Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles wedi beirniadu'r tueddiad cynyddol o weld gwleidyddion yn disgrifio Brexit heb gytundeb fel ffordd ddilys o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda'r ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn cyrraedd ei hanterth yr wythnos nesaf, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd yn parhau i ddadlau yn erbyn ymadael heb gytundeb yn San Steffan ar ôl i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio i wrthod naid o'r fath oddi ar y dibyn.

Dywedodd:

"Erbyn yr wythnos nesaf, bydd yr etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol drosodd, ac fe fyddwn ni'n gwybod pwy fydd y Prif Weinidog newydd.

"Rydyn ni wedi gweld yr ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth yn cystadlu â'i gilydd i weld pwy sy'n medru bod fwyaf pengaled am ymadael heb gytundeb; mewn cystadleuaeth am y brif swydd sy'n canolbwyntio ar anghenion y Blaid Geidwadol ac nid anghenion y wlad; a thrafodaeth sy'n anghofio'n llwyr bod y ffordd y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn cael effaith go-iawn ar swyddi pobl a'u bywoliaeth. Rydyn ni wedi dweud o'r cychwyn y byddai hyn yn drychinebus i'r Deyrnas Unedig yn gyfan, ond yn arbennig i Gymru.

"Ac nid dim ond ni sy'n dweud hynny. Fe ddylai'r rhestr o fusnesau sy'n mynegi pryderon dwys am ymadael heb gytundeb ein sobri. Mae mwy a mwy o arbenigwyr yn tynnu sylw at y cymhlethdod ychwanegol mae'r dyddiad ymadael ym mis Hydref yn ei greu.

"Mae normaleiddio Brexit heb gytundeb, a’r syniad ei fod yn ddewis rhesymol yn wyneb y dystiolaeth ysgubol i'r gwrthwyneb, yn gwbl anhygoel.

"Mae Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwrthod y syniad o ymadael heb gytundeb yn llwyr. Wrth edrych yn rhesymol ar y ffeithiau moel mae’n gwbl amlwg y byddai hynny’n drychineb lwyr i Gymru.

"Yn ystod y drafodaeth ar y refferendwm dair blynedd yn ôl, doedd ymadael heb gytundeb ddim yn cael ei gynnig fel opsiwn ymarferol. Roedd y rhai oedd yn dadlau dros ymadael yn addo mynediad at y Farchnad Sengl a masnach ddirwystr gyda'r Undeb Ewropeaidd.

"Yn syml, does dim mandad ar gyfer ymadael heb gytundeb. Dydy canfasio barn 160,000 aelod o'r Blaid Geidwadol ddim yn fandad cenedlaethol ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mewn ffordd a fydd yn rhacsu'r economi. Dydyn ni ddim yn mynd i sefyll naill ochr a chaniatáu i hyn ddigwydd.

"Fel Llywodraeth ddarbodus a chyfrifol, byddwn yn parhau ar fyrder gyda'n paratoadau ar gyfer ymadael heb gytundeb ym mis Hydref, ond ar yr un pryd byddwn yn parhau i ddadlau dros roi'r penderfyniad terfynol yn ôl i'r bobl. 

“Byddai'n gwbl gywilyddus i unrhyw Lywodraeth dynnu'r Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb – boed hynny'n fwriadol neu o ganlyniad i ddiffyg gweithredu – heb geisio mandad penodol i wneud hynny.”