O theori i ymarfer: cysyniadoli egwyddorion arweiniol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (crynodeb)
Dyma bedwar adroddiad sy'n darparu tystiolaeth ategol o Flwyddyn 1 y Gwerthusiad Cenedlaethol o'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae'r casgliadau'n disgrifio'r syniadau a'r gwerthoedd sy'n sail i'r Gronfa fel y'u deallir o amrywiaeth o safbwyntiau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn mynd i'r afael â'r cyntaf o'r cwestiynau canolog yn ein hastudiaeth ('I ba raddau mae egwyddorion ystyrlon a gwerthfawr wedi'u mynegi fel rhan o'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol?') ac wrth ateb y cwestiwn mae'n darparu synthesis o ganfyddiadau'r data gwerthuso a gasglwyd yn ystod Blwyddyn 1 gwerthuso'r Gronfa. Mae'r adroddiad yn drosolwg o bedwar adroddiad a gynhyrchwyd gan y tîm sy'n darparu tystiolaeth ategol ar gyfer ein casgliadau. Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd ac yn cyfosod canfyddiadau o'r rheiny.
Framework for Change (Verity a Llewellyn, 2023) sy'n rhoi trosolwg o'r gwerthoedd, y syniadau a'r dyheadau ar gyfer newid a nodir yn y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, gan gynnwys dyluniad y rhaglen a'r cyd-destun ehangach ar gyfer gweithredu.
Rapid Realist Review of the literature (Tetlow et al., 2024) sy'n disgrifio elfennau rhaglenni gofal integredig llwyddiannus a'r rhwystrau i'w llwyddiant.
Group Concept Mapping report (Wallace a Wallace, 2024) sy'n archwilio meysydd consensws a chytundeb ynghylch yr egwyddorion a'r cysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.
In-depth Scoping Interviews report (Bryer a Bebb, 2024) sy'n darparu dealltwriaeth rhanddeiliaid o syniadau, y cysyniadau a'r egwyddorion dylunio sylfaenol sydd wedi llywio datblygiad y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol hyd yma.
Canfyddiadau
Mae'r pedwar papur tystiolaeth ategol yn cynnig cipolwg ar y syniadau a'r gwerthoedd sy'n llywio'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, o bob math o safbwyntiau gwahanol. Ar ôl dadansoddi'r holl ddata a gasglwyd, mae'r tîm astudio wedi nodi pum thema drawsbynciol.
- Cysyniadoli'r egwyddorion neu'r cyfarwyddiadau arweiniol sy'n sail i'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.
- Dyheadau ar gyfer newid.
- Cymhlethdodau gwireddu'r newid disgwyliedig mewn ymarfer.
- Datblygu'r Modelau Gofal.
- Ansawdd casglu ac adrodd data.
Yn fras, mae cefnogaeth i weledigaeth ac uchelgais integreiddiol a chydweithredol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, ar gyfer gweithredu egwyddorion allweddol y Gronfa, ac mae arwyddion o ddatblygiadau cadarnhaol a chynnydd tuag at nodau'r Gronfa. Er enghraifft, mae gwaith a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn adeiladu ar brosiectau integreiddio sy'n bodoli'n barod ac mae hyn wedi cefnogi'r prosiectau hyn i '... hit the ground running immediately’ (Brye (Bryer a Bebb, 2024, t.20).
Mae pensaernïaeth y Gronfa Gofal Integredig wedi ymgorffori gwersi o gynlluniau cyllido blaenorol Llywodraeth Cymru, megis y Gronfa Gofal Integredig a'r Gronfa Trawsnewid, a ategodd bwysigrwydd cronfeydd pwrpasol wrth gefnogi integreiddio a gwerth rhannu arferion da a gwybodaeth am werthuso. Mae gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol egwyddorion penodol i lywio camau gweithredu, wedi'u hangori yn neddfwriaeth a pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae ffocws clir ar grwpiau poblogaeth a galluogwyr hefyd.
Fel y gwelir yn y cyfweliadau cwmpasu, mae ymateb cadarnhaol i fwriad ac uchelgais y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae'r asesiad hwn yn amlwg hefyd ym mhroses fapio’r Cysyniad Grŵp gyda sgoriau cymharol gadarnhaol yn cael eu neilltuo i'r cysyniadau 'strategol' sy'n sail i'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ('Uchelgais i Newid', 'Cyfathrebu, Perthnasoedd a Rhwydweithio', ac 'Integreiddio a Chydweithio') (Wallace a Wallace, 2024).
