Yn wreiddiol, cynlluniwyd rhaglen Llwybrau Dysgu 14-19 yn unol ag un o nodau Y Wlad sy'n Dysgu sef y dylai '95% o bobl ifanc 25 oed fod yn barod ar gyfer cyflogaeth hyfedr neu addysg uwch erbyn 2015'.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Wedyn cynhwyswyd canlyniadau gofynnol y rhaglen yn y Cynllun Gweithredu 14-19 (Canllawiau I a II) ac fe'u datblygwyd ymhellach yn Nogfen Strategol Llywodraeth y Cynulliad sef Gweledigaeth ar Waith.
Mae'r Rhaglen yn anelu at fynd i'r afael â'r angen i ymdrin ag addysg pobl ifanc 14-19 oed mewn ffordd fwy hyblyg a chytbwys, gan ddarparu amrywiaeth ehangach o brofiadau a fydd yn diwallu anghenion amrywiol pobl ifanc yng Nghymru.