O 24 Chwefror, bydd angen i gyflenwyr gyflwyno eu gwybodaeth cyn-gymhwyso mewn ffordd wahanol.
Mae Nodyn Polisi Caffael Cymru 001 Holiadur Dewis Safonol ar gyfer Contractau Gweithiau wedi ei gyhoeddi ar LLYW. CYMRU yn esbonio'r trefniadau newydd i gyflenwyr gwblhau a chyflwyno gwybodaeth 'cyn-gymhwyso' greiddiol.
Ar gyfer contractau gweithiau, bydd set gwestiynau'r Safon Asesu Cyffredin (CAS) yn cael ei defnyddio. Wedi'i ddatblygu gan Build UK. CAS yw'r safon a gydnabyddir gan ddiwydiant ar gyfer cyn-gymhwyso cyflenwyr yn y sector adeiladu. Bydd set gwestiynau'r CAS yn sicrhau dull safonedig, gan hyrwyddo tryloywder, tegwch, a rhagoriaeth wrth weithredu contractau gweithiau.
Bydd Nodyn Polisi Caffael Cymru yn cael ei gyhoeddi'n fuan gan roi manylion am y trefniadau cyn-gymhwyso ar gyfer contractau nwyddau a gwasanaethau.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: PolisiMasnachol@llyw.cymru