Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd yn mynd i gyngres yr RCN yn Lerpwl penwythnos yma i annog nyrsys i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu Cymru’n llwyddiannus iawn yn y gwobrau nyrsio a bydwreigiaeth yn gynharach eleni.  Cafodd Gwobrau Nyrs y Flwyddyn, Nyrs Gymunedol a Chynorthwyydd Gofal Iechyd RCNi i gyd eu hennill gan staff nyrsio o Gymru. Nyrsys a bydwragedd o Gymru enillodd wobrau Bydwraig y Flwyddyn y Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol ac Ymwelydd Iechyd y Flwyddyn y Journal of Health Visiting hefyd.  

Yn ystod ei ymweliad â Lerpwl, bydd Vaughan Gething yn cwrdd â Melanie Davies sy'n nyrs yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Cafodd Melanie ei gwobrwyo'n Nyrs y Flwyddyn gan yr RCNi am ei gwaith o wneud newidiadau sylweddol i'r gofal sy'n cael ei roi i gleifion sydd ag anableddau dysgu.  

Dywedodd Vaughan Gething:

"Mae ein llwyddiant diweddar yn y gwobrau nyrsio yn dangos pa mor arbennig yw ein staff ni yma yng Nghymru.

"Mae pob un ohonyn nhw yn cynrychioli Cymru a hoffwn eu llongyfarch i gyd. Mae eu llwyddiant yn dystiolaeth bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu cefnogi i ddatblygu ffyrdd gwell o weithio ac i wneud eu gorau dros y cleifion.  

"Dyna mae Cymru yn ei gynnig i nyrsys, a dw i'n mynd i Gyngres y Coleg Nyrsio Brenhinol i gyflwyno'r dystiolaeth honno, ac i annog mwy o nyrsys i ddewis Cymru fel lle i ddatblygu eu gyrfa.

“Mae Cymru'n wlad ddelfrydol i hyfforddi, gweithio a byw ynddi. Mae'n wlad lle y byddwn yn parhau i gynnig bwrsarïau'r Gwasanaeth Iechyd i fyfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr iechyd cymwys yn 2018/19.  Mae'n wlad lle y byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad proffesiynol, ac mae'n wlad wych i ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng bywyd o gwaith naill ai yn un o'r ardaloedd gwledig godidog neu yn un o'r dinasoedd prysur.

“Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi mewn addysg nyrsio, ac mae nifer y nyrsys sy'n  gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn parhau i gynyddu o un flwyddyn i'r llall.  

"Cymru yw'r wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ym maes staffio nyrsys, gan rymuso nyrsys a sicrhau bod yr adnoddau yn eu lle iddyn nhw ofalu'n dyner am gleifion.  Chwaraeodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ran fawr wrth hyrwyddo hyn ac ry'n ni'n parhau i gydweithio'n agos â nhw.  

"Ry'n ni'n hynod falch o'n nyrsys ac yn gweithio i'w cefnogi. Rwy'n gobeithio bydd nyrsys o leoedd eraill yn y DU a'r byd yn ehangach yn ystyried dod atom ni i ddatblygu eu gyrfa."