Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu ei hymrwymiad i wneud Cymru'n lle diogel i fenywod a merched, mewn uwchgynhadledd genedlaethol sy'n nodi deng mlynedd ers cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Yn yr uwchgynhadledd, a gynhaliwyd ar y cyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, daeth arweinwyr y sector cyhoeddus a'r sector arbenigol ynghyd i drafod ac ystyried y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud, a thrafod sut i weithredu'n gyflymach ar gamau sydd angen eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hwn.
Roedd goroeswyr yn greiddiol i'r uwchgynhadledd, gan rannu tystiolaeth bwerus am eu profiadau. Roedd eu cyfraniad yn atgoffa pawb o pam mae'r gwaith hwn yn parhau i fod yn hanfodol o hyd a pham mae'n rhaid i'w safbwyntiau barhau i gael eu hystyried wrth ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau ledled Cymru.
Hefyd, bu'r digwyddiad yn edrych ar y cynnydd a wnaed ers i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ddod i rym, gan gydnabod yr heriau sylweddol sy'n parhau i fodoli. Clywodd y cyfranogwyr am enghreifftiau o brofiad bywyd, lle mae gwasanaethau cyhoeddus wedi cydweithio i atal trais, amddiffyn dioddefwyr a mynd ar ôl y troseddwyr yn fwy effeithiol.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools:
Rydyn ni'n gwybod ac yn deall bod trais yn erbyn menywod a merched yn argyfwng sydd wedi magu gwreiddiau yn ein cymunedau, yn ein cartrefi, ac ym mywydau menywod a merched ledled Cymru a ledled y byd. Mae'r argyfwng yn ymylu ar fod yn epidemig.
Nawr yw'r amser i weithredu, nid yn unig er lles y rhai sy'n dioddef ar hyn o bryd, ond er lles cenedlaethau'r dyfodol o fenywod a merched ledled y byd. Yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol, gyda Ddeddf 2015 a thrwy dargedu cefnogaeth yn ein cymunedau ond, fel mae pawb yn gwybod, nid da lle gellir gwell.
Yr unig ffordd i roi terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yw dod at ein gilydd, fel un tîm unedig, gyda'n partneriaid cyhoeddus, preifat a chyrff anllywodraethol, i gyflwyno dull system gyfan fel bod pawb sy'n cael eu heffeithio gan broblemau o'r fath yn cael mynediad at wasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion, yn eu cymunedau, a hynny cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
Ddeng mlynedd yn ôl, cyflwynwyd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sydd wedi gwella ymwybyddiaeth, hyfforddiant a mynediad at wasanaethau cymorth i'r rhai sy'n ddioddef trais a chamdriniaeth ledled Cymru. Eto, mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod yn epidemig,boe d hynny yn gam-drin domestig a thrais rhywiol neu'n rheolaeth drwy orfodaeth ac aflonyddu ar ein strydoedd ac yn ein gweithleoedd. Mae hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n deillio o anghydraddoldebau dwfn.
Mae goroeswyr wedi bod yn ddewr iawn yn rannu eu profiadau heddiw. Rhaid i'w lleisiau gael effaith ar sut rydym yn cynllunio gwasanaethau, datblygu polisïau ac yn dangos arweinyddiaeth.
Mae'r gynhadledd sector cyhoeddus hon yn dangos bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithredu, yn ein hymrwymiad cyffredin i greu Cymru lle gall menywod a merched fyw eu bywydau heb gysgod trais a chamdriniaeth.
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, am gymorth a chyngor:
- Rhif ffôn am ddim: 0808 8010 800
- Neges destun: 0786 007 7333
- E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
- Sgwrs fyw: drwy'r wefan
Os ydych mewn perygl uniongyrchol ac os nad yw'n ddiogel ichi siarad, ffoniwch 999 ac yna 55 i dynnu sylw'r heddlu.
