LPG.

A. Nod y cynllun yw darparu cymorth wedi'i dargedu i aelwydydd incwm isel sy'n wynebu costau gwresogi uwch. Mae cymhwysedd ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) yn darparu ffordd sefydledig a chyson o nodi aelwydydd ar incwm isel. Mae defnyddio cymhwystra CTRS yn helpu i sicrhau bod cymorth yn cael ei gyfeirio at y rhai sy'n fwyaf tebygol o brofi caledi ariannol o ganlyniad i gostau uwch olew gwresogi ac LPG. Dylai aelwydydd sy'n credu ei bod yn bosibl y bydden nhw'n gymwys ar gyfer CTRS ond nad ydyn nhw'n ei gael ar hyn o bryd gysylltu â'u hawdurdod lleol

Gall y rhai mewn caledi ariannol difrifol nad ydyn nhw'n gymwys wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol. Mae newidiadau dros dro wedi cael ei wneud i ddarparu cymorth ychwanegol i aelwydydd yr effeithir arnyn nhw gan gostau olew gwresogi uchel. Mae'r dyfarniad uchaf ar gyfer olew gwresogi wedi'i gynyddu o £500 i £750, a gall pobl bellach wneud cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis, gan gydnabod y gallai rhai aelwydydd a gafodd gymorth yn gynharach yn y gaeaf gael trafferth eto gan fod prisiau'n parhau i fod yn uchel. Gellir gwneud ceisiadau drwy awdurdodau lleol a phartneriaid cronfeydd eraill fel cymdeithasau tai a sefydliadau'r trydydd sector fel Cyngor ar Bopeth.

Cymorth ychwanegol

C. Pa gymorth ychwanegol sydd ar gael i aelwydydd i helpu gyda'u costau gwresogi?

A. Mae dau welliant dros dro wedi cael eu gwneud i'r Gronfa Cymorth Dewisol i sicrhau cymorth gwell i bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd sy'n dibynnu ar danwydd oddi ar y grid:

  1. Dyfarniad Uwch
    • Mae'r taliad uchaf sydd ar gael am olew gwresogi wedi cael ei gynyddu i £750 fesul dyfarniad tra bydd prisiau'n parhau i fod yn uchel.
  2. Taliadau Amlach
    • Bellach gellir gwneud taliadau ddwywaith o fewn cyfnod treigl o 12 mis (unwaith yn unig yn flaenorol).
    • Rhaid i'r ddau daliad fod o leiaf tri mis ar wahân.

Mae'r Sefydliad Banc Tanwydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn darparu cymorth drwy ei Gynllun Cronfa Wres Genedlaethol i aelwydydd sy'n profi argyfwng tanwydd yng Nghymru. Mae'r cynllun yn darparu talebau tanwydd ar gyfer danfoniadau olew neu nwy i bobl nad ydyn nhw wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith cyflenwi nwy, gan helpu i sicrhau cymorth parhaus i aelwydydd sy'n talu ymlaen llaw sydd mewn perygl o ddatgysylltu eu hunain.

Yn ogystal, mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth yn darparu cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim ar effeithlonrwydd ynni i bob cartref yng Nghymru.