Mae nwyddau mislif am ddim bellach ar gael mewn mwy o fannau cyhoeddus ledled Cymru, diolch i’r gronfa Urddas Mislif gwerth £3.2m gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cyllid hwn wedi trawsnewid mynediad at nwyddau mislif hanfodol, sydd bellach nid yn unig ar gael yn rhad ac am ddim ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, ond hefyd mewn cannoedd o fannau cyhoeddus, o lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden i fanciau bwyd, clybiau chwaraeon a hybiau ieuenctid.
Gyda'r nod o ddileu tlodi mislif yn llwyr erbyn 2027, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol na ddylai neb golli allan ar addysg, gwaith neu weithgareddau cymdeithasol dim ond oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio neu gael mynediad at nwyddau mislif.
Yn Sir y Fflint, mae 'Partïon Nwyddau Mislif Ailddefnyddiadwy' arloesol wedi dod yn llwyddiant ysgubol, gan gynnig nid yn unig cwpanau mislif, padiau a phantis mislif y gellir eu hailddefnyddo am ddim, ond hefyd gan greu mannau croesawgar ar gyfer sgyrsiau agored am iechyd mislif. Mae Tîm Datblygu Chwaraeon Cymunedol y sir wedi mynd â hyn ymhellach drwy gynnwys nwyddau mislif mewn citiau cymorth cyntaf yn ystod gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Mared Eastwood:
Mae’r Partïon Nwyddau Mislif y gellir eu Hailddefnyddio ar draws Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden wedi helpu i godi ymwybyddiaeth ac addysgu'r gymuned am nwyddau y gellir eu hailddefnyddio, ac am opsiynau sy’n fwy cynaliadwy na nwyddau tafladwy. Gall newid i nwyddau y gellir eu hailddefnyddio gefnogi unigolion i leihau eu heffaith amgylcheddol. Mae dros bum cant o becynnau padiau mislif, pantis mislif a chwpanau mislif am ddim wedi cael eu dosbarthu trwy'r digwyddiadau hyn, gyda llawer o sgyrsiau cadarnhaol am fislif. Mae'r digwyddiadau wedi bod yn gymaint o lwyddiant, maen nhw'n nawr yn cael eu cynnal yn rheolaidd.
Mae'r Tîm Datblygu Chwaraeon Cymunedol wedi ymrwymo i gefnogi iechyd mislif ac wedi mabwysiadu dulliau arloesol i wneud hynny, gan annog unigolion i ofyn am help pan fo angen.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt:
Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylent fod ar gael am ddim i bawb sydd eu hangen.
Mae’r hyn mae Sir y Fflint yn ei wneud wrth gynnig nwyddau y gellir eu hailddefnyddio mewn mannau cyhoeddus tra'n annog sgyrsiau agored am fislif yn helpu i chwalu stigma. Rwy'n arbennig o falch o weld nwyddau mislif ar gael yn ystod gweithgareddau chwaraeon, gan ddileu un o’r rhwystrau i gymryd rhan.
Mae nwyddau mislif am ddim bellach ar gael mewn cannoedd o leoliadau ledled Cymru. Rwy'n annog unrhyw un sydd eu hangen i fanteisio ar y gefnogaeth hon.
Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Lles, Sarah Murphy,
Mae iechyd mislif yn un o'r wyth maes blaenoriaeth yn ein Cynllun Iechyd Menywod. Rydyn ni’n ymdrechu tuag at sicrhau tegwch mislif i bob menyw a merch gyda mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gofal iechyd i reoli eu mislif a’u hiechyd mislif.
Trwy sicrhau bod nwyddau mislif am ddim ar gael yn eang ledled Cymru, rydyn ni nid yn unig yn mynd i'r afael â thlodi mislif, rydyn ni'n grymuso menywod i gymryd rhan lawn mewn bywyd heb rwystrau. Mae dull arloesol Sir y Fflint yn enghraifft o'n gweledigaeth ar gyfer iechyd menywod, gan greu amgylcheddau lle mae anghenion menywod yn cael eu cydnabod a'u diwallu.
