Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Llun 5 Hydref) mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni cwricwlwm newydd i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod gan Gymru bellach weledigaeth glir ar gyfer ei system addysg a’i dysgwyr.

Mae’r adroddiad hefyd:

  • yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o ran ymgorffori dull o ddatblygu ar y cyd ar draws y system fel egwyddor ar gyfer datblygu’r cwricwlwm a llunio polisïau addysg yn gyffredinol
  • yn canmol y cyfathrebu gan nodi ei fod wedi bod yn glir ac yn gyson ac yn cynnwys arweinyddiaeth gryf o’r brig
  • yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r heriau a osodwyd mewn adroddiadau blaenorol a’i bod wedi sefydlu cydlyniad i wahanol elfennau’r polisïau ac eglurder o ran y weledigaeth – gan sicrhau bod sail gryf i weithwyr addysg proffesiynol allu gwneud ‘cenhadaeth ein cenedl’ yn rhywbeth sy’n bersonol iddynt.

Wrth siarad ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Yn ystod fy amser fel Gweinidog, rydyn ni wedi gwneud llawer o ymdrech i gael mwy o gysylltiad rhyngwladol.

Rydyn ni am ddysgu o'r goreuon, fel y gallwn ni fod y gorau hefyd, ac mae gweithio gyda’r OECD wedi bod yn hanfodol i'r dull newydd hwn i Gymru.

Mae'r OECD yn gwybod ac yn deall ein system, a gallan nhw ddal drych i fyny er mwyn inni fel Llywodraeth wella ein hunain. Mae'r adroddiad yn darparu her ddefnyddiol ac yn dilysu'r cynnydd yr ydyn ni’n ei wneud. Hoffwn i ddiolch i bawb sy'n ymwneud â darparu'r adroddiad hwn i ni heddiw.

Yna eglurodd y Gweinidog sut y byddai argymhellion yr adroddiad yn cael eu defnyddio i lywio dyfodol addysg yng Nghymru.

Y wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar Genhadaeth ein Cenedl, meddai.

Bydd hyn yn ystyried argymhellion yr OECD, yn adolygu ein hymdrechion a'n cyflawniadau ar y cyd, ac yn mapio cam nesaf y daith.

Mae ein diwygiadau addysg parhaus, sydd â Chwricwlwm Cymru wrth wraidd iddynt, yn ymdrech genedlaethol a rennir.

Rwy'n hynod falch o fod yn gweithio gydag athrawon, academyddion, ymarferwyr, busnesau, undebau, yr OECD a nifer o rai eraill sy'n adeiladu'r dyfodol hwn i'n dysgwyr, ein hysgolion a'n cenedl.

Mae gennym y sylfeini cryf ar waith, a byddwn yn symud ymlaen gyda'n cwricwlwm newydd.

Cwricwlwm i Gymru, o Gymru, a chan Gymru.