Neidio i'r prif gynnwy

Aeth Carwyn Jones y Prif Weinidog i Ynys Môn heddiw i gyhoeddi'r opsiwn Porffor fel y llwybr a ffefrir ar gyfer y drydedd bont ar draws y Fenai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddai'r opsiwn Porffor yn golygu pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia.  Bydd cyfleusterau ychwanegol ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn cael ei gynnwys fel rhan o'r cynllun.

Dangosodd gwerthusiad o'r opsiynau bod yr opsiwn Porffor yn cynnig y manteision economaidd gorau, yn rhoi gwerth am arian 'uchel' ac yn perfformio orau o ran cyd-fynd â'r briffordd. Roedd hefyd yr opsiwn mwyaf poblogaidd o'r ymgynghoriad cyhoeddus gyda 25 y cant o'r ymatebwyr yn ei roi fel y dewis cyntaf.

Fel rhan o'r camau nesaf hyn, cynhelir ymarfer caffael er mwyn penodi Cynghorwyr Technegol i ddatblygu'r cynllun cychwynnol ac i baratoi ar gyfer cyhoeddi Gorchmynion drafft a Datganiad Amgylcheddol.

Mae angen dadansoddiad pellach hefyd fel rhan o'r cam nesaf o'r datblygiad i benderfynu pa fath o bont sydd fwyaf addas. Mae cost yr adeilad yn dibynnu ar y dadansoddiad hwn.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Mae'r A55 yn bwysig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dyma'r ffordd bwysicaf yn economaidd i Ogledd Cymru, ac mae'n cysylltu'r rhanbarth gyda gweddill Cymru, y DU ac Ewrop.

"Pont Britannia yw'r unig ran o'r ffordd sy'n lôn gerbydau sengl, ac rwy'n gwybod fod hyn yn arwain at dagfeydd yn ystod oriau brig yn y tymor gwyliau. Mae achos cryf iawn dros gynyddu'r capasiti ar draws y Fenai, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn.

"Yn seiliedig ar y gwerthusiad a gafwyd o'r opsiynau, yr opsiwn porffor sy'n perfformio orau, a byddai'n hanfodol er mwyn gwella amseroedd teithio, sicrhau bod yr A55 yn fwy cadarn, a sicrhau teithio mwy diogel ar draws yr Afon Menai.

"Bydd hefyd yn rhoi manteision economaidd ac yn sicrhau bod y ffordd yn addas at y diben gan bod disgwyl i'r traffig gynyddu dros y blynyddoedd nesaf."

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Rydyn ni wedi trafod ein bwriad o adeiladu trydedd pont ar draws y Fenai ers amser, ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn gam sylweddol ymlaen tuag at wneud hynny.

"Mae'r opsiwn porffor yn rhoi'r cyfle inni ddatblygu pont fyddai'n caniatáu i bobl groesi'n hawdd ar draws yr Afon Menai ac yn cefnogi prosiectau yn y dyfodol megis Wylfa Newydd.

"Rydym yn deall yn iawn fod adeiladu pont newydd ar draws y Fenai yn fater sensitif a bydd asesiad a dadansoddiad gweledol yn dechrau nawr cyn i'r math o bont gael ei dewis a'i datblygu fel cam nesaf y cynllun.

"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cannoedd o bunnoedd yng Ngogledd Cymru ac mae cyhoeddi yr Opsiwn Porffor fel y llwybr a ffefrir ar gyfer y drydedd bont ar draws y Fenai yn enghraifft gwych arall o'n hymrwymiad i'r rhanbarth."