Mae rhai ymatebwyr y cyfweliad Cwmpasu yn ystyried cyfnod buddsoddi 5 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun Cronfa Integreiddio Rhanbarthol yn ffafriol, gan adlewyrchu thema'r Adolygiad Realaidd Cyflym bod buddsoddiad dros amser yn rhag-amod integreiddio effeithiol. Serch hynny, mae'r pwysau ar gyllidebau gwasanaethau craidd a 'rheoli cyllid a galw', fel y nodwyd yn yr ymarfer mapio Cysyniad Grŵp a'r Cyfweliadau Cwmpasu, yn creu amgylchedd cyllidol heriol gyda'r potensial i danseilio rhai o fwriadau'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.
Mae ymatebwyr cyfweliadau cwmpasu yn nodi bod y Cymunedau Ymarfer gwahanol sy'n gysylltiedig â datblygiad ailadroddol y Modelau Gofal, yn dechrau defnyddio'r ddealltwriaeth a'r wybodaeth o ymarfer wrth iddyn nhw symud i fod yn fwy seiliedig ar dystiolaeth yn eu gwaith. Yn y cyswllt hwn soniwyd am Gymuned Ymarfer Gofal yn y Gymuned, Adre o'r Ysbyty, a Chymuned Ymarfer Cefnogi Teuluoedd / NYTH.
Roedd tystiolaeth o'r Adolygiad Realaidd Cyflym y gallai cyffredinoli modelau gofal integredig lleol a rhanbarthol llwyddiannus i lefel genedlaethol, fel y bwriedir gyda'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, fod yn un ffordd o weithredu rhaglenni'n llwyddiannus, ochr yn ochr â phwysigrwydd safoni polisi ac arloesedd gofal integredig ar lefelau cenedlaethol. Fodd bynnag, dywedodd rhai o ymatebwyr y cyfweliadau cwmpasu fod ystyr, pwrpas a bwriadau'r Modelau Gofal braidd yn amwys, a'u bod nhw'n anhapus gyda'r cam-alinio posibl â phwyslais y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar grwpiau poblogaeth (Bryer a Bebb, 2024).
Er gwaetha'r gefnogaeth i weledigaeth y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a dyheadau polisi Llywodraeth Cymru, mae realiti gweithredu neu gyflwyno yn cael eu hystyried yn fwy problemus. Mae'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn gweithredu mewn cyd-destun polisi sy'n prysur newid. Mae ymatebwyr ansoddol yn cyfeirio at oblygiadau'r datblygiadau hyn fel rhai sydd o bosibl yn ‘pulling against integration’ (Bryer a Bebb, 2024, t.7). Bu'r ymatebwyr yn trafod cymhlethdodau sut mae'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn gweithio'n ymarferol, gyda chwestiynau am eglurder agweddau allweddol ar Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol megis y Modelau Gofal, cwmpas ar gyfer ymatebolrwydd lleol, materion casglu ac adrodd data, a rheoli a goblygiadau cymhlethdod dylunio cyllid y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae'r tabl isod yn crynhoi'r themâu a'r materion sy'n deillio o'r canfyddiadau.
Materion Adolygiad Realaidd Cyflym
- Ymreolaeth a chynaliadwyedd
- Cyd-leoli, cydweithio, cyfathrebu
- Gweledigaeth gyffredin
- Rhwystrau i ofal integredig
- Ansawdd y dystiolaeth a'r data
- Polisi gofal integredig cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
- Integreiddio system a fframweithiau gofal integredig
Clystyrau GCM
- Cyfathrebu, cysylltiadau a rhwydweithio
- Integreiddio a chydweithio
- Uchelgais i newid
- Effaith, canlyniadau a gwerthuso
- Cyllid a rheoli'r galw
- Cymhlethdod a chyfyngiadau
- Llywodraethu
Cwmpasu themâu cyfweliad
- Uchelgais gadarnhaol, ond wedi'i ffrwyno
- Amwysedd o ran dyluniad, yn enwedig o ran rôl a phwrpas Modelau Gofal
- Cymhlethdod, yn enwedig yng nghyd-destun polisi sy'n esblygu
- Anhawster wrth allu asesu'r gwahaniaeth a wnaed
- Amgylchedd cyllidol heriol yn tanseilio egwyddorion dylunio
- Cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol, neu beidio
- Rhannu'r hyn a ddysgwyd, ond yn is-optimaidd
Felly, mae'r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma yn codi cwestiynau am y cydbwysedd gorau rhwng disgwyliadau penodol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a'r gallu i ymreoli'n rhanbarthol a lleol a hyblygrwydd i gynllunio a darparu gofal integredig mewn amgylchedd sy'n newid.
