Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar, mae cyllid Ewropeaidd wedi'i gymeradwyo ar gyfer Rheilffordd Cwm Rheidol sy'n golygu y bydd gwaith yn gallu cychwyn ar orsaf a chyfleuster arddangos amlddefnydd newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd £1.6 miliwn o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi yn y datblygiad drwy raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei harwain gan Croeso Cymru. Nod y rhaglen yw creu 13 o gyrchfannau rhagorol ledled Cymru.  

Bydd y prosiect “O Gymru i Bedwar Ban Byd” yn gweddnewid y terminws presennol yn Park Avenue, Aberystwyth i fod yn orsaf Rheilffordd Great Western o’r 1930au a fydd yn cynnwys cyfleuster arddangos ac adloniant amlddefnydd a chaffi newydd yn hen sied y locomotifau stêm.  

Ynghyd â'r datblygiadau hyn, bydd sied newydd i storio cerbydau yn cael ei adeiladu a fydd yn gartref i'r casgliad gwerthfawr o gerbydau rheilffyrdd hanesyddol. Bydd eu cadw mewn amgylchedd diogel yn helpu i sicrhau eu cadwraeth yn yr hirdymor. Ers yr 1980au, mae'r cwmni wedi bod yn casglu locomotifau stêm o bedwar ban byd. Mae’r casgliad hwn heb ei debyg oherwydd mae'n cynnwys llawer o locomotifau nad oes modd eu gweld bellach mwn mannau eraill. Nid yw'r locomotifau hyn wedi'u harddangos yn gyhoeddus o'r blaen.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis Thomas: 

"Ein nod drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw hoelio ein hymdrech a'n harian ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad hon sy'n gystadleuol ar lefel fyd-eang.  Bydd y datblygiad hwn yn atyniad mawr i ymwelwyr yn y Canolbarth, ac rwyf wrth fy modd bod y cyllid yn helpu'r tîm i gyflawni'r nod o ddarparu casgliad heb ei ail o gerbydau rheilffordd treftadaeth i bawb ei weld a'i werthfawrogi."

Dywedodd Robert Gambrill, Prif Swyddog Gweithredol Rheilffordd Cwm Rheidol: 

"Mae'r pecyn gwaith hwn yn hynod bwysig i Reilffordd Cwm Rheidol a gobeithiwn y bydd yn denu mwy o deithwyr i fan arbennig yn y Canolbarth. Gyda chymorth Croeso Cymru, rydym yn creu profiad i dwristiaid a fydd yn annog mwy o bobl i grwydro'r ardal yn ogystal â'r mannau twristaidd mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

"Rhaid diolch i'n tîm sy'n rhan o'r gwaith hwn am yr holl waith sydd eisoes wedi'i wneud yn y cefndir o ran llunio'r prosiect. Mae Cyngor Ceredigion sydd wedi caniatáu inni gyflawni'r nod o adeiladu'r orsaf yn haeddu canmoliaeth am ei ymdrechion hefyd.

"Rydyn ni, fel cwmni rheilffordd, yn gobeithio y bydd pawb yn ymuno â ni ar y daith gyffrous hon a fydd yn dod â gorsaf o'r 1930au yn ôl i Aberystwyth".

Mae'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth wedi cael cyfanswm o £27.7 miliwn gan yr ERDF tuag at 13 prosiect seilwaith strategol sy'n gyfanswm o £61.8 miliwn hyd at 2021.