Neidio i'r prif gynnwy

Mae noson o gerddoriaeth, dawns a chwedlau yn yr arfaeth ar dir swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno fel rhan o ŵyl Trakz y dref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ŵyl leol flynyddol yn defnyddio ffrynt gwydr trawiadol yr adeilad ar gyfer arddangosfa gyffrous o ddawnsio fertigol yn ei ddigwyddiad agoriadol ar 21 Ebrill. 
Bydd gweithgareddau eraill yn rhan o’r noson sy’n gysylltiedig â Blwyddyn y Chwedlau 2017, gan gynnwys aelodau cynyrchiadau’r Anvil wedi’u gwisgo mewn dillad canoloesol, wal ac ogof ddringo, saethyddiaeth a chyfle i weld draig bren wedi’i cherfio gan yr cerflunydd Simon O’Rourke.  
Mae disgyblion lleol o Ysgol Aberconwy wedi cael y dasg o ysgrifennu cerddi am yr Afanc, anghenfil chwedlonol a arferai byw, medde nhw, yn Afon Conwy.  Caiff y ddwy gerdd fuddugol eu hadrodd yn ystod y noson. 
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates:
“Hanfod Blwyddyn y Chwedlau yw dod â’r gorffennol yn fyw a chreu chwedlau newydd ar gyfer y dyfodol.  Mae’n wych gweld gŵyl leol fel Trakz yn mabwysiadu thema’r flwyddyn.  Rwy’n falch hefyd bod y digwyddiad cymunedol hwn yn cael ei gynnal ar dir swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.”
Bydd gŵyl Trakz yn dechrau am 5.30pm yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru a chaiff digwyddiadau eraill eu cynnal yn y dref ei hun dros y penwythnos.