Naratifau wedi'u sefydlu: cysyniadau mewn gwrthdaro o fewn y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
O'r dystiolaeth hon, ceir darlun cymhleth o’r ffordd mae'r egwyddorion sy'n gysylltiedig ag integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn benodol o ran y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, yn cael eu cysyniadu. O ystyried hyd a lled a chwmpas yr egwyddorion sy'n cael eu trafod a'u defnyddio ar hyn o bryd yn neddfwriaeth, polisïau ac ymarfer Llywodraeth Cymru, mae yna gyfleoedd, fel y gwelir yn ein gwaith hyd yma, i ailystyried rhagdybiaethau, syniadau a chysyniadau sylfaenol y Gronfa.
Nododd ein synthesis o'r chwe 'phâr' o syniadau a nodwyd gan ddata, neu gysyniadau a oedd mewn rhyw ffordd yn cystadlu â'i gilydd, neu'n gwrthdaro â'i gilydd. Mae'r 'deuadau cysyniadol' hyn wedi'u gwreiddio yn y naratifau am y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, yn seiliedig ar y profiadau a ddisgrifir yn y pedair ffynhonnell dystiolaeth allweddol. Ein ffordd ni o 'wneud synnwyr' o gymhlethdod y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yw'r 'deuadau' hyn. Ein ffordd ni o ddeall y cyd-chwarae rhwng egwyddorion, gwerthoedd, cysyniadau ac adeiladwaith y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, gyda'r bwriad o werthuso'r rhain wrth i'r astudiaeth fynd ymlaen.
Mae'r cysyniadau hyn ar gontinwwm ac mewn gwrthdaro â'i gilydd. Isod, ceir cyfres o ddisgrifiadau o'r cysyniadau hyn fel y deallwn ni nhw yng nghyd-destun y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Nid diffiniadau ffurfiol yw'r rhain – byddai hynny'n gorsymleiddio sefyllfa gynhenid gymhleth – ac nid ydynt yn 'sefydlog' chwaith, gan y byddant yn newid wrth i'r cyd-destun newid.
Aliniad | Dyhead
Mae'r deuad hwn yn ymwneud â natur Cronfa sydd â'r union bwrpas o alinio ag amcanion polisi a hwyluso gweithredu'r amcanion hynny, ond sydd ag uchelgeisiau llawer mwy na dim ond hynny o ystyried ei bwriad datganedig i gyflawni'r addewid o wasanaethau di-dor. Mae'r cysyniadau hyn yn gweithio yn erbyn ei gilydd yn aml o ran sut mae pobl yn disgrifio'r angen i gyflawni ar amcanion penodol y Gronfa, wrth fod yn rhan o drawsnewidiad system gyfan, sector cyfan.
Rheoli | Cydweithredu
Mae'r pâr hwn o syniadau’n fwyaf cysylltiedig â'r ddynameg pŵer sy'n gynhenid yn y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, ac i ba raddau mae rhannu pŵer (trwy gyd-ddylunio, cyd-gynhyrchu a chydweithio) yn newid dros amser. Nid yw hyn yn awgrymu bod y deuad hwn yn gweithredu rhwng partneriaid cenedlaethol a rhanbarthol yn unig, ond ei fod yn gweithredu o fewn a rhwng rhanbarthau a'r sefydliadau maen nhw'n gweithio gyda nhw hefyd.
Cywiredd | Hyblygrwydd
Mae ein data gwerthuso’n tynnu sylw at densiynau ar faterion cywired gyda chanllawiau'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a'r egwyddorion dylunio (yn enwedig Modelau Gofal), ac awydd y rhai sy'n ceisio gweithredu'r Gronfa’n ymarferol i fod â lefelau ychwanegol o hyblygrwydd na'r hyn a gynigir ar hyn o bryd, boed o safbwynt casglu data, gofynion adrodd neu drefniadau eraill.
Atebolrwydd | Ymreolaeth
Yn debyg i'r ddeuad blaenorol, mae ein data'n awgrymu bod tensiynau dros y cydbwysedd cywir rhwng dull cymesur o atebolrwydd, llywodraethu, a gwario arian cyhoeddus, ochr yn ochr â mwy o ymdeimlad o ymreolaeth sy'n cael ei arddel a'i hyrwyddo. Unwaith eto, mae'r tensiynau hyn yn gweithredu ar sawl lefel, a rhwng sawl partner – o genedlaethol i ranbarthol, o ranbarthol i leol, ac yn ôl eto.
Perchnogaeth | Partneriaeth
Mae ein data'n cyfeirio at yr her barhaus o safbwynt perchnogaeth y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, ac i ba raddau mae'r rhaglen waith yn cynnwys dull partneriaeth mewn gwirionedd, neu rywbeth gwahanol. Mae hyn yn ymwneud â'r elfen o ymddiriedaeth sydd (ym marn rhanddeiliaid ac i raddau mwy neu lai) sy'n bodoli ar draws y Gronfa, eto o fewn a rhwng rhanbarthau, a rhwng y rhanbarthau a'r llywodraeth genedlaethol.
Strwythur | Asiantaeth
Yn fwy cyffredinol, mae'r ddeuad terfynol hwn yn cydnabod natur cyllid amser-gyfyngedig y llywodraeth fel y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a'i fod yn ei hanfod yn rhan o batrwm penodol. Mae'n cydnabod yr her a'r tensiwn o fewn y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol o ddefnyddio 'asiantaeth' i gynnal gwaith trawsnewidiol dynamig, o fewn cyd-destun strwythurau sefydliadol sy'n bodoli eisoes. Cymhlethir y sefyllfa ymhellach pan mae'r gwaith trawsnewid yn ceisio newid natur y strwythurau sy'n gweithredu oddi fewn.
Meysydd i'w hystyried ymhellach
Yn dilyn y dadansoddiad hwn, rydym yn rhifo'r 11 ‘maes traws-randdeiliad canlynol i'w hystyried ymhellach’. Nid ydynt yn argymhellion ffurfiol, ond rydym yn cydnabod bod ein gwaith hyd yma wedi nodi sawl mater y byddai’n ddefnyddiol eu hystyried, wedi'u grwpio dan gyfres o is-benawdau fel a ganlyn.
Cydweithio
- Sut allwn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd yn fwy effeithiol o fewn y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, ond hefyd gan eraill sy'n gwneud gwaith tebyg iawn mewn mannau eraill, am heriau cyffredin a sut i'w goresgyn nhw.
- Sut allai egwyddorion, cyfarwyddiadau a gofynion y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol fod yn fwy cydnaws ag asesiadau poblogaeth y rhanbarthau?
- Sut all y rhanddeiliaid allweddol gydweithio i gyd-ddylunio a chytuno ar gyfres o flaenoriaethau ar gyfer y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn y blynyddoedd nesaf?
- Beth ellir ei ddysgu o'r hyn sy'n gweithio'n dda gyda Chymunedau Ymarfer a lle gellir eu hail-bwrpasu a'u hailfywiogi yn unol â bwriadau allweddol y Gronfa?
- Sut allwn ni sicrhau nad yw'r tensiynau a welir yn y deuadau cysyniadol yn rhwystro cynnydd nac yn rhwystrau i gyflawni nodau'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol?
Casglu data, adrodd ac adnoddau
- Beth yw'r cyfle i ailfeddwl sut y gellir taro cydbwysedd mwy cymesur rhwng yr angen i gasglu data o ansawdd uchel, a defnydd effeithlon o adnoddau staff ar draws holl randdeiliaid (cenedlaethol a rhanbarthol) y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol?
- Sut allai'r angen i ddangos tystiolaeth ac adrodd ar weithgareddau ac allbynnau ar sail cydymffurfiaeth ('data i brofi') newid i set ddata mwy strategol ac wedi'i llywio gan ddealltwriaeth ('data i wella') yn unol ag ysbryd datblygu gwybodaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol integredig gwell?
- Sut allai'r symudiadau tuag at set ddata Cymru gyfan helpu i lywio cysondeb heb greu gofynion adrodd gormodol, gan gynnwys dealltwriaeth newydd ar allu nodi a siapio cyfleoedd dysgu y naill oddi wrth y llall?
- Beth yw goblygiadau'r pwysau presennol ar y system, gwasanaeth ac adnoddau – yn enwedig o ran cynaliadwyedd ariannol – ar gyfer nodau gwreiddiol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol?
Modelau Gofal
- Sut allwn ni symud tuag at fwy o eglurder a diffiniad, a dealltwriaeth well o Fodelau Gofal?
- Sut y gellid defnyddio'r syniadau am bwrpas y Modelau Gofal yn gadarnhaol i gysylltu meysydd ymarfer diddorol ac arloesol heb ddyblygu ymdrechion?
Manylion cyswllt
Awduron: Fiona Verity a Mark Llewellyn
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Is-adran Gwasanaethau Ystadegol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 1/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-000-